Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymdeithas Linneaidd Bu llawer o sôn yn ddiweddar am systemau biolegol, cadwynau bwyd, a'r modd mae gwahanol rywogaethau yn cyd-fyw. Yn Arizona dechreuwyd arbrawf unigryw sy'n modelu'r ddaear. Mewn tỳ gwydr, â chanddo arwynebedd o ddau erw a hanner, bydd sawl-math o amgylchfyd anialwch, môr, Coedwig ac ymlaen. Bydd y tý gwydr wedi ei selio am ddwy flynedd a diben yr arbrawf yw gweld yr hyn a all ddigwydd wrth adael i system bioleg artiffisial fodoli am gyfnod hir heb ymyrraeth o'r tu allan. Er enghraifft, yn amgylchfyd y môr, bydd tua mil o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion, ac yn amgylchfyd y goedwig drofannol bydd tua thri chant o wahanol blanhigion o ardal yr Amazon. Dewiswyd y rhywogaethau i gynnwys y rhan fwyaf o'r rhai sy'n byw yn yr amgyichfyd f el y byddent yn ffurfio cadwyn bwyd (er am resymau amlwg nid oes anifeiliaid mawr a pheryglusl). Hefyd, mae ardal amaethyddol, ac o hon y bydd y criw, sy'n rhan o'r arbrawf ac yn gorfod aros y tu mewn i'r sêl yn ystod yr arbrawf, yn cael eu bwyd. Gan fod yr adeiliad wedi ei selio, ac ni all dim fynd na dod, bydd rhaid ail-ddefnyddio pob un dim. Purir yr awyr gan f icro- organebau yn y pridd a defnyddir y garthffosaeth ddynol i wrteithio'r tir amaethyddol. Bu sawl problem yn codi gyda'r adeilad. Er enghraifft, er mwyn selio'r ddaearo dan y tŷ gwydr, yr oedd rhaid defnyddio dur â chanddo haen blastig. Costiodd Biosphere 2' ('Biosphere 1 yw'r ddaear) tua$40,000,000. Noddwyd y fenter gan y biliwnydd o Texas, Edward Bass. Gobeithir y bydd Y wybodaeth wyddonol a ddaw o'r arbrawf yn ddigon gwerthfawr i gyfiawnhau'r cost. LLYWYDD O GAERDYDD Y Gymdeithas Linneaidd yw un o'r cymdeithasau gwyddonol hynaf yn y byd ac yn uchel ei bri ymhlith gwyddonwyr. Fe'i sefydlwyd yn 1788 ac yn wreiddiol bu'n ymwneud yn bennaf ag astudiaethau naturiaethegol; erbyn heddiw y mae'n rhoi sylw i ystod eang o broblemau bioleg gyfoes a neilltuir un o'i thri chylchgrawn i faterion esblygiadol. Mae'n debyg mai'r Cymro cyntaf i gael ei ethol yn aelod o'r Gymdeithas oedd Hugh Davies, awdur Welsh Botanology. Digwyddodd hyn yn 1790. Ac eleni, ddwy ganrif union yn ddiweddarach, Llywydd y Gymdeithas yw'r Athro M. F. Claridge o Brifysgol Cymru, Coleg Caerdydd. Addysgwyd Mike Claridge yn Ysgol Lawrence Sheriff Rygbi a Choleg Keble, Rhydychen. Ymunodd ag Adran Swoleg Coleg y Brifysgol, Caerdydd yn 1959 ac ymhen y rhawg daeth yn Athro Entomoleg yn yr un adran. Y llynedd dewiswyd ef yn bennaeth yr Ysgol Bioleg Bur a Chymwysedig a sefydlwyd pan unwyd y ddau Goleg yng Nghaerdydd. Entomoleg (Pryfeteg) yw ei arbenigrwydd ac y mae ei gyfraniad i'r maes yn sylweddol. O'r cychwyn cyntaf fe'i huniaethodd ei hunan â'r gymdeithas Gymreig leol. Mynnodd addysg Gymraeg i'w blant a bu ef a Mrs Claridge yn gefn i ysgolion Cymraeg Cwm Rhymni. Bu'n aelod o Bwyllgor Gwyddoniaeth Eisteddfod Cwm Rhymni a'i ferch Elin o Ysgol Cwm Rhymni a enillodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth wyddonol ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd. Blwyddyn nodedig. Biosphere 2 LI.G.C.