Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar ddaear Cymru y mae pwyslais pennaf y rhifyn rhenni^ hwn ei ffurfiant, ei hadnoddau a'i Lanwad "'ar fywyd. Dros y blynyddoedd mae Ymchwil wyddonol wedi dysgu llawer i ni am «feddodau natur a sut i'w hameisio i ddiwallu gwahanol ofynion. Bellach, rydym wedi cyrraedd croesffordd lle mae'n rhaid penderfynu ar flaenoriaeihau. Rwy'n ysgrifennu'r geiriau hyn yn yr Unol Daleithiau a hyd yn oed yma nid yw'r adnoddau'n ddigonol i allu dilyn pob trywydd. Pa feysydd sy'n haeddu blaenoriaeth? Archwilio'r gwade? Ymchwil geneteg? Dulliau newydd o gynhyrchu ynni? Yr amgylchedd? Ymestyn einioes y boblogaeth? Mae'r cwestiwn yn un dyrys. Ym Mhrydain, fel yn yr Unol Daleithiau mae rhai prosiectau yn sugno rhan helaeth o'r adnoddau. Yn ddiweddar penderfynodd y Cyngor Ymchwil Gwyddonol a Pheirianneg (SERC) na allent fforddio'r gwariant cynyddol ar ffiseg niwclear. Dros y ddwy flynedd nesaf bydd y cyflymydd gronynnau niwclear yn Daresbury, ger Manceinion, yn cau. Dyma gyhoeddi bod Prydain fel gwlad yn rhoi'r gorau i ymchwil niwclear sylfaenol, sy'n golygu ei bod yn y pen draw yn tynnu allan o'r ras i ddeall strwythur y grcadigaeth. Yn yr Unol Daleithiau hefyd mae'r ddadl ynghylch blaenoriaethau yn ffymigo. A ddylid parhau gyda'r arch-gyflymydd niwclear, sy'n fwy nenhol na dim sydd ar gael ac a fyddai efallai'n medru ateb y cwestiwn holl bwysig sut y dechreuodd y greadigaeth a pha fodd y bydd yn gorffen? Cafodd prosiect GENOME gryn gyhoeddusrwydd hefyd. Dyma ymgais i gofnodi popeth π fewn cell ddynol, hyd yn oed y genyn olaf. Y bwriad yw deall cemeg bywyd, a'r modd y mae'n newid ar brydiau ac yn arwain at afiechydon etifeddol. Gyda thaith Atlantis cafodd archwilio'r gwagle ail-ynt yn yr Unol Daleithiau hefyd â thrigolion o'r wlad yn troedio'r uchelfannau am y tro cyntaf ers, pum mlynedd. Megis llwyddiant yr arfau uwch-dechnegol yn Rhyfel y Gwlff mae prosiectau merth fel, hyn yn bwydo balchder cenedlaethol ac fe ^Shofir ar unwaith am siomedigaethau'r weî h^'0] i Et0 ceir lleisiau cryf sy'n galw am well deftiydd o'r adnoddau cyfyngedig a'r awgrym driin üy(id y prosiectau mawr yn cyflym ddirwyn i ben. w ac ganolbwyntio yn y rhifyn hwn ar ddaear ac amgyldhedd gwlad, fe ddylem ninnau hefyd h befb yw ein blaenoriaethau? Er pwysiced y Golygyddol prosiectau mawr, y brif broblem sy'n ein hwynebu heddiw yw'r dinistr sy'n digwydd i'n planed ac mae'r llanast presennol yn Kuwait wedi tanlinellu'r broblem. Yno mae cannoedd o ffynhonnau olew yn llosgi gan greu trwch o huddygl sy'n cuddio'r haul. Bydd miliynau yn marw o ganlyniad i'r drychineb ac mae'r olygfa yn tystio i ddiffyg gofal dyn o adnoddau'r ddaear. Mae'n werth nodi bod cymaint o olew yn cael ei losgi'n ddyddiol yn Los Angeles ag sydd yn cael ei losgi yn ystod yr un cyfnod gan y tanau ffymig yn Kuwait. Cynyddu'n gyson mae poblogaeth y byd, gan hawlio mwy a mwy o adnoddau'r ddaear. Amherir ar gydbwysedd ecolegol y blaned wrth i ragor o dir gwyllt gael ei ddihysbyddu. Mae'r diwydiannau cemegol hefyd yn ymateb i wanc afreolus ein cymdeithas am nwyddau rhatach a mwy cyfleus; nwyddau nad ydynt bob amser yn gydnaws â'n hamgylchedd. Nid ydynt yn dirywio'n fiolegol yn 61 trefn natur, ac yn rhoi'r pridd yn 61 i'r pridd a'r ddaear yn 61 i'r ddaear. Bellach mae'n bryd datgan mai'r brif flaenoriaeth sy'n wynebu gwyddonwyr a chymdeithas yn gyffredinol yw achub y blaned sy'n ein cynnal. Docs dim maes pwysicach. Pa synnwyr sydd mewn neilltuo adnoddau dynol ac ariannol i fagu rhagor o blant mewn tiwb prawf pan nad oes digon o fwyd ar gyfer y rhai sydd yma'n barod? Rhaid datblygu ffynonellau ynni sy'n hirhoedlog a glân. Mae'n gwbl angenrheidiol i harneisio toddiant niwclear fel bod y môr yn ddiogelach tanwydd nag olew a glo. Rhaid i'r cemegydd hefyd ganolbwyntio ar gynhyrchion sy'n gydnaws â'r polymerau naturiol sydd yma'n barod. Wrth ddefnyddio adnoddau naturiol rhaid gofalu nad ydynt yn cael eu dihysbyddu. Yn hytrach rhaid trefnu'n ofalus i'w hatgynhyrchu'n effeithiol. Ni all un wlad gyflawni hyn ar ei phen ei hun. Dangosodd trychinebau'r Gwlff a Chemobyl gymaint yw dibyniaeth gwledydd ar ei gilydd. Cafwyd unfrydedd rhyfeddol yn y Cenhedloedd Unedig ar faterion y Gwlff. Yn yr argyfwng hwnnw cafodd biliynau o ddoleri o bob rhan o'r byd eu cyfrannu tuag at yr ymgyrch filwrol a dyneiddiol. Tybed a all y gwyddonydd drosglwyddo'r neges i genhedloedd y byd bod argyfwng gwaeth hyd yn oed na'r Gwlff, yn ein hwynebu gyda'r amgylchedd? Mae angen ymgyrch lawn mor ymroddedig i ddiogelu'r blaned hon i genedlaethau'r dyfodol.