Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

The Genetic Jigsaw gan Robin McKie; Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1988. Clawrcaled,ISBN0-19-212272-x,Pris £ 15.00. Clawrpapur, ISBN 0-19-282139-3, pris £ 4.95. Molecules and Minds gan Steven Rose; Gwasg y Brifysgol Agored, 1987. ISBN 0-335-15813-7. Pris: £ 8.95 (clawr meddal). Dau lyfr sy'n cynrychioli dwy agwedd begynol mewn bioleg gyfoes llyfr McKie yn ddisgrifiadol ac yn ad-ddygol (reductionist) a llyfr Rose yn ddehongliadol, yn ddamcaniaethol ac yn ddigywilydd wrth- ad-ddygol. Cefais lyfr McKie yn un darllenadwy iawn; dylai fod yn ddealladwy i'r sawl sy'n meddu ar wybodaeth sylfaenol o fíoleg a chemeg ac sy'n awyddus i wybod faint o'r gloch yw hi ym myd geneteg gyfoes. Ceir disgrifiad o'r berthynas rhwng cromosomau a genynnau a biosynthesis proteinau ac am y clefydau etifeddol a all eu hamlygu eu hunain pan fydd nam yn y patrwm genetig. Trafodir rhai o'r rhain yn bur fanwl megis Corea Huntington a Syndrôm Down a cheir disgrifiad cydymdeimladol o'r trasiedi genynnol a ddisgynnodd ar Ddafydd ac Elinor Wigley. Mae i gynghori genetig ran hanfodol yn y clefydau etifeddol hyn ac mae McKie yn rhagweld eu goresgyn gan beirianneg enetig rywbryd yn y dyfodol. Ond am y clefydau hynny sy'n ganlyniad i ryngweithiad rhwng etifeddeg a'r amgylchfyd ni ellir bod mor bendant. Ymddengys fod elfen etifeddol yn bwysig mewn clefydau megis clefyd Alzheimer, clefyd y galon, rhai mathau o glefydau'r meddwl i enwi rhai yn unig. Ond i ba raddau y dylid ystyried erthylu plant sy'n meddu ar gyfansoddiad genetig sydd yn eu tueddbennu i gyfeiriad y cyflyrau hyn sy'n gwestiwn arall. Cwestiwn arall eto ac un sy'n poeni nifer cynyddol o bobl yw i ba raddau y dylid wedyn fynd ati i ddefnyddio peirianneg enetig i newid personoliaeth dyn a pha ganllawiau 'normalrwydd' y dylid eu derbyn o anelu i wella' cymdeithas trwy ddulliau peirianneg enetig. Dyma'r math o gwestiwn a wynebir gan Rose yn ei lyfr Molecules andMinds. Prif ofid Rose sy'n adnabyddus fel Iladmerydd gwrth- ad-ddygedd biolegol yw fod gwyddoniaeth gyfoes yn cyflym fynd yn llawforwyn i ideoleg y dde, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol. Awgrymir, er enghraifft, mai rheitiach peth fyddai trin afiechydon y meddwl trwy ehangu'r gwasanaethau iechyd yn hytrach na thrwy ymyrryd â chyfansoddiad genetig dyn. Darllened y sawl sydd am ddeall dadleuon Rose yn eu cyflawnder, ei lyfr cynharach Not in our genes (Rose, Kamin a Lewontin, 1984). Cynrychiola'r ddau lyfr hwn y ddwy ochr i'r ddadl ad-ddygol gyfoes. Prin bod modd gwrthwynebu gosodiad gwaelodol McKie i'r perwyl y dylid defnyddio peirianneg enetig i'r eithaf i gywiro clefydau etifeddol. Dyma lyfr y dylai pawb sydd am ddeall posibiliadau'r dechneg ryfeddol hon ei ddarllen. Ond peidied neb ag anghofio mai cam bach wedyn fyddai ceisio Ileoli (a dileu) genynnau eraill dyweder am wahanol droseddau neu am wyriadau rhywiol neu hyd yn oed am dueddiadau ideolegol 'peryglus' megis sosialaeth neu gydraddoldeb cymdeithasol neu hyd yn oed am wrth- ad-ddygedd ei hunan! Dyma baradocs yng ngwir ystyr y gair ac un na all fod gan wyddoniaeth yr un ateb iddo. Living Ice gan Robert P. Sharp; Gwasg Prifysgol Caergrawnt. 