Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Evolutionary Genetics, gan John Maynard Smith; Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1989. ISBN 0-1985-4215-1. Pris: £ 16.95 (clawr meddal). Gwr yw'r Athro John Maynard Smith sy'n enwog am ei allu i ddarlithio ac ysgrifennu yn gryno a difyr. Mae wedi arbenigo ar esblygiad, a phwnc y gyfrol hon yw peirianwaith esblygiad. Er iddynt ddatblygu'r cysyniad o esblygiad, nid oedd gan Darwin a Wallace fawr o syniad mewn gwirionedd o sut yr oedd y broses yn gweithio. Y cyfan a wyddent oedd fod esblygiad yn digwydd drwy broses o ddewisiant naturiol. Cynyddu y mae ein dealltwriaeth o'r broses o hyd ac mae gwybodaeth sylfaenol am beirianwaith esblygiad yn rhan bwysig o gefndir unrhyw fiolegydd. Am y wybodaeth ddiweddaraf, hon yn sicr yw'r gyfrol i MANTEISION BWYTA PRIDD Mae bwyta pridd yn fwriadol (priddysedd: geophagÿ) yn weithgaredd digon cyffredin ymhlith rhai rhywogaethau o anifeiliaid, er enghraifft epaod uwch. Mae'n digwydd hefyd ymhlith rhai cymunedau dynol ond yn y gorllewin bu tuedd erioed i'w ystyried fel gwyriad rhywbeth yn perthyn i'r un categori a bwyta glo, iâ, neu baent. Bu sawl ymgais i egluro priddysedd mewn termau seicolegol neu fel ymateb ffisegol ar ran y corff i ddiffygiannau lluniaethol megis prinder haearn neu galsiwm. Fodd bynnag, mewn papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn yr American Joumal of Clinical Nutrition, mae dau wyddonydd o'r Unol Daleithiau wedi herio'r dehongliad traddodiadol. Yn eu barn hwy gall priddysedd fod yn fanteisiol i'r corff ac fe ddylid ei ystyried yn wedd ar ymddygiad normal. Buont yn astudio'r sefyllfa mewn dwy ran o'r byd lle mae priddysedd yn rhan o fywyd bob dydd, sef yn Sardinia (lle maen nhw'n dal i wneud bara trwy gymysgu clai a mês) ac ymhlith Indiaid Cochion Califfornia. Buont hefyd yn dadansoddi'r clai a fwyteir gan rai llwythau yn Affrica, megis yng Ngana lle mae rhai gwragedd yn bwyta hyd at hanner pwys o glai bob dydd. Darganfuwyd bod gan y samplau clai hyn gryn allu i amsugno tocsinau planhigol a bacterol. Oherwydd hyn, awgrymwyd bod priddysedd wedi chwarae rhan bwysig yn y broses esblygiadol, yn enwedig yn ystod y cyfnodau hynny pan fu raid i anifeiliaid bwyso'n drwm ar ffynonellau llysieuol am eu lluniaeth. I ddyfynnu'r ddau wyddonydd: Mae [priddysedd] yn hwyluso sefydlu cydbwysedd boddhaol rhwng maethiad a thocslnau'. Hynny yw, byddai bwyta clai wedi caniatáu i anifail gynnal ei hunan ar blanhigion a fyddai, fel arall, yn wenwynig iddo. Yn ôi y papur ni ddylid bellach ystyried priddysedd fel gweittigaredd annormal neu gyntefig. A chynifer o bobl y dyddiau hyn yn troi at "fwydydd naturiol' tybed a welir maes o law ailorseddu priddysedd fel gwedd dderbyniol ar fywyd dyn? droi ati. Mae'r rhestr o gyfeiriadau yn hy-od ddefnyddiol ac ym mhob pennod ceir nifer o das- au i'w cyflawni. Drwy ddilyn y tasgau rydym yn d0d i ddeall yn well yr hyn y mae'r awdur am ei gyfleu Er enghraifft, yn y bennod ar esblygiad drwy ddewisiant naturiol gosodir y dasg o baratoi rhagíen gyfrifiadur sy'n efelychu'r broses. Rhoddir nifer o ganllawiau ar gyfer y dasg ac yna ceir cwestiynau i'w gofyn i'r model ar y diwedd. Mae yma wledd o wybodaeth ar sut y mae geneteg yn rheoli ac yn gyrru esblygiad. Er ei fod yn destun cymhleth dengys John Maynard Smith fod y cyfan yn seiliedig ar egwyddorion sylfaenol digon syml. Iolo ap Gwynn R. E. H.