Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol 1971-1991 Rhwng 1974 a 1986 Gareth Roberts oedd ysgrifennydd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol Cyflwyniad Sefydlwyd Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol yn 1971 yn dilyn llwyddiant y cymdeithasau gwyddonol lleol yn Aberystwyth ac yng Nghaerdydd. O'r cychwyn cyntaf bu'r Gymdeithas yn gweithredu fel adran wyddonol Urdd y Graddedigion ac mae wedi derbyn nawdd cyson gan yr Urdd at ei gweithgareddau. Yng nghyfarfod sefydlu'r Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor, 1971, penodwyd Iolo ap Gwynn yn gadeirydd a J. O. Williams yn ysgrifennydd y ddau eisoes wedi bod yn weithgar yng nghymdeithas Aberystwyth. Gyda Gwyn Chambers, Bangor, yn ysgwyddo cyfrifoldebau swydd y trysorydd roedd y Gymdeithas yn barod i fentro ar ei thaith. Cynhaliwyd y gynhadledd gyntaf ar y thema Difwyno'r Amgylchfyd yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, dros benwythnos yn Ebrill, 1972. Dros gyfnod o amser addaswyd a chryfhawyd cyfansoddiad y Gymdeithas hir yw'r cof am farathon o gyfarfod yn 1974 yn y Coleg Celf a Chrefft, Caerdydd, dan gadeiryddiaeth Alwyn Owens, pryd y llwyddwyd i lunio cyfansoddiad a fyddai'n sylfaen gadarn ar gyfer parhad a thwf y Gymdeithas. Ond beth oedd diben yr holl beth? Onid oedd, ac onid oes, nifer digonol o gymdeithasau gwyddonol eu natur yn bodoli eisoes? Oni ddiwellir anghenion pawb gan y sefydliadau gwyddonol sydd wedi hen ennill eu Y Babell Wyddonol gyntaf un yn Eisteddfod Bangor, 1971. H. GARETH FF. ROBERTS Sicrhawyd nawdd gan nifer o gwmnïau dros y blynyddoedd. Bellach BT yw'r cwmni sy'n noddi'r Ganolfan Wyddoniaeth a Thechnoleg. Dyma hi yn Eisteddfod Abergwaun, 1986. Oes, mae peth mwd hefyd i'w weld yn y llun! plwyf ac sy'n arbenigo ar feysydd unigol ffiseg, cemeg, bioleg, biocemeg, mathemateg heb sôn am gymdeithasau dylanwadol ar wyddoniaeth gyffiredinol, megis The British Association for the Advancement of Sciencel Onid yw pob un o'r cymdeithasau hyn yn cynnal cyfarfodydd, yn cyhoeddi cylchgronau ac yn ddylanwadol yn eu meysydd unigol ac yn y byd gwyddonol yn gyffredinol ym Mhrydain a thros y môr? Pam felly sefydlu cymdeithas newydd, a fyddai o angenrheidrwydd yn gyfyngedig o ran nifer ei haelodau ac yn llai o ran dylanwad ac adnoddau? Mae dau ateb posibl. Yr ateb swyddogol, sy'n ymgorffori amcanion ffurfiol y Gymdeithas, ac ateb personol pob aelod. Mae'r ddau ateb yn gorgyffwrdd wrth gwrs ond gall edrych ar hanes y Gymdeithas o'r ddau safbwynt y Gymdeithas fel corff swyddogol a'r Gymdeithas fel dyfais i ateb gofynion yr unigolyn oleuo rhywfaint ar ei natur. Gweithgareddau swyddogol Beth, felly, yw'r raison d'être swyddogol? O'r cychwyn cyntaf ymgorfforwyd y cymalau canlyno yng nghyfansoddiad y Gymdeithas: