Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Portreadau o Wyddonwyr o Gymru Daeth Dai Evans i'm sylw gynta' yn 1969; 'roedd ei chwaer Stella yn fyfyrwraig yma yn Aberystwyth. Galwodd heibio un diwmod i ofyn am gyngor, 'roedd ei brawd iau, sefDai, a oedd yn dipyn mwy galluog na hi, medde hi, newydd ennill ysgoloriaeth i fynd i Rydychen i astudio mathemateg ond nid oedd yn hollol sicr a ddylai dderbyn gan ei fod hefyd yn hoffi'r syniad o ddilyn ei chwaer i Aberystwyth yn wir, o ddilyn traddodiad cryf y rhan honno o'r wlad sef Dyffryn y Gwendraeth. Fy ymateb i oedd y byddwn wrth fy modd pe bai'n dod yma i Aberystwyth, ond os oedd mor alluog â'r hyn awgrymai hi yna efallai y dylai dderbyn y cynnig i fynd i Rydychen. Yna ryw ddiwrnod gallai ddychwelyd i Gymru a chryfhau un o adrannau mathemateg ein Prifysgol gyda'r syniadau diweddaraf mewn ymchwil a hynny o law Cymro. Mewn pwnc mor rhyngwladol â mathemateg mae hynny'n arbennig o bwysig. Erbyn hyn gallwn ymfalchïo bod y freuddwyd honno wedi ei gwireddu. Ganwyd David Emrys Evans yn Cross Hands yn fab i Gwyneth ac Evan Emrys Evans. O Ysgol Ramadeg y Gwendraeth yr aeth yn fyfyriwr i Goleg Newydd, Rhydychen yn Hydref 1969. Graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn mathemateg yn 1972 gan dderbyn un o'rprif wobrwyon, y Wobr Fathemateg Iau. Aeth ymlaen i weithio am ei ddoethuriaeth, gan ymgartrefu yn awr yng Ngholeg Iesu. Derbyniodd radd D Phil yn 1975 pwnc ei draethawd oedd A study ofthe spectral theory and scattering theory of one-parameter groups on C*-algebras. Dipyn o lond ceg, ond i'r cyfarwydd, maes arbennig o bwysig a dwfn ar y ffin rhwng mathemateg bur a ffiseg fathemategol. Yn wir, rhagflas o gyfraniad sylweddol mewn maes a ddatblygodd yn y blynyddoedd diwethaf i fod yn un o gryn bwys. Ar sail y traethawd hwn dyfamwyd iddo Wobr Johnson a'r Wobr Fathemateg Hyn gan y Brifysgol. Wedi cwblhau ei addysg ffurfiol, treuliodd y pum mlynedd nesaf yn teithio ymysg y canolfannau pwysicaf yn ei faes gan ymsefydlu yn arbenigwr rhyngwladol. Hefyd dyma'r cyfnod pryd y daeth yn amlwg mai un o'i ragoriaethau oedd y gallu i gydweithio ag eraill, yn arbennig felly y rhai a gydnabyddir ymysg y rhai mwyaf blaenllaw yn eu pwnc. Felly, treuliodd gyfnodau fel ysgolor neu gymrodor ymchwil yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Dulyn, yn Athrofa Fathemateg Oslo. Prifysgol Califomia yn Los Angeles, Athrofa Fathemategol Prifysgol Copenhagen, Prifysgol Ottawa, Prifysgol Newcastle-upon- Tyne a Phrifysgol Heidelberg. Yn Ionawr 1980, penodwyd ef yn ddarlithydd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Warwick. Ond parhau wnaeth ei ymweliadau â sefydliadau tramor gyda chyfnodau byr yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Prifysgol Genedlaethol Awstralia yn Canberra, Athrofa Ymchwil y Gwyddorau Mathemategol, Prifysgol Kyota a Phrifysgol Ottawa. Fe'i dyrchafwyd yn ddarllenydd ym Mhrifysgol Warwick yn 1986 ac ym Medi 1987 fe'i penodwyd i'r gadair fathemateg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Ers hynny bu'n aelod gwahoddedig DAVID EMRYS EVANS o Athrofa fyd enwog Mittag-Leffler yn Stockholm a buar ar ymweliad arall â Canberra. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n darlithio mewn degau gynadleddau rhyngwladol o bwys ac mewn nifer helaethc brifysgolion ymhob cwr o'r byd. Ond nid ymwelyddyn unig oedd, ymhob man amlygodd ei ddawn arbennig gydweithio ag eraill, gan ddenu nifer helaeth a fathemategwyr blaenllaw i ymweld â phrifysgolion yrr; Mhrydain. Fel arwydd o'i allu dyfarnwyd iddo Wobr Iau Whiteheat! Cymdeithas Fathemategol Llundain yn 1989 am ei waith ym maes theori algebra operadurol a'i gymhwysiad i ffiseg fathemategol. Daw ei brif gyfraniad ym maes algebrau-C* sy'n algebrau gyda chymhwysion niferus, yn arbennig yn theori systemau deinamegol, ffiseg ystadegol a theori maes cwantwm, pwnc o bwysigrwydd arbennig i sylfaen fathemategol mecaneg ystadegol cwantwm. Mewn gwaith ar y cyd â'r AthroH. Araki o Brifysgol Kyota ag hefyd â'r Athro J.T. Lewis. Dulyn, dangosodd fodolaeth trawsnewidiadau gwedd mewr. model Ising dau ddimensiwn. Cymhwysodd y gwaith hwn i sefyllfaoedd mwy cymhleth fel model Potts. Yn ddiddorol iawn, dangosodd fod perthynas ddofn rhwng model Pott? a gwaith gan Vaughan Jones (un arall o dras Gymreig. yn enedigol o Seland Newydd ond yn awr yn gweithio ym Mhrifysgol California yn Berkeley ond a'i dad yn un gyffiniau Abertawe) a wnaeth ddarganfyddiadau pwysigyn ddiweddar a chanddynt gysylltiadau chwilfrydig ym myd mathemateg a ffiseg. O ganlyniad i hyn, bu Dai Evansyn cydweithio yn ddiweddar â A. Connes o Brifysgol Paris. enillydd Gwobr Field (sydd, ym maes mathemateg gyfystyr â Gwobr Nobel). Mae Coleg y Brifysgol, Abertawe a Phrifysgol Cymruy^ ffodus bod ganddynt wyddonydd mor flaenllaw ar eu staff. Golyga hyn fod Abertawe hefyd yn awr â Chymro Cymraeí yn athro mathemateg. Gyda'r ddau yng Nghaerdydd (}'■ Athrawon Evans a Wiegold (gweler Y Gwyddonydd, Cyt. 25 (3), t. 93)) a'r tri yn Aberystwyth (yr Athrawon Uoyd- Morris (gweler Y Gwyddonydd, Cyf. 25 (2), t.65) ac yn awr yr Athro Russell Davies), ni fu gymaint o Gymry Cymraeg mewn cadeiriau mathemateg ym Mhrifysgol Cymru erioe o'r blaen. Alun O. Morris