Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dylanwad Hinsawdd, Tirwedd a Phriddoedd ar Amaethyddiaeth yng Nghymru Yr Athro J. B- Owen yw pennaeth Ysgol Gwyddorau \maeth a Choedwigaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Bangor. Mae Dr Ioan ap Dewi yn ddarlithydd m yr un adran. Rhagarweiniad Wrth drafod yr amgylchfyd a defnydd tir yng Nghymru ni ellir osgoi amaethyddiaeth gan fod tros 80% o'r tir vn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethu.' Tasg anodd fodd bynnag yw crynhoi dylanwad hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ar amaethyddiaeth yng Nghymru gan fod cvmaint o wybodaeth ar gael ac oherwydd fod y berthynas rhwng y gwahanol ffactorau yn gymhleth. Ni ellir cyfeirio'n hawdd at eu nodweddion unigol heb esbonio eu dylanwad ar ei gilydd ac wrth gwrs mae dylanwadau gwleidyddol ac economaidd yn cymhlethu'r dehongliad ymhellach. Ystyriaeth arall sy'n cymhlethu'r dasg yw bod modd dadansoddi'r dylanwadau mewn gwahanol ffyrdd. Felly fe benderfynwyd edrych yma ar y berthynas ar lefel gymharol syml a disgrifiadol. Gellid bod wedi edrych ar y berthynas trwy gyfres o fodelau, i esbonio, er enghraifft, dyfiant cnydau mewn pcrthynas â nodweddion hinsawdd a phriddoedd Mae systemau cyfrifiadurol wedi hwyluso dadansoddiadau daearyddol hefyd trwy ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Daearyddol (Geographical Information Systems)? Gyda'r rhain gellir dadansoddi patrymau neu wybodaeth o sawl maes a'u cyfuno fel bo angen. O safbwynt Cymru mae'r posibiliadau sydd ynghlwm â'r systcmau hyn wedi eu disgrifio mewn erthygl gan Higgs a Bracken.4 Tabl 1: Prif nodweddion hinsawdd Cymru yn ôl ardaloedd. Ardal® Uchder Glawiad Tymor Dyddiau (m) blynyddol tyfu gyda Môn a Llyn 61 1004 277 55 Gweddill Gwynedd 299 1829 225 175 De-orlìewin Clwyd 282 1184 225 185 Gogledd-ddwyrain Clwyd® 65 786 256 130 Gogledd-ddwyrain Dyfed 345 1632 223 185 a gorllewin Powys 345 1632 223 185 Canolhärth a de Powys 309 1190 229 185 tyfed 123 1258 271 85 Canol Morgannwg 297 1728 229 180 ^Morgannwg 103 1172 268 100 Gwes. 117 746 253 135 (i)Nid yw ffiniau'r ardaloedd yn dilyn union yr un llinellau â ffiniau'r siroedd. (H)Mae tiroedd dros y ffin yn Lloegr yn rhan o'r ardaloedd hyn hefyd. I. AP Dewi a J. B. OWEN Fe edrychir yn gyntaf ar nodweddion y prif ffactorau cyn edrych yn fanylach ar y berthynas rhyngddynt. Mae hinsawdd, tirwedd, priddoedd ac amaethyddiaeth wedi cael eu disgrifio'n fanwl mewn nifer o lyfrau a'r cwbl a geir yma yw braslun o'r prif nodweddion er mwyn hwyluso'r drafodaeth. Hinsawdd Yn aml meddylir am Gymru fel gwlad wlyb gan fod yr hinsawdd yn arforol gyda gwyntoedd gorllewinol yn dod â glaw ym mhob mis o'r flwyddyn. Mae'r gwyntoedd hyn yn glaear yn yr haf a thyner yn y gaeaf.s Un o'r nodweddion pwysicaf o safbwynt yr erthygl hon yw'r amrywiaeth a geir o ardal i ardal 0 ganlyniad i'r newid mewn uchder.6 Mae'r glawiad blynyddol yn amrywio o tua 750mm ar yr arfordir gorllewinol a rhannau o'r ffin ddwyreiniol i dros 4,000mm mewn rhai ardaloedd yn Eryri. Mae elfennau eraill megis tymheredd a heulwen yn amrywio o ardal i ardal hefyd. Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o'r rhain a gellir gweld yn glir yr amrywiaeth mawr a geir o fewn y wlad. Yn yr ardaloedd mynyddig ceir glawiad uchel, tymheredd isel ac ychydig o heulwen o gymharu â'r ardaloedd yn yr iseldir. Tirwedd Meddylir am Gymru fel gwlad fynyddig ac mae cyfran uchel o'r wlad tros 600m a thua chwarter y wlad tros 300m.8 Nid oes patrwm syml i ddosbarthiad yr ucheldir ac mae nodweddion yr ardaloedd mynyddig yn (mm) (dyddiau) thymheredd o dan 0°C