Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyda Capten Cooke ar ei fordeithiau. Yn 1978 ysgrifennodd am John Hughes (Yuzkovka) 1814-1889, a sefydlodd ddinas Yuzkovka yn Rwsia, ac mae'n briodol iawn mai Dewi Sant oedd testun ei waith olaf a hynny yn 1983. Dengys ei gyhoeddiadau mai pobl oedd prif ddiddordeb Bowen. Perthynai i draddodiad yr addysgwr a'r cyfarwydd ac yn sicr fe fyddai'r byd academaidd sydd ohoni heddiw (gyda'i obsesiynau ariannol a'i fiwrocratiaeth lethol) yn hollol wrthun ganddo. Mae'n wir i'w waith ddod yn hysbys iawn ac iddo dderbyn anrhydeddau lawer. Bu'n llywydd ar Sefydliad Daearyddwyr Prydain yn 1958, yn llywydd ar adran E o'r Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth yn 1960 ac yn llywydd ar y Gymdeithas Ddaearyddol yn 1962. Dyfarnwyd Rhodd Murchison iddo gan y Gymdeithas Ddaearyddol yn 1958 oherwydd ei gyfraniad i'r astudiaeth o ddaearyddiaeth Cymru. Yn 1948 etholwyd ef yn gymrodor o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr ac yn 1967 yn llywydd Cymdeithas Archaeolegol Cambria. Derbyniodd Radd LL.D. er Anrhydedd gan y Brifysgol Agored. Yr oedd hefyd yn warden Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Ond er ei holl anrhydeddau roedd yn barod bob amser i ddarlithio ar bynciau daearyddol, a hynny mewn neuaddau pentref diarffordd yn ogystal ag i gynulleidfaoedd enfawr. Er ei holl alwadau roedd ganddo amser i bawb a siaradai yn gynnes a rhadlon gan beri hyd yn oed i'r myfyriwr mwyaf petrusgar yn y flwyddyn gyntaf deimlo'n gartrefol. Cam diystyr oedd ei ymddeol yn 1968 gan iddo barhau i ddarlithio, i ymchwilio ac i ysgrifennu hyd y diwedd. Y mae ymron i ddeng mlynedd wedi mynd heibio bellach ers marw E. G. Bowen a daeth yn amser i adolygu ei effaith ar y coleg. Pan benodwyd ef i gadair Prydain Gynhesach Clywsom lawer o sôn am ganlyniadau tebygol yr effaith tŷ gwydr. Yn ddiweddar cyhoeddwyd adroddiad, The Potential Effects of Climate Change in the U.K., ar sail ymchwiliad a gadeiriwyd gan yr Athro Martin Parry o Brifysgol Birmingham. Yn ôl hwn, pe bai'r ddaear yn cynhesu am ddeugain mlynedd byddai'r hafau poeth a sych yn distrywio rhywogaethau prin ac yn bygwth cyflenwadau dwr. Hefyd, fe fyddai lefel y môr yn codi gan foddi traethau a thiroedd isef megis rhannau o arfordir gogledd Cymru. Gregynog yr adran ddaearyddiaeth yn Aberystwyr yn 1946 roedd cyngor y Brifysgol eisoes wedi pende, ynu mai daearyddiaeth fyddai disgyblaeth ganolog y c->leg. Yn 1945, roedd pwyllgor wedi ei sefydlu i bendeiíynu ar gwmpas a natur y gwaith oedd i'w weithredu o í'ewn yr adran ac fe gafwyd adwaith yn erbyn y gymysgedd o ddaearyddiaeth, anthropoleg ac archaeoleg a fu mor amlwg yng nghynlluniau y ddau athro blaenorol (H. J. Fleure a C. Darell Forde). Nid oedd astudiaethau cyd- ddisgyblaethol yn ffasiynol yn y 1940au ac fe wasgwyd Bowen i ddatblygu ei adran i batrwm llawer mwy confensiynol. Gwrthodwyd pob ymgais ar ei ran i leddfu'r cynllun, er enghraifft trwy gynnwys cwrs ffurfiol ar anthropoleg. Maes o law fe ddylanwadwyd ar Bowen gan y patrwm poblogaidd confensiynol a llwyddodd i berswadio'r coleg i sefydlu cadair mewn daearyddiaeth ffisegol. Canlyniad y weithred hon oedd i'r adran yn Aberystwyth golli'r cymeriad arbennig a fu ganddi ym myd daearyddiaeth, er i waith ymchwil Bowen barhau i gynrychioli'r cyfuniad traddodiadol o ddaearyddiaeth, anthropoleg a archaeoleg. Yn eironig ddigon mae'r cyfuniad hwn o bynciau bellach yn ffasiynol iawn ond mae'r adran yn Aberystwyth ar gwrs gwahanol. Athrofa Astudiaethau Daear ydyw bellach ac ar ddaeareg y mae'r pwyslais pennaf. Ond beth bynnag fo dyfodol daearyddiaeth yn Aberystwyth nid anghofir E. G. Bowen gan neb a'i clywodd yn darlithio. Roedd yn athro heb ei ail ac yn gwbl naturiol o flaen cynulleidfa. Mae'n cynrychioli cyfnod arbennig yn natblygiad ysgolheictod ac yn natblygiad y coleg y cysegrodd iddo gymaint o'i egni a'i ddawn. Harold Carter