Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bffaith Ardal ar Nifer y Marwolaethau yng Nghymru Ddwy fil a phedwar cant o flynyddoedd yn ôl dywédodd Hippocrates fod rhaid deall achos afiechyd cvn y gelüd ei drechu a'i reoli. Eto i gyd dim ond ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y dechreuwyd cymryd camau pendant i'r cyfeiriad hwn. Dyna pryd y canfuwyd bacteria ac o ganlyniad fe gafwyd yn ystod y ganrif hon leihad sylweddol yng nghyfradd marwol- aethau y gwledydd hynny sy'n ddigon cyfoethog i vmladd y frwydr yn erbyn afiechyd. Erbyn hyn, diolch i welliant mewn safon byw ac i ddatblygiadau megis imwnoleg mae nifer o afiechydon wedi diflannu'n llwyr o Gymru. Serch hynny, dengys Ffigur 1 fod afiechydon creulon eraül fith yn ein cymdeithas. Ynghyd â damweiniau fyrd! ìfiechydon canlynol sy'n achosi y rhan fwyaf o'r r ni: jlaethau yng Nghymru: clefyd y galon, afiechy/ íeddwl, broncitis a chanser. Yn ogystal ag ys|ynei rtfiechyd fel brwydr y gellir ei hennill â chym oí ;echnoleg efallai y dylai'r byd meddygol yng nghysv-; yr afiechydon hyn roi mwy o sylw i'r Posibifc ydd bod dyn yn eu meithrin oherwydd ei G. MELVYN HOWE ffordd o fyw. Hyd yma ychydig o ymchwil a wnaed i ddosbarthiad daearyddol yr afiechydon. Heb yr ymchwil hon amhosib yw canfod pam fod rhai afiechydon yn amlycach mewn ardaloedd neilltuol. Yn y cyd-destun hwn diddorol yw nodi i'r daearyddwr E. G. Bowen (1900-83) dreulio blynydd- oedd yn ymchwilio i amrywiadau o fewn de Cymru yn y cyfradd marwolaeth o phthisis glowyr. Fodd bynnag, ni ddaeth daearyddiaeth feddygol yn faes astudio cydnabyddedig tan y 1960au. Patrwm marwolaethau Amcan yr erthygl hon yw lleoli y marwolaethau yng Nghymru yn hytrach na rhoi rhesymau. Defnyddiwyd ystadegau sy'n dynodi nifer y marwolaethau o ganlyniad i afiechyd y galon, canser y fron, canser yr ysgyfaint a'r dosbarth cyffredinol pob achos.