Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Portreadau o Wyddonwyr o Gymru YR ATHRO EMRYS G. BOWEN Ganed yr Athro E. G. Bowen yng Nghaerfyrddin yn 1900 a bu farw yn Aberystwyth yn 1983. Fel llawer i Gymro disglair arall roedd cysylltiad rhwng ei yrfa academaidd â'i gyfraniad i fywyd ei wlad ac roedd pobl Cymru yn ddiddordeb arbennig ganddo. Mae'r ffeithiau sylfaenol ynglyn â'i yrfa yn ddigon hysbys. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle yr enillodd radd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn daearyddiaeth yn 1923. Y flwyddyn ganlynol enillodd ddiploma i athrawon ac yna, ar ôl blwyddyn o waith vmchwil yn Aberystwyth, daeth yn gymrodor ymchwil cyntaf i Cecil Prosser yng Ngholeg Meddygaeth Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Yn ystod 1928-9 penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr adran ddaearyddiaeth ac anthropoleg (fel yr oedd bryd hynny), yn Aberystwyth ac yno y bu am weddill ei yrfa. Penodwyd ef yn Athro Gregynog yn yr adran yn 1946 ac fe ymddeolodd yn 1968. Yr oedd E.G.B., fel yr adwaenid ef yn gyffredinol, yn un o "ddaearyddwyr yr ail genhedlaeth'. Dyma'r genhedlaeth gyntaf i fynd i mewn i'r bywyd academaidd yn meddu ar radd mewn daearyddiaeth, gan mai Aberystwyth, yn 1917, oedd y brifysgol gyntaf i gynnig graddau dechreuol mewn daearyddiaeth yng nghyfadrannau'r celfyddydau a'r gwyddorau fel ei gilydd. Symud i'r maes o ddisgyblaethau eraill a wnaeth daearyddwyr y genhedlaeth gyntaf' Pwnc gwreiddiol Fleure, er enghraifft, oedd Swoleg. Yr oedd 'yr ail genhedlaeth' felly i chwarae rhan allweddol yn y broses o sefydlu daearyddiaeth fel pwnc academaidd, ac fe wnaeth Bowen hyn yng Nghymru trwy ei ynni, ei esiampl ac yn anad dim ei argyhoeddiad a'i frwdfrydedd diflino. Nid gwaith hawdd oedd cyflwyno pwnc newydd, ac un yr oedd cryn amheuaeth yn ei gylch ymysg ysgolheigion, i fframwaith anhyblyg y byd academaidd confensiynol, a theymged i'w ymdrechion ef yw bod daearyddiaeth yn cael ei ddysgu ar raddfa mor eang yn ysgolion a cholegau Cymru heddiw. Er bod dylanwad Fleure yn drwm ar Bowen gellir olrhaio ei wreiddiau academaidd i Friedrich Ratzel a'r Atlthr°pogeographie. Dyma'r gwaith a gysylltodd ddaear idiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg â Darw ac a sefydlodd ddaearyddiaeth ddynol (astudi. uh o'r berthynas rhwng dyn a'i gynefin), fel pwnc. íthropolegydd oedd Ratzel ac fe bwysleisiwyd Swydd acth diwylliant mewn ffordd o fyw gan ei 0lW.ti, Vidal la Blache hefyd. Yn ôl Vidal roedd ^10^ hanesyddol yn bresennol bob amser, yn yianv:vdu ar holl genedlaethau'r ddaear yn eu tro. Canlyr.i..«l y dull hwn o feddwl oedd bod wyneb y ddaear yn cael ei ystyried fel palimpses neu yn ôl y gyfatebiaeth a ddefnyddiai Bowen, llawysgrif ac iddi sawl gwahanol haen o ysgrifen. Rhaid gwahanu'r haenau a'u dehongli bob yn un ac un. Dyma'r traddodiad yr addysgwyd Bowen ynddo, ac o'r traddodiad hwn y deilliai ei dri diddordeb mawr sef nodweddion ffisegol poblogaethau arbennig; arwyddocâd y dreftadaeth ddiwylliannol ac effaith yr amgylchedd ffisegol ar fywyd. Hynny yw, roedd cysylltiad pobloedd â'r tir, eu cymeriad ftisegol a'u ffordd o fyw yn egluro patrwm wyneb y ddaear. Anthropoleg ffisegol oedd maes ymchwil cynnar Bowen a thestun ei draethawd MA oedd South West Wales: a study of physical anthropological characters in correlation with various distributions. Yn 1925 cyhoeddodd ei bapur cyntaf a'r testun oedd A study of rural settlements in South-West Wales ac yn y pen draw dyma'r maes a aeth â'i fryd. Aeth ymlaen i astudio'r anheddau a ddatblygodd ym Mhrydain yn sgil y celloedd cynnar a sefydlwyd gan y seintiau Celtaidd. Yn 1932 ysgrifennodd erthygl ar "Early Christianity in the British Isles' ac yn 1934, cyhoeddodd erthygl yn yr Aberystwyth Studies ar "The Travels of St. Samson of Dol'. Ymledodd ei ddiddordeb i gynnwys hanes cynnar gorllewin Prydain, rhagflaenwyr cynhanesiol trigolion cynnar y diriogaeth honno a daearyddiaeth y Brydain gynnar. Gwelwyd ffrwyth ei ymchwil mewn tair cyfrol sef The Settlements of the Celtic Saints in Wales (1954), Saints, Seaways and Setüements (1969), a Britain and the Western Seaways (1942). Amlygir yn y cyfrolau hyn gryfderau yn ogystal â gwendidau ei ysgolheictod. Ei gryfderau oedd ei wybodaeth drwyadl o'r cefndir a'i allu greddfol i ddehongli mapiau dosbarthiadol. Roedd gwrando ar Bowen yn dehongli unrhyw fap yn brofiad unigryw a chyffrous. Ond yn hytrach na sefydlu ei syniadau yn gadarn trwy ddulliau uniongyrchol a chonfensiynol deilliai y rhan fwyaf o'i brosesau a'i dybiaethau o batrymau a fapiwyd yn barod. Annibynadwy a thenau braidd oedd tystiolaeth Bowen felly, ond cymaint ei argyhoeddiad a chymaint ei gelfyddyd nes i'w waith gael ei dderbyn heb unrhyw amheuaeth. Er iddo arbenigo roedd Bowen yn ŵr o amryfal ddiddordebau a doniau. Mae ei lyfr cyntaf Wales, a Study in Geography and History (1941), a'r gyfrol o ysgrifau, Geography, Culture and Habitat (1975), yn amlygu ei amlochredd ac yn dangos mai Cymru oedd ei gariad cyntaf. Cyhoeddwyd tair cyfrol ddwyieithog ganddo yng Nghyfres Gŵyl Ddewi, Gwasg Prifysgol Cymru. David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) 1751-1798 oedd ei destun yn 1974, gŵr a hwyliodd