Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

G ,fp Robertson Plc: Diogelu'r Amgylchedd Sefydlwyd Cwmni Ymchwil Robertson yn 1961 a bellach mae GrWp Robertson Plc yn un o'r cwmnïau ymgynghorol mwyaf sydd yn ymwneud ag adnoddau naturiol a materion amgylcheddol. Mae'r cwmni yn gweithredu o ddwy adran sef Petroleum a Mwynau ac Amgylchedd. Mae adran yr amgylchedd yn ehangu ar hyn o bryd ac mae iddi sylfaen fasnachol gref. Mae diddordebau'r cwmni yn ymestyn ar hyd a lled y byd, ac fe ystyrir amaethyddiaeth fel diddordeb arbennig ynghyd ag archwilio a datblygu ffynonellau gwahanol fwynau, nwy, olew a dŵr. Dibynna llwyddiant y cwmni ar allu staff sy'n meddu ar arbenigedd technegol, sy'n gyfarwydd â byd busnes ac sydd wedi cael profiad uniongyrchol o weithio ar brosiectau rhyngwladol. Hyn ynghyd a'r ymroddiad i gyrraedd y safon uchel sydd wedi ennill enw da i'r cwmni yng Nghymru a thrwy'r byd. Bellach mae Grwp Robertson wedi sefydlu rhwydwaith o ganolfannau ar draws y byd. Mae ìddynt Ie amlwg yn Ewrop ac maent wedi rheoli prosiectau mewn 150 o wledydd. O ganlyniad i'w dealltwriaeth o anghenion y gwledydd datblygedig maent wedi bod yn llwyddiannus wrth hyfforddi ac wrth drawsnewid technoleg gymhwysol. Mae eu cyfraniad i ddatblygiad rhyngwladol yn holl bwysig. Yn ogystal â chwmnïau bychan ac unigolion gellir rhestru ymhlith cwsmeriaid y grwp adrannau liywodraethol, asiantau ariannu rhyngwladol, cwmnïau olew a chwmnïau mwyngloddio a chorfforaethau diwydiannol. 0 Sdfbwynt adnoddau naturiol mae'r grwp yn cynnig gwasanaethau dadansoddi arbenigol, gwasanaethau rheoli ac ymgynghori technegol. Mae adran yr amgylchedd yn canolbwyntio ar feyswfcf megis cyflenwi dŵr a glanweithdra, diogelwch, astudiaethau i Iygredd tir, cynllunio defn/ad tir a thechnoleg datblygu tir. I gynnal y gweithgareddau hyn mae'n rhaid wrth adnoddau arQr ŵ, cyfrifiaduron, offer cartograffi digidol a.y.b., ac mae cyflenwi'r adnoddau hyn yn faes profihüol arall i'r grwp. Maes arall sy'n dod yn gynyddol bwysig yw datblygu meddalwedd geoŵ idonol. Gr ^obertson Pic LLANDUNO Ggwy LL30 1SA Ffôn' 0492) 581811 Hac: 0492) 583416 Teleg 61216/617150 (ROBRES G)