Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLE BENDITH, LLE MELLTITH MÔN Dû, jwr, hanesydd lleol a darlithydd yn yr Ysgol Add yng Ngholeg Prifysgol Bangor. Mae Gwilym jon. awdur llyfr diweddar yn olrhain enwau afonydd MQh mae un arall arfin ymddangos yn olrhain enwau alk rhydau Môn. Honn ád Edward Greenly fod yna ddau anialwch ar Ynys Môru arfordiroedd tywodlyd ardaloedd Llanddwyn a Niwbwrch, a Mynydd Parys, rhyw filltir i'r de o boríhladd Amlwch. Ffurfiwyd yr anialwch cyntaf gan ddrycinoedd a phrosesau daearegol naturiol ond lluniwyd vr aii gan ymdrechion dyn tros y canrifoedd i ysbeilio cyfoeth metelaidd y mynydd. Ar lethrau a chyffmiau'r mynydd ceir oddeutu dwy filltir sgwâr o dir sy'n sylweddol wahanol i weddill yr ynys yn ei gymeriad daearegol. Yma canfyddir the brig o'r cyfnod cynnar yn hanes cloddio'r mynydd. Gwelir olion melin wynt a ddefnyddid i godi dwr i'r siafftiau. GWILYM T. JONES amrywiaeth o greigiau wedi eu mineraleiddio'n gryf i greu dyddodyn polymetelaidd copor-plwm-zinc-arian- aur. Achoswyd y mineraleiddio yn wreiddiol gan effeithiau folcanaidd ac mae'r effeithiau hyn i'w canfod gryfaf o gwmpas, neu ychydig yn uwch, na mannau cyfarfod y creigiau folcanaidd â chreigiau gwaddod yr ardal. Dengys trawsdoriad o Fynydd Parys strwythur a thuedd yr haenau hyn yn glir. Yn sgil symudiadau tectonig y cynnwrf Caledonaidd plygwyd dilyniant o haenau Ordofigaidd a Silwraidd yn synclein anghymesur dwfn. Rhêd y synclein o'r gorllewin i'r dwyrain gyda'r haen a gafodd ei mineraleiddio gryfaf (h.y. yr un gyfoethocaf) yn brigo ar hyd copa'r mynydd, ar y naill law, ac ar lethr gogleddol y mynydd ar y llall. Mewn rhannau o'r haen hon ceir crynhoad amrywiol o fwynau metelaidd gan gynnwys: