Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Os yw'r mwyafrif o'r miliwn a astudiwyd yn credu eu bod yn dioddef o ganlyniad i Chernobyl, yna mae'r effaith bron cynddrwg â phe bai modd ei fesur yn glinigol. Beth bynnag a ddywed yr adroddiad, rhaid gosod Chernobyl ymhhth y damweiniau mwyaf echrydus a welwyd enoed. Crefydd dan y microsgop Rwy'n ei chael hi'n anodd i ddeall paham fod cymaint o wyddonwyr yn treulio amser ac arian yn astudio, a chan amlaf, yn ceisio tystio yn erbyn amryw o'r creiriau crefyddol mwyaf cysegredig. Yn ddiweddar cafodd yr astudiaeth o oed Amdo Turin gyda charbon-14 gyhoeddusrwydd arbennig. Dangoswyd mai o'r Oesoedd Canol yr oedd yn hanu ac mae'n debyg fod yr amdo wedi ei lapio o gwmpas cerfddelw oedd wedi'i liwio. I Gristnogion mae i fedd yr Iesu yng Nghaersalem le canolog. Bellach mae'r man lle yr ystyrir i'w gorff gael ei gladdu yn cael ei astudio gan yr Athro Martin Biddle, archaeolegwr o Brifysgol Rhydychen. Mae'r canlyniadau cyntaf yn awgrymu fod yno fedd Iddewig o'r oedran cywir. Ni chaniateir i archaeolegwyr astudio'r beddrod yn y dull confensiynol rhag iddynt amharu ar y fangre gysegredig. Gyda chymorth yr Athro Michael Cooper o Brifysgol Llundain defnyddiwyd techneg photogrametri, sef tynnu lluniau o bob cyfeiriad posib ac yna eu bwydo i gyfrifiadur er mwyn gallu astudio'r cyfanwaith. Mae Ymddiriedolaeth Leverhulme yn rhoi cymorthdal tuag at y gwaith ac fe gymer hi ddwy flynedd i ddehongli'r canlyniadau. Yn ôl yr Efengylau, siambr syml wedi'i thorri yn y graig oedd y bedd, ac yn ei gau roedd darn o'r maen. Golwg bur wahanol a gaiff y llu pererinion a ddaw yno heddiw. Mae'r beddrod wedi ei addurno'n ysblennydd a rhaid plygu hyd at y llawr i weld y siambr lle y credir i'r corff gael ei ddodi. Yr Ymerawdwr Constantine fu'n gyfrifol am y beddrod cyntaf uwchben y bedd. Pan gafodd droedigaeth at Gristnogaeth yn y bedwaredd ganrif anfonodd ei adeiladwyr i chwilio am y bedd. Clywsant gan yr Esgob Macariws o Gaersalem fod y bedd, yn ôl traddodiad lleol, o dan y deml baganiadd a adeiladwyd gan Hadrian yn OC 135. Ar orchymyn Constantine chwalwyd y deml a chanfyddwyd bedd oedd yn cyfateb i ddisgrifiad yr Efengylau. Ers hynny mae'r fangre wedi gweld llawer tro ar fyd. Adeiladwyd eglwys yno gan filwyr y Croesgadau a thros y canrifoedd fe'i rhwygwyd gan ddaeargrynfâu, fandaliaeth a thanau. Adeiladwyd y beddrod presennol gan bensaer Groegaidd yn 1809 ac fe gafodd ei gryfhau yn 1929 pan oedd Prydain yn rheoli ym Mhalesteina. Erbyn heddiw credir fod llawer mwy o'r adeiladwaith gwreiddiol wedi goroesi nag a dybiwyd ar un adeg. Nod yr astudiaeth bresennol yw ceisio deall yn union sut y cafodd ei adeiladu a faint o waith Constantine sydd wedi'i ddiogelu. Mae angen cryn adnewyddu ar y cyfan bellach ac efallai y bydd y ceidwaid presennol yn fwy parod i ganiatáu'r fath welliannau ar ôl cael canlyn- iadau'r ymchwil. Eto, mae'n amlwg fod llawer yn pryderu rhag ofn i wyddonwyr wneud darganfyddiad a fydd yn croesddweud y disgrifiad Beiblaidd o'r claddu a'r atgyfodi. A dyna godi yr hen ddadl rhwng crefydd a gwyddoniaeth. Cyfrannodd y diweddar Athro Charles Coulson at y ddadl drwy sôