Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffigur 6 Prif rannau cyfrifiadur modern wedi ei seilio ar ficroprosesydd 32 bit. Yn hanesyddol, yr angen i ddatrys problemau rhifyddegol mawrion oedd y prif gymhelliad i ddatblygu'r cyfrifiadur; y gwyddonydd a'r peiriannydd, y dyn busnes a'r cyllidwr aelwoddfwyaf. Ondynystody 1980augwelwydcynnydd enfawr mewn meysydd llai traddodiadol fel deallusrwydd artiffisial a phrosesu lleferydd a gwelediad. Felly, mae hi'n addas gofyn pa dueddiadau pensaernïol fydd i'w gweld yn y dyfodol. Mae prosesu ar y cyd, hynny yw defnyddio llawer o brosesyddion yn gweithio gyda'i gilydd ar un broblem, wedi denu sylw llawer iawn o ymchwilwyr. Bydd erthygl ddiweddarach yn ceisio egluro pam mae prosesu ar y cyd wedi dod yn bwysig dros y blynyddoedd diwethaf ac yn trafod rhai o'rmanteision a'r problemau sy'n gysylltiedig â'r dechneg. Bydd yrerthygl yn diweddu drwy drafod rhwydweithiau newral fel un ffordd y gall pensaernïaeth y cyfrifiadur ddatblygu yn y dyfodol. COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE Un o Golegau Cyfansoddol Prifysgol Cymru Prífathro.B. L. Clarkson, DSc, CEng, FRAeS, FSEE, FIOA Darperir y cyrsiau canlynol ar gyfer myfyrwyr gwyddoniaeth: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg. (b) Diplomâu'r Coleg mewn Bioleg Forol Gymhwysol, Ffiseg Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Gwyddor Rheolaeth, Peirianneg Gemegol, Tocsicoleg Geneteg, Geneteg a'i Defnyddioldeb, Peirianneg Fecanyddol. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth yn cynnwys Athroniaeth, Biocemeg, Bioleg yr Amgylchedd, Bioleg Forol, Botaneg, Cemeg, Cyfrifianneg, Daearyddiaeth, Economeg, Ffiseg, Geneteg, Gwyddoniaeth Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Mathemateg, Mathemateg Bur, Mathemateg Gyfrifiadurol, Mathemateg Gymhwysol, Microbioleg, Palaeontoleg, Seicoleg, Swoleg. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Beirianneg yn cynnwys Astudiaethau Busnes Ewropeaidd, Electroneg gyda Chyfrifianneg, Gwyddor Rheolaeth, Gwyddor Rheolaeth Americanaidd, Mathemateg Beirianegol gyda Chyfrifianneg, Peirianneg Deunyddiau, Peirianneg Drydanol a Thrydan, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Fiocemegol, Peirianneg Gemegol, Peirianneg Sifil, Astudiaethau Busnes, Ymchwil Gweithredol, Gwyddor Rheolaeth Ewropeaidd. Mae'n bosibl bellach astudio iaith fodern gyda nifer o'r pynciau gradd uchod, e.e. Mathemateg gyda laith Fodern. Am fwy o fanylion cysyllter â'r Cofrestrydd. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Cedwir dau lawr yn Neuadd Sibly i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr. Gellir cael prospectws a manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd, Coleg Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP. Ffôn: (0792) 205678.