Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cwmni Papur Shotton 1985-1991: Defnyddio Coed Cymru O fewn chwe blynedd i gomisiynu eu peiriant cynhyrchu papur cyntaf ym Mai 1985 cynhyrchodd Cwmni Papur Shotton dros filiwn o dunelli o bapur ar gyfer gwneud papurau newydd. Mae gan y cwmni weithlu o dros 450 a chyflogir 2,200 ychwanegol yn yr ardaloedd gwledig Ue tyfir y coed sy n ddeunydd crai ar gyfer y melinau. Fel rhan o Grŵp Melinau Papur Unedig o'r Ffindir dechreuodd yr ail felin ar ei gwaith yn Awst 1989. Bellach y cwmni yn Shotton yw'r gwneuthurwr papur newydd mwyaf ym Mhrydain yn cynhyrchu tua 430,000 o dunelli bob blwyddyn. Gyda thwf yr ymwybyddiaeth amgylcheddol fe ddechreuodd y cwmni yn ddiweddar ymchwilio i ddulliau o ail-gylchu papurau newydd a chylchgronau. Agorwyd melin ffeibr yn arbennig ar gyfer y gwaith hwn ym Mawrth 1989 ac mae'n ail-gylchu 150,000 o dunelli papur y flwyddyn. Mae'r cwmni wedi cyfuno gwaith y felin yng ngogledd Cymru â rhaglen goedwigaeth uchelgeisiol a fydd yn cyfrannu 30% o'r pwlp a fydd ei angen ar y cwmni yn ystod y 1990au. Yn ogystal â rheoli ei fforestydd ei hun yng Nghymru a'r Alban mae Cwmni Papur Shotton yn cynnig gwasanaeth rheoli yn rhad ac am ddim i berchnogion preifat a sefydliadau sy'n ymwneud â phlannu, gofalu a chynaeafu coedwigoedd. Hyd yn hyn buddsoddwyd £ 260 miliwn yn y cwmni ac ar safle o 170 acer mae yna ddigon o Ie i ymestyn. Mae'n bur debyg mai adeiladu gorsaf bwer fydd y cam nesaf. Kevin Lyden, brodor o'r ardal, sy'n rheoli'r cwmni a'i weledigaeth ef a arweiniodd at sefydlu'r gwaith yn Shotton gwaith sydd bellach yn darparu 20% o'r papur newydd a ddefnyddir ym Mhrydain heddiw. Ar y cyd â melinau'r cwmni yn y Ffindir yn Strasborg, Kaipola a Kajaani mae Shotton yn cynnig gwasanaeth unigryw i gwsmeriaid o fewn y Gymuned Ewropeaidd ac mae iddo enw da iawn yn y gwledydd hynny. Yng Nghymru, mae'r melinau yn Shotton yn darparu deunydd ar gyfer papurau newydd yng Nghaerdydd, Abertawe, Llandudno a'r Wyddgrug. Caiff 17% o'r cynnyrch ei allforio i wledydd y Gymuned Ewropeaidd ac wrth gwrs mae'r felin mewn safle delfrydol i ddosbarthu'r cynnyrch drwy ddefnyddio'r rhwydwaith reilffordd, y ffyrdd a'r môr. Bu'r farchnad yn un llewyrchus iawn ar ddiwedd y 1980au a gwnaeth Cwmni Papur Shotton ddigon o elw i allu ad-dalu'r buddsoddiadau gwreiddiol gan ail-fuddsoddi ar gyfer y ddegawd newydd. Er gwaethaf y sefyllfa economaidd bresennol mae'r gwaith modem hwn yn edrych ymlaen at ddyfodol cadam a llewyrchus. |±» Melin Bapur Shotton LÍU -Un o brif ddiwydiannau Clwyd Pencadlys: Cwmni Papur Shotton Cyf Ffordd Weighbridge Shotton Glannau Dyfrdwy Clwyd CH5 2LL Ffôn: (0244) 830333 Telecs: 61594 SHOTTON-G