Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a ,v r.:»:dd wahanol o drin coed yn yr Oesoedd Canol, sef ?a copi (coppicing) a thocio (lopping). Yn y darlun hwr, nwyd y goeden ar y chwith, ac mae'r hen fôn yn «po ,;îíwe blagur-gopi (coppice shoots) newydd. CANFOD: ADOLYGIAD Gofynnwyd i mi lunio adolygiad byr o dair rhaglen yn y gyfres deledu CANFOD: Creigiau Byw, Y Cadwyni Bionig a Gwastraff. Roedd fy ymateb cyffredinol i'r gyfres gyfan yn dra ffafriol a mawr obeithiaf y gwêl yr awdurdodau'n dda roi rhagor o'r math yma o raglenni inni. Nid oes wedd ar weithgaredd meddwl a dychymyg dyn sy'n effeithio'n fwy uniongyrchol arnom na gweithgaredd gwyddonol a dylai fod gan bob un ohonom rywfaint o afael ar rai o syniadau a phrosesau sylfaenol rhai, o leiaf, o'r gwyddorau. Eithr oherwydd fod cymaint o arbenigedd yn y gwahanol feysydd rhaid wrth ddulliau poblogeiddio arnynt. I'm tyb i 'does dim cyfrwng rhagorach na phrint ond perthyn rhai cryfderau amlwg i'r teledu yntau. Gesyd hynny ddyletswydd gymdeithasol bwysig wrth ddrws y cyfryngau darlledu. Yn natur pethau, swyddogaeth rhaglenni teledu o'r math hwn yw cyfleu gwybodaeth berthnasol mewn dull diddorol. Rhaid diddanu'r gwylwyr; nid ystafell ddosbarth mo aelwyd y teulu wedi'r cyfan. Serch hynny, nid rhaglenni adloniannol mohonynt a hawliant, yn hollol gymwys, beth ymroddiad o du'r gwyliwr. O du'r cynhyrchydd, ar y llaw arall, hawliant ystyriaeth ofalus ynglŷn ag amcan benodol pob rhaglen unigol. Dylai ofyn beth yn union yr ydw i am ei ddweud a pha mor gryno a chlir y medra' i ddweud hynny? Ar y cyfan atebwyd y cwestiynau hyn yn llwyddiannus gan garfan gynhyrchu'r gyfres. Eithr ni Iwyddwyd gyda rhan olaf y cwestiwn bob tro nid i'r un graddau, yn sicr. Yn Y Cadwyni Bionig, er enghraifft, teimlwn fod gofyn i mi, o leiaf, gario gormod o faich. Roedd yno ar y mwyaf o bwdin i'w dreulio. Gwell gafael ar ddau bwynt yn gadarn na chael rhyw fraidd gipiad ar bedwar (a rhagor). Yn Gwastraff wedyn ni threuliwyd digon o amser i egluro'r gwahaniaeth (sylfaenol i'r rhaglen) rhwng y broses o buro gwastraff trwy gyfrwng meicrobau aerobig a meicrobau anaerobig. Cafwyd datganiad cywir o'r gwahaniaeth, ar air, yn ddiamau, ond teimlwn angen fy hun am ddehongli pellach ar y mater. Ar y llaw arall, barnwn fod Creigiau Byw yn taro yr union gydbwysedd a ddymunwn. Eto, melys moes mwy. Llwyddodd y rhaglenni i beri i'r gwyliwr hwn ryfeddu at gymhlethdod a chywreinwaith y byd y trigwn ynddo ac at ddyfeisgarwch anhygoel rhai o'i gyd-fforddolion sy'n ceisio treiddio i'w ddirgelion. Tociwyd y goeden ar y dde hyd at ei brig, ac mae'n tyfu pum cangen newydd. O bosibl, mae'r goeden braffaf ar y dde yn cynrychioli derwen, a'r goeden ar y chwith yn cynrychioli'r gollen. Meredydd Evans