Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y winllan a roddwyd i'n gofal ni yw Cymru ac wrth gwrs mae'n rhaid dechrau yma. Fe ddiflannodd yr afiechydon a ddaeth yn sgil y gwaith glo a'r chwarel lechi bron iawn i gyd. Dyma brofi bod modd gwella sefyllfa mewn cyfnod gweddol fyr. Mae apêl canmlwyddiant y Brifysgol yn canolbwyntio ar yr hyn y gall sefydliad ei gyfrannu tuag at wella'r amgylchedd. Gobeithio y bydd y gwaith ymchwil a'r gweithgarwch yn gyfrwng i oleuo Cymry cyffredin ynglŷn â'r broblem. Effaith y Pry Parasitig ar Bysgod a Llygredd yn y Môr Erbyn diwedd y ganrif hon byddwn yn gallu edrych yn ôl ar gan mlynedd o ddatblygiad aruthrol mewn gwybodaeth. Ni ellir gwadu i'r ymestyn diwydiannol a gwyddonol gael effaith hynod ar gymdeithas ac nid ydyw er lles bob amser. Un canlyniad i'r twf diwydiannol yw llygredd. Yn 1962 cyhoeddodd Rachel Carson y llyfr dylanwadol Silent Spring ac ers hynny mae'r pryder cyhoeddus ynghylch materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd wedi cynyddu. Mae pwysau ar wyddonwyr i fesur llygredd ac i ddyfeisio ffyrdd o leihau'r broblem. Yn y cyswllt hwn gall biolegwyr ganfod arwyddion cynnar bod rhywbeth o'i le drwy astudio rhai anifeiliaid yn eu cynefin. Tasg gymharol hawdd yw cysylltu achos ac effaith pan fydd niferoedd mawr o anifeiliaid neu blanhigion yn marw o ganlyniad i lygredd. Mae gwenwyno'r ysgadan ar arfordir dwyreiniol Denmarc yn 1964 yn enghraifft enwog. Beiwyd y gwastraff o ffatri a gynhyrchai wenwyn pryfed parathion. Yn y pen draw gall lefelau isel 0 lygredd fod yr un mor niweidiol a llawer anoddach yw canfod yr effeithiau is-farwol sy'n gweithredu fel rhybuddion cynnar. Yng ngwanwyn 1978 trefnodd y Gymdeithas Frenhinol a'r Pwyllgor Cenedlaethol Prydeinig ar Ymchwil yn y Cefnforoedd gynhadledd er mwyn asesu'r effeithiau is-farwol hyn yn y môr. Ymgasglodd biolegwyr môr o Brydain, gwledydd Sgandinafia Canada a'r Unol Daleithiau. Trafodwyd y canlynol: technegau o wahaniaethu rhwng newidiadau oedd yn cael eu cychwyn yn naturiol a'r rhai oedd yn cael eu cychwyn gan lygredd, croniad difwynion yn anifeiliaid y môr, y defnydd o ecosystemau arbrofol a'r posibilrwydd o ddefnyddio canlyniadau arbrofion mewn dull ymarferol er mwyn rheoli llygredd yn y môr. Yn y cyfarfod awgrymodd Harford Williams bod parasitiaid pysgod yn cael eu defnyddio fel dangosyddion llygredd. Er enghraifft, gall eog yr Fe fydd Y Gwyddonydd yn dilyn y sefyllfa yn ofalus ac yn barod iawn i gynorthwyo'r Brifysgoi yn y gwaith pwysig hwn. Llongyfarchiadau iddynt am sylweddoli mai cyfrifoldeb pennaf y Brifysgoi wrth wynebu canrif newydd yw diogelu'r blaned at y dyfodol. Yn y maes hwn y gobaith yw y bydd Prifysgol Cymm yn rhoi arweiniad i Brydain yn gyntaf ac yna i'r byd. GLYN O. PHILLIPS HARFORD Williams A BERNICE Wiluams Ffigur 1: Pry tagell nodweddiadol o gathod mor a morgwn.