Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Coed Cynhenid Cymru Ganeâ Dr William Linnard yn Sgiwen ac fe'i haddys- owyd yn Ysgol Ramadeg Castell Nedd, Coleg Keble, Prifysgol Rhydychen a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu'n gyfarwyddwr cynorthwyol V r Commonwealth Forestry Bureau yn Rhydychen ac yna'n is-geìdwad Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Uae'n awr yn ddarlithydd anrhydeddus yn Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor. Ef yw awdur Welsh Woods and Forests: History and Utilization (Amgueddfa Werin Cymru, 1982). Mewn fersiynau gwahanol o gyfraith Hywel Dda y ceir y rhestrau cyntaf o goed cynhenid Cymru. O blith y llawysgrifau sydd wedi goroesi, mae'r rhai cynharaf, yn Gymraeg a Lladin, yn dyddio o ddiwedd y ddeuddegfed ganrif neu'r drydedd ganrif ar ddeg. Dyma dystiolaeth gyfoes amhrisiadwy sy'n rhestru'n gynhwysfawr y gwahanol fathau o goed brodorol, ac yn bwysicach efallai, yn dangos y gwerth ariannol a roddid i wahanol fathau o goed gan gyfreithwyr Cymru yn yr Oesoedd Canol. Er bod y rhestrau niferus a gynhwysir yn y llaw- ysgrifau gwreiddiol yn amrywio ychydig o ran y mathau o goed a enwir ynddynt mae'r gwerthoedd a roddir iddynt yn weddol gyson. Gallwn ystyried y rhestr isod fel un nodweddiadol. Coed Gwerth mewn ceiniogau afallen bêr 60 aí'allen sur 30 collwyn; collen 15 (24); 4 derwen 120 draenen iVi ffawydden 60 (120) gwemen 4 (6) helygen 4 (6) onnen 4 (6) ywen goed 15 (30) ywen sant punt Mae'r coed uchod yn adnabyddus a thasg hawdd yw rhoir wau botanegol cywir iddynL Mae'r afallen bêr Matus áomestica) yn fwy gwerthfawr na'r afallen sur a^ sylvestris wrth gwrs, a chyfeirir hefyd yn y cyfredid 3U at impiau. Mae'n amlwg felly bod yr hen yniry yn ymarfer y grefft o impio er mwyn gwella ^m coed ffrwythau. WILLIAM LINNARD Er bod gwerth y gollen unigol (Corylus avellana) yn gymharol isel, roedd gwerth llwyn yn gymharol uchel. Yn ogystal â chnau, mae cyll yn cynhyrchu pren addas iawn ar gyfer gwneud ffyn, ac arferid defnyddio'r gwiail i blethu basgedi ac ati. Y dderwen (Quercus robur a Q. petraea) yw coeden frodorol bwysicaf Cymru, a thrwy'r cyfreithiau dyma'r goeden fwyaf gwerthfawr. Roedd pob rhan o'r dderwen yn ddefnyddiol; pren cryf y boncyff a'r canghennau, mes i besgi moch yn yr hydref, a'r rhisgl yn cynnwys taninau naturiol a ddefnyddid gan y barceriaid i drin lledr yn y tanerdai lleol. Defnyddir yn y cyfreithiau un term syml, sef draenen, i ddisgrifio dwy rywogaeth fotanegol wahanol, sef y ddraenen ddu (Prunus spinosa) a'r ddraenen wen (Crataegus monogyna). Ar ôl y dderwen, y ffawydden (Fagus sylvatica) oedd fwyaf gwerthfawr. Yn yr Oesoedd Canol tyfai'r ffawydden yn naturiol yn ne-ddwyrain Cymru yn unig. Ceir tystiolaeth o bob math i gadarnhau hyn sef, astudiaeth o olion paill (palinoleg); tystiolaeth archifau, cofnodion cyfoes a hen enwau lleoedd yn cynnwys yr elfen ffawydd(en) neu ffawyddog. Mae'n werth ystyried hefyd osodiadau diweddarach gan awdurdodau cyfarwydd megis Edward Lhuyd: in noe part of North Wales is found any flint or chalk, nor beech trees, a hefyd In South Wales I found several plants common, which I had never seen in North Wales, such as Fagus. Yn ddiweddarach, yn y ddeunawfed ganrif, plennid ffawydd (a chonifferau ecsotig) yn eang yng ngogledd a gorllewin Cymru. Y coed collddail eraill a enwir yn y rhestrau yw'r onnen (Fraxinus excelsior), y wernen (Alnus glutinosa) a'r helygen (Salix spp.). Yr ywen (Taxus baccata) yw'r unig goeden a chanddi ddau werth gwahanol iawn yn y cyfreithiau, sef gwerth cymharol isel fel coeden naturiol yn y goedwig, a gwerth uchel iawn fel coeden sanctaidd (cysylltiedig â sant efallai), mewn mynwent neu ger eglwys. Mae'n