Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

The Chemistry of its Components gan T. P. Coultate; llyfrau rpapurCymdeithasGemegolFrenhinol, 1989. ISBN 0-85186- з_з. Pris: £ 5.95. Anodd iawn yn am1 yw cysylltu'r pryd blasus o fwyd o'ch blaen, os ycη yn ddigon ffodus i fedru fforddio un, a'r ffaith mai dull o ^elwyddo cemegion angenrheidiol i'r system dreulio, i'n cyrff yw'r gweithgaredd hwn. Efallai mai difetha'r danteithion fyddai eddwl felly ar achlysuron arbennig, ond i sicrhau iechyd rhaid ceisio rhau cyflenwad digonol ohonynt. Sylweddolwyd hynny'n weddol nnar yn hanes dyn mae'n amlwg! Ond gyda dyfodiad gwyddoniaeth iadansoddol daeth yn angenrheidiol ddadansoddi'n fanwl yr hyn a yytawn. Llawlyfr yw'r gyfrol hon sy'n grynodeb diweddar eitha anwl, addas i fyfyriwr ac athro, o gynnwys cemegol ein bwyd. Ceir yn y llyfr hwn ddwsin o benodau'n trafod popeth o ddwr, siwgwr starts, brasterau, proteinau, lliwiau, blasau, cyffeithion, halwynau fitaminau yn ogystal â chynhwysion annymunol cyffredin. Mae igen cefndir o gemeg sylfaenol a bywydeg i fedru dilyn y rhan fwya rcynnwys, ond wedi dweud hynny mae'r cyfan wedi ei gyflwyno'n lir a chryno. Cyfyngedig yw'r rhestr gyfeiriadau, ond cyfeirir at rai frau arbennig os yw'r darllenydd am ymchwilio ymhellach i'r pwnc, e y byddai'n fwy tebygol iddo/i fedru canfod cyfeiriadaeth at ybodaeth fwy manwl byth. Nid dyna fwriad y llyfr hwn. Mewn odiad byr rhoddir rhestr o'r lefelau o'r prif fitaminau a halwynau a rgymhellir; dyma'r rhai swyddogol ac mae amheuaeth y dyddiau yn a ydynt yn ddigonol. Ond a bod yn deg â'r awdur nid yw'n honni wybodaeth ar y lefel honno, a dyfynnu o gyhoeddiadau swyddogol n unig y mae. Nid yw hyn yn tynnu o gwbwl o werth y llyfr i unrhyw n sydd am ddeall yn well yr hyn yr ydym yn ei fwyta. Cyflwynir y cyfan yn gIir a chryno gyda defnydd helaeth o diagramau a fformwlâu cemegol organig. Am y pris o ychydig dan hwe phunt mae'n werth da, digon i fodloni unrhyw Gardi. Biti garw ad oedd yna gyhoeddiad o'r fath pan oeddwn i'n fyfyriwr! I. ap G Revolution at the Table gan Harvey Levenstein: Gwasg Prifysgol thydychen, 1988. ISBN 0-19-504365-0. £ 16.50 (Clawr caled.) Hanesydd sydd wedi crwydro y tu allan i'w faes arferol yw awdur t lIyfr hwn. Mae'n trafod y newidiadau sydd wedi digwydd i 'fwydlen' r Taleithiau Unedig yn ystod y ganrif a hanner ddiwethaf. Er mai aleidosgopig braidd yw'r ymdriniaeth, cyffyrddir â nifer o agweddau Pelamis Platurus Un o'r creaduriaid mwyaf gwenwynig yw'r môr-neidr melyn Pelamis Platurus a'i wenwyn bum waith gwaeth na gwenwyn y cobra. Ei gynefin ar hyn o bryd yw dyfroedd cynnes Cefnfor India a'r Môr Tawel ac er bod rhannau o'r Iwerydd sef yn fras y dyfroedd cynnes rhwng Sbaen ac Angola yr un mor addas fel cynefin nid yw i'w gael yn y cefnfor hwn. Credir bod dau reswm am hyn. Yn gyntaf, oherwydd lociau a dŵr croyw ni all creaduriaid mor deithio trwy Gamlas Panama. Yn ail, nid yw'r môr-neidr melyn yn bwyta pan mae'r tymheredd yn is na 18°C (64°F) ac os yw'n is na 11 °C (520F) mae'r nadroedd yn marw. Canlyniad hyn yw na allant ehangu eu cynefin oherwydd fe fyddent yn siwr o drengi yn y dyfroedd cymharol oer sydd o gwmpas Penrhyn Gobaith Da, a'r Horn. Pe bai'r ddaear yn cynhesu byddai tymheredd a cherhyntau'r môr yn newid ac un o arwyddion cyntaf yr effaith tỳ gwydr fyddai presenoldeb y môr-neidr melyn yn nyfroedd cynnes yr Iwerydd.LI.G.C. LI.G.C. tra diddorol megis cred y gwladychwyr cynnar fod gorfwyta'n rhinwedd bendant neu gred ffansïol, ond dylanwadol, Horace Fletcher fod rhaid cnoi pob cegaid o fwyd rhyw gant o weithiau cyn ei lyncu. Ceir hefyd ymdrech i gyplysu rhai o'r chwiwiau hyn â ffactorau allanol megis newidiadau cymdeithasol, datblygiadau technolegol, twf y 'ffatrioedd bwyd', geni (a marwolaeth) y wyddor o fitaminoleg ac ati. Er gwaethaf diffygion amlwg yn eu rhesymeg mae'r awdur yn cyffwrdd â nifer o awgrymiadau diddorol. Er enghraifft dyna'r gred fod gorfwyta mewn cymdeithas dlawd yn ddull o ymgyrraedd at sefydlogrwydd a sicrwydd; neu bod arwyddocâd elitaidd, yn y bôn, yn perthyn i nifer o arferion bwyta digon cyffredín. Cymhlethir y sefyllfa bob amser gan amharodrwydd neu gyndynrwydd cyffredinol i newid y patrwm bwyta; mae'r awdur yn ein hatgoffa yn hyn o beth fod marwolaethau'n digwydd yn aml ymhlith carcharorion rhyfel yn nwylo'r Japaneaid adeg yr Ail Ryfel Byd nid o angenrheidrwydd oherwydd prinder bwyd ond o ganlyniad i'r geidwadaeth gynhenid hon. Llyfr i'r hanesydd neu'r cymdeithasegydd yw hwn. Prin y byddai'r maethegydd gwyddonol yn troi ato am wybodaeth, er difyrred ei gynnwys. Nid oes yma unrhyw ymdrin ag arwyddocâd maethyddol bwydydd nag ychwaith â'r berthynas dybiedig rhwng bwyd ac afiechyd. Ac yn ofer y chwilir am unrhyw drafodaeth ystadegol o'r cynnwys neu asesiad gwyddonol o'r newidiadau a'r sefyllfaoedd yr ymdrinir â hwy. Ond prif wendid y llyfr yw'r pwyslais anghymesur ar batrymau bwyta'r dosbarth canol. Mae hyn yn ddealladwy. Y dosbarth canol yw'r un sydd fwyaf tebygol o ymateb i ffactorau (ac a gymhellion) allanol; yn wir, y mae modd dadlau mai ar eu cyfer hwy yn bennaf y 'crëir' y patrymau newydd. Ac ar gyfer y dosbarth hwnnw y mae gennym y data hanfodol hefyd. Ymhlith y llai breintiedig, ar y llaw arall, y rhai na fedrant yn aml iawn ddod o hyd i hanfodion sylfaenol eu lluniaeth, y mae meithrin chwiwiau bwyta yr un mor afreal â dilyn argymhellion at fwyta'n iach. Mae yma rybudd i haneswyr maetheg. Adlewyrchu arferion dosbarth(iadau) neilltuol y mae cyfran helaeth o'r data ymborth a ddefnyddir mor aml ganddynt. 'Rydym ni yng Nghymru'n hen gyfarwydd â'r broblem hon â chynifer o sylwebyddion yn seilio eu sylwadau ar ddata llwyr anghynrychioladol megis cerddi canmol gan feirdd sydd newydd orffen gloddesta wrth fyrddau llawn eu noddwyr. Byddai hanes arferion bwyta'r rhai difrcintientig yn llai difyr efallai ond yn llawer mwy dadlennol ac ystyrlon. R.E.H.