Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gva?-i Maes: Bwletin Amgylcheddol ar gyfer ysgafon 4, gol. Geraint George; Cymdeithas Adcy"-g yr Amgylchedd, Gwynedd, 1991. yte? nethau'n gwella. Dyma gylchgrawn lliwgar, el&ì e ddiwyg ac amrywiol ei gynnwys i hwyluso astudio*r amgylchedd yn yr ysgolion. Mae'n llawn lluniau. yn ddifyr i'w ddarllen ac mae'r iaith yn raenus Bydd plant ac athrawon yn siwr o gael blas ar bori rhwng y cloriau. Beth aiff a'u bryd? Bywyd mewn doddiau cerrig, taith y wennol, planhigion mewn hen chwareli llechi ? Mae digonedd o ddewis a'r cyfan yn gryno a darllenadwy. Fe wn fod athrawon yn awyddus bob amser am syniadau newydd a chyfarwyddiadau ynghylch cynnal gweithgareddau y tu allan i furiau'r ysgol. Mae nifer o'r awgrymiadau yn ddigon diddorol. Gallaf weld ambell i ddosbarth yn cael hwyl yn pcintio'r malwod mewn clawdd cerrig neu yn astudio bywyd gwyllt yr aberoedd. Wrth gwrs fe fyddai rhaid i'r clawdd a'r aber fod o fewn cyrraedd. Byddai'n rhaid hefyd wrth athro brwdfrydig a phrifathro a fyddai'n fodlon rhyddhau'r dosbarth. A beth fyddai ymateb y rhieni pan ddeuai Tomi bach adre yn fwd o'i gorun i'w sawdl? Ond y mae gwerth i bob un o'r erthyglau a gallai athro profiadol ddatblygu'r gweithgareddau a awgrymir. Diddorol fyddai cael ymateb athrawon i Iwyddiant (neu aflwyddiant) y gwaith maes yn eu hysgolion. Yn anffodus y mae rhai gwallau. Yn yr erthygl ar gloddiau cerrig nid yw'r llun yn gwahaniaethu rhwng y rhedyn a enwir. Nid oes na enw na phennawd wrth amryw o'r lluniau yn yr erthygl ar fwd yn yr aberoedd. Yn y drafodaeth ar yr effaith tŷ gwydr, sonnir am yr hyn a ddigwyddai i Ynysoedd Prydain 'ar ôl i'r môr godi 60 medr'. Yn ôl yr hyn yr wyf i wedi ei ddeall, 7 medr yw amcangyfrif uchaf yr arbenigwyr ac mae cryn amheuaeth ynglyn â hynny hyd yn oed. Ond er gwaetha'r brychau mae Gwaith Maes yn ddiddorol a darllenadwy. Y mae'r wybodaeth sydd ar gefn y clawr am lyfrau a theithiau diddorol o werth arbennig. 'Rwy'n siwr y bydd croeso brwd i'r cylchgrawn hwn yn yr ysgolion. Hwsmç-naeth Anifeiliaid, gan y Ganolfan Astudiaethau Iaith ym Mangor; £ 1.50. Dyma gyfieithiad sydd i'w groesawu. Mae'n Jjẅí nifer o agweddau sy'n berthnasol i hwsm, eth anifeiliaid gan gynnwys atgenhedlu, c eY! -ú ac iechyd. Esbonnir yr agweddau hyn trwy drafoe agweddau ymarferol a sylfeini biolegol ac yna nhwysir y wybodaeth er mwyn gwella Y Silff Lyfrau Goronwy Wynne hwsmonaeth. Er enghraifft, enwir gwahanol fathau o barasitiaid ac amlinellir cylch eu bywyd a'u dull o fwydo. Sonnir wedyn am ddulliau o reoli'r gwahanol fathau o barasitiaid, boed nhw mewn adeiladau, ar y tir neu yn yr anifeiliaid. Mae'r cynnwys wedi ei gysodi'n drefnus a cheir yn y gyfrol ddefnydd da o ddiagramau. Mae'n gyfrol addas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio amaethyddiaeth ac yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant. Gallai'r elfen fiolegol fod o ddiddordeb hefyd i ddisgyblion chweched dosbarth a myfyrwyr sy'n astudio pynciau biolegol. Ioan ap Dewi Human Mating Patterns, gol. C. G. N. Mascie- Taylor ac A. J. Boyce; Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1988. ISBN 0-5213-3432-2. Pris: £ 25.00 (clawr caled). Testun y gyfrol hon yw'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ein dewis o gymar. Wrth reswm, mae'r patrwm yn amrywio o wlad i wlad ac mae dylanwad crefydd a diwylliant yn holl bwysig. Serch hynny, mae modd cyffredinoli. 'Rwy'n cofio darllen bod priodasau yn brin iawn ymhlith dynion a merched a fagwyd gyda'i gilydd mewn Kibbutz yn Israel ac mae'n amlwg bod y greddfau sydd ar waith wrth ddewis cymar yn peri i ni osgoi y rhai a fagwyd ar yr un aelwyd. Gan nad oes modd arbrofi gyda phobl, yr hyn a gawn yn y gyfrol hon yw adroddiadau ar astudiaethau sy'n defnyddio data hanesyddol a chyfoes ac sydd hefyd yn ystyried dylanwadau cymdeithasegol. Tebyg at ei debyg meddai'r hen ddywediad a dyna grynhoi'n daclus gasgliadau tair o'r erthyglau. Er bod pawb yn gallu meddwl am eithriadau dengys yr astudiaethau bod tuedd i ddau sydd am briodi i ymdebygu i'w gilydd mewn rhyw ffordd. Er enghraifft, tuedda bechgyn tal i briodi merched tal ac mae'n bur debyg y bydd pobl sydd wedi derbyn addysg uwch yn priodi ymysg ei gilydd. Wrth gwrs mae'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn addysg uwch yn y cyfnod pan maent yn fwyaf tebygol o ddewis cymar a chan fod cynifer o ffactorau i'w hystyried gyda'r astudiaethau hyn mae'n anodd yn y pen draw penderfynu ar yr hyn sy'n bwysig. Er hynny, mae'r cynnwys yn eithriadol o ddiddorol ac mae'r gyfrol 0 leiaf yn peri i'r darllenydd feddwl ychydig am y pwnc. Diddorol fyddai canfod beth yw'r duedd ymysg Cymry Cymraeg? A ydynt yn fwy neu yn llai tebygol o briodi ei gilydd? Ac os oes patrwm, ai tueddiadau cynhenid ynteu mater o hap a damwain gymdeithasol sydd wedi penderfynu ar y patrwm hwnnw? Iolo ap Gwynn