1988. ISBN 0-521-33009-2. Pris: £ 15.00. Fel y g\Syr fy nghyfeillion un o'm hoff drigfannau yw uchelfannau'r Alpau. Mae rhyw gyfaredd i'r tiroedd hyn ac yn arbennig i'w hafonydd rhew, neu'r glasierau. Dyna un rheswm pam y mwynheais y llyfr hynod ddiddorol hwn. Er bod yr enghreifftiau a'r darluniau i gyd o Ogledd America doedd hyn yn gwneud dim gwahaniaeth o YSilffLyfrau R.E.H. gwbwl i'r mwynhad a gefais o'i ddarllen. Mae'n egluro popetha sut y mae glasierau yn cael eu ffurfio, eu nodweddion, symudiad, a'u heffaith ar y tirwedd. Gyda dwsinau o ddarluniau a diagrama, pwrpasol mae'n hawdd iawn i'w ddilyn a'i ddeall. Un peth sy'n ddiddorol yw fod llawer iawn o'r hyn a wyddySaiìl glasierau'n deillio o ymchwil ddiweddar iawn, gan fod technea modem wedi galluogi daearegwyr i astudio ffurfiant a gwneuthuria; yr afonydd rhew yn fanwl dros ben. Mae'n ymddangos bod buanedc symudiant y rhew'n amrywio o'r canol i'r ochr ac o'r top i'r gwaeloó Canlyniadhyn yw fod yr effaith ar y tirwedd yn wahanol, yn dibynnu ar ba ran o'r cwm sy'n cael ei hastudio. Gwyddwn am glasierau 'gwlyb' a 'sych' o'm profiadau Alpaidc ond wnes i erioed sylweddoli fod y fath beth â glasier 'cynnes' a: 'oer' i'w gael. Credais mai oer oeddynt i gyd. Mae'n debygfe cyfanaledd tymheredd y glasier yn medru bod yn wahanol iawn, bod ymarweddiad yr afon rew yn amrywio yn ôl croesdoriad, tymheredd. O ddeall hyn 011 gellir dehongli patrymau gweddilliorj glasierau'r oes ia yng Nghymru'n llawer mwy deallus a medri; dychmygu'n well natur y tirwedd fel ag yr oedd yn y cyfnod hwniw Maes y daearegwyr ydyw gan yr ystyrir glasierau yn afonydd; ddefnydd creigiol. Hynny yw, yn y bôn nid oes gwahaniaeth sylfaena rhwng craig sydd yn lafa wedi caledu a rhew sydd yn ddvOr wedi caled:. I mi fydd y glasierau hynny yn yr Alpau fyth yr un fath eto, a bydda: yn medru edrych amynt gan eu deall ychydig yn well. Dyma gyfrc addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn. I.apG. C. The Body in Time gan Kenneth Jon Rose: J. Wiley a'i Feibion, 1988. ISBN 0-4718-5762-9. Pris: £ 12.95. Pwy sy'n dweud fod rhaid i lyfrau ffeithiol fod yn anniddorol? Dym; enghraifft berffaith o sut i ysgrifennu llyfr ar sut y mae'r corff y- gweithio, a marw, mewn arddull eithriadol o ddifyr. Y syniad sylfaenol yw fod amser yn rheoli popeth yn y corff dynol. ac unrhyw anifail arall o ran hynny. Mae i'r corff ei glociau mewnol sy'n rheoli popeth o sut mae celloedd y corff yn ymrannu, i'r prosesa: rhywiol sy'n sicrhau fod cenhedlaeth arall i ddilyn, ac yna pryd; byddwn farw. Rhennir y gyfrol yn naw pennod, pob un yn dadansodd gweithgarwch pethau byw, ac yn arbennig y corff dynol, ar raddfeydd milieiliadau, eiliadau, munudau ac yn y blaen hyd at flynyddoedc Disgrifia gyfnewidiadau sy'n digwydd yn y graddfeydd amserhyn Er enghraifft mae cyfnewidiadau'n digwydd yn y nerfau ar ddimensiwn milieiliadol, tra y rheolir rhyddhau wyau i'w ffrwyihte gan yr ofari bob mis. Mesurir ein hoes mewn degau o flynyddoedd. gyda'r cyfnod hwnnw wedi ei reoli gan ein genynnau, hynny yw°! na lleddir ni gan ddamwain neu afiechyd yn y cyfamser. Mae pob mathohanesiondifyrdrwyddoyn lliwio'rffeithiaumoel. Yntorn cyfan i fyny mae dwsinau o 'ffeithiau' bach diddorol wedi eu gos« yma ac acw. Nodir pob un o'r rhain gan ddarlun bychan o oriau' Manion bach megis: 'Cynhyrchir peint o hylif yr ymennydd W dydd'; 'Mae'n cymeryd pedairi wyth eiliad i rywbeth yrydych wei ei lyncu gyrraedd y stumog, lle y gall aros am gyhyd â phedairaW neu 'Llosga'r corff galoriau gyflymaf pan wneir ymarferiadau o feftC tair awr ar ôl pryd bwyd.' Mae angen llyfrau sy'n gwneud bywydeg yn ddiddorol, a dyma sicr un sy'n ateb y pwrpas hwnnw. Gwn am ambell i athro a fedra wneud yn llawer gwaeth na darllen cyfrol fel hon ermwyn dysg^u mae cyflwyno eu pwnc mewn ffordd sy 'n ysgogi rhywun i fod eis'3 gwybod rhagor. Unwaith mae hynny wedi ei wneud rydych wedi creu biolegwyr y dyfodol. Mae'n bosibl i lyfrau greu chwilfryd6 a dyma un sydd yn werth ei gael, i'w ddarllen, ac yna i'w gadW Ie, ffynhonnell o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer pob math o achlysur0