Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

acteria Haearn Edafog (Ffigur 1). Mae'r Bacteria aearn Edafog yn cynnwys tri theulu arbennig sef nhaerotilus, Leptothrix, a Gallionella. Eu prif nodwedd yw eu bod yn tyfu ac yn atgynhyrchu gan adael edafedd, «n ymddangos fel casgliad o diwbiau neu linynnau wrth Irych amynt gyda microsgop. Mae gan Gallionella gell siâp ffeuen a choes dirdro. Mae'r bacteria edafog yn tyfu eu gorau dan amgylchiadau lle mae'r pH yn uwch na 5.0. n gyffredinol mae'n rhaid iddynt gael cyfansoddion ganig er mwyn cael ynni, er bod rhai gwyddonwyr yn grymu y gall Gallionella wneud defnydd o fferus sylffid gynhyrchu ynni. Yn yr amgylchfyd mae'r Bacteria Haeam dafog yn byw mewn dyfroedd lle ceir haeam a gwelir ronynnau fferig yn amlwg ar edafedd y bacteria hyn dan microsgop. Er eu bod yn tyfu ynghyd â dyddodion haearn ewn dyfroedd naturiol, nid oes prawf eu bod yn defnyddio csidiad haeam fferus er mwyn cael ynni ac mae'r berthynas ocemegol rhyngddynt a haeam yn parhau'n ddirgelwch. Fel yr esboniwyd uchod, mae dyddodiad haeam yn igwydd yn gyflym, heb ddylanwad bacteria, mewn yfroedd niwtral lle mae'r Bacteria Edafog yn tyfu. Er y ellir esbonio dyddodiad haearn trwy ffactorau cemegol, ae'r Bacteria Edafog yn lluosog mewn dyddodion haeam, c ni ddylid anwybyddu eu presenoldeb a'u dylanwad wrth rafod datblygiad y dyddodion. Yn sicr, ni fuasai'r yddodion mor afaelgar a thew yn eu habsenoldeb. Gwelir yn yn glir os cymerir dwr o'r ffosydd ger Llyn Cowlyd a lyn Coedty. Mae'r dŵr sydd yn glir i ddechrau yn datblygu ystyrau coch o fewn ychydig o ddiwmodau. Os yw'r dwr cael ei ffiltro i gael gwared â bacteria, mae dyddodion aeam yn datblygu o fewn yr un cyfnod o amser ond ar ffurf aen denau yn hytrach na chlystyrau pendant. Diweddglo Ers yr amser pan gasglwyd 'Ocr' o bwll neu ffos, gan ddyn ntefig, i gofnodi ar furiau ei gartref ogofaol yrhyn a oedd n bwysig yn ei brofiad ac i'w fodolaeth, mae cyfnodau pan ae dynion wedi gwneud defnydd o ddyddodion haeam. Enw drwg sydd gan y bacteriwm Salmonella, ond yn ddiweddar, dangoswyd bod modd ei ddefnyddio er lles dynolryw. Newidir y bacteria yn enetigol er mwyn iddynt gynnwys genynnau sy'n perthyn i glwyfau eraili, megis tetanws, a gwneir 'brechlyn' y gellir ei lyncu. Fel hyn, mae'r bacteriwm yn medru creu protein sy'n cynhyrfu system imwnedd corff ac yn creu gwrthgorff. Os bydd organeb y clwyf yn cyrraedd y gwaed, bydd y gwrthgorff yn adweithio yn ei herbyn. Rhag ofn i'r Salmonella greu anhwylder, dinistrir y genynnau nîweidiol ynddo. Gobeithir na fydd angen defnyddiö'r bacteriwm byw yn y dyfodol, ac y gellir ychwanegu proteinau'r clwyf at V proteinau sydd ar wyneb celloedd Salmonella. Cawsant eu defnyddio i wneud paent ac maent wedi bod yn ffynhonnell o gemegion crai i danio diwydiant a chynhyrchu. Yn Nyffryn Conwy hefyd mae'r dyddodion haeam wedi dod yn sail i ddatblygiadau diwydiannol a thwristaidd. Erbyn heddiw, nid yw'r dyddodion haeam a'r bacteria sy'n gysylltiedig â hwy, yn cael llawer o sylw, ac eithrio ar sail y problemau a achosir ganddynt. Eto, mewn cyfnod pan fo biotechnoleg yn tyfu yn ei phwysigrwydd, a lle rhoddir pwyslais ar facteria fel proseswyr defnyddiau crai, efallai y dylid cofio'r Bacteria Haeam. Mae rhai o'r Thiobacilli eisoes yn allweddol mewn prosesau diwydiannol i adennill halwynau copr ac wraniwm o fwynau o radd isel a gwastraff ond efallai y dylid ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio'r Bacteria Haearn ar gyfer prosesau biotechnolegol eraill. Cyfeiriadau 1 A.A. Thomburn a B.D. Trafford, 'Iron ochre in field drains a summary of present knowledge', Field Drainage Experimental Unit Technical Bulletin, (1976/1). 2 H. Gardner, Art through the Ages (G. Bell, t936). 3 J.W. Hayward, Guide to Trefriw and the Vale ofConway Spa(m\). 4 C. Thomas, 'The shipping trade of the river Conway in the early nineteenth century', Caernarfonshire Historical Society Transactions, 33 (1972), 233-45. 5 A. Roberts, Gossiping Guide to Wales (Hodder and Stoughton, 1876-7), 163-4. 6 A.A. Thombum a B.D. Trafford, art. cit. 7 C. Walker, D. Morris a M. Swithenby, 'Energy and environment' yn Biotechnology, Laboratory to Market Place Cyf. 2, PS621 Y Brifysgol Agored (1985), 47-106. Salmonella