Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bacteria Haearn Dyffryn Conwy ìoan ap Dewi yn ddarlithydd mewn hwsmonaeth anifeiliaid Yssol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Fe'i magwyd yn Nyffryn Conwy a derbyniodd addysg yn Ysgol Aberconwy. Graddiodd mewn maethyddiaethym Mangoryn 1980. Yn 1985, derbyniodd radd loetlwriaeth o'rAdran Fiocemeg a Gwyddor Pridd ym Mangor, vn astudiaeth o ddyddodion haearn mewn draeniau amaethyddol. Ihwng 1983 a 1987 gweithiodd i ADAS, fel Swyddog \maethyddol Cynghorol, ar un o'u ffermydd arbrofi ger enffordd. Yno hu'n canolbwyntio ar waith gyda chnydau grawn c yn arhennig ar ddefnyddio ffwngleiddiaid. Dychwelodd i'r idran Amaethyddiaeth ym Mangor ym mis Medi 1987. Mae'n >\frifol am gynlluniau bridio anifeiliaid arfferm y Coleg ac mae ^anddo hefyd ddiddordeb mewn tyfu cnydau ar gyfer bwydo mifeiliaid. Mae'n briod, a chanddo ddau o blant. Mae cynnal Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle i gofio jenwogion ardal, ac mae gan Ddyffryn Conwy ei henwogion ym myd llenyddiaeth a cherddoriaeth, a fu'n amlwg yn nathliadau a gweithgareddau Eisteddfod Llanrwst yn 1989. Mae gan y dyffryn nodweddion unigryw eraill, sef y Bacteria Haearn, sy'n haeddu ystyriaeth oherwydd eu pwysigrwydd ym myd natur, a gellir gweld olion o ddylanwad y grŵp amrywiol hwn o facteria ar hyd a lled Dyffryn Conwy. Dyddodion haearn Fel y mae eu henw cyffredinol yn ei awgrymu, mae'r Bacteria Haeam yn gysylltiedig â dyddodion haearn naturiol. Darganfuwyd bod perthynas rhwng bacteria a dyddodion haeam gan Winogradsky yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir dyddodion haeam mewn ffosydd a phyllau, yn enwedig ar gyrion tir mawnog, ac maent yn amlwg iawn oherwydd eu lliw coch llachar a rhydlyd. Fe'u disgrifir yn aml fel dyddodion 'Ocr', term sy'n adlewyrchu lliw y dyddodion. Mae mwyafrif yr haeam sydd mewn 'Ocr' ar ffurf ocsidiau a hydrocsidiau fferig amorffaidd. Gydag amser dylent grisialu i ffurfio cyfansoddion megis goethite ond atelir hyn mewn llawer o ddyfroedd naturiol gan y lefelau isel o haeam fferus a chan bresenoldeb ïonau a chyfansoddion organig. Mae'n debyg i ddynion cynhanesyddol ddefnyddio dyddodion haearn, wedi eu casglu o'u tarddleoedd naturiol a'u sychu i wneud paent cyntefig ar gyfer darlunio'u hogofau.2 Ceir disgrifiad yng ngweithiau Pliny o'r fasnach broffidiol mewn 'Ocr' ar gyfer paent yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn ddiweddarach, yng ngogledd Cymru, rhwng 1793 a 1815, fe fwyngloddiwyd dyddodion haearn o 'waith Aliocar' a ddisgrifir gan Hugh Derfel Hughes yn ei lyfr Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid (1866). Dyddodion haearn yn Nyffryn Conwy n Nyffryn Conwy, mae enghreifftiau nodedig o yddodion haeam ger yr argae yn Llyn Cowlyd uwchben IOAN AP DEWI Trefriw, a Llyn Coedty ger Dolgarrog. Yma mae'r dyddodion yn tagu ffosydd bychain ac maent yn amlwg yn yr afonydd sy'n llifo o'r argaeau. Yn Llyn Coedty mae'r gweithwyr, sy'n gofalu am yr argae, yn aml yn gorfod clirio dyddodion haeam o nifer o ffosydd bychain i arbed gorlifo. Uwchben y ffynhonnau, a roddodd i Drefriw yr hawl i fod yn dref 'Spa' yn oes Fktoria,3 mae hen waith pyrit. Sylffid haearn (FeS2) ydyw pyrit a chyfeirir ato yn aml fel 'aur-yr-ynfytyn' oherwydd ei liw euraidd. Cafodd pyrit ei fwyngloddio yn y gwaith yn Nhrefriw o dua 1820 hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac am gyfnod byr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Arferid allforio pyrit oddi yma i waith cemegol yn Lerpwl lle'i defnyddiwyd i gynhyrchu sylffwr ac asid sylffwrig.4 Allan o geg y gwaith daw afon sydd wedi'i lliwio'n goch gan y dyddodion haeam. 'Roedd yr afon i'w gweldyn glir gan deithwyr, wrth iddynt hwylio i lawr yr Afon Conwy yn y ganrif ddiwethaf.5 Erbyn heddiw cuddir llawer o olion y gwaith gan goed, er y gellir gweld rhai o'r adfeilion o ochr ddwyreiniol y dyffryn. Yn wir, cymaint yw dylanwad y dyfroedd haeam sy'n llifo o'r gwaith fel bod y caeau islaw, a'r gwaith ei hun wedi cael yr enw Cae Coch. Mae'r dyddodion haearn a ffurfir dan ddylanwad y Bacteria Haeam yn gallu datblygu hefyd mewn systemau draenio amaethyddol.6 Er nad oes tystiolaeth o broblemau amlwg a chyffredin mewn caeau amaethyddol yn Nyffryn Conwy, 'rwyfwedi clywed ffermwr ger Conwy yn sôn am dynnu 'Ocr' fel llinyn allan o un o'i ddraeniau. Haearn dyddodiad cemegol Mae dyddodion haeam yn datblygu o dan ddylanwad ffactorau cemegol a biolegol. Er mai'r ail ffactor yw prif destun yr erthygl hon, mae'n bwysig trafod dylanwad prosesau cemegol er mwyn gwerthfawrogi cyfraniad y Bacteria Haeam. Dyfroedd niwtral Mae dyddodiad cemegol haeam wedi'i astudio'n drylwyr, ac mewn toddiannau gyda pH sy'n fwy na 6.0 gellir ei