Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ceir cyfleusterau ym mhob un o'rYsgolion ac adrannau canlynol i wyddonwyr sy'n dymuno cael graddau MSc, MPhil neu PhD: YrAthroJ. B. Owen Amaethyddiaeth Dr Ll. G. Chambers Mathemateg Cemeg Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth Gwyddorau Biolegol Gwyddorau Eigion Gwyddorau Peirianneg Electronaidd Mathemateg Dr Deli lomos Biocemeg Os hoffech fanylion pellach, ysgrifennwch aty Cofrestrydd Academaidd, Prifÿsgol Cymru BANGOR, Gwynedd LL57 2DG «0248 351151 POENYN PENNA' Rhif 46: (o dudalen 12) Atebion: Yn Ward Aber y siawns bod y ddau glaf yn derbyn moddion anghywir yw hanner. Yn Ward y Bannau y siawns bod y tri chlaf yn derbyn y moddion anghywir yw traean sef dau siawns allan o chwe chyfuniad posibl. (Gan labelu'r cleifion yn A, B ac C y chwe chyfuniad yw ABC, ACB, BAC, CAB, BCA, CBA ac o'r chwech y pedwerydd a'r pumed yw'r unig ddau sy'n arwain at drychineb i bawb.) Yn Ward Cnicht y siawns bod y pedwar claf yn derbyn y moddion anghywir yw tri wythfed (sef 9 siawns allan 0 24 cyfuniad posibl). Sylwch fod y siawns o drychineb Iwyr yn llai yn Ward y Bannau nag yn Ward Aber ond ei fod wedi codi eto yn Ward Caron. Beth petai pump o gleifion yn wynebu sefyllfa debyg? Fyddech chi'n disgwyl y byddai'r siawns o drychineb Iwyr yn uwch neu yn is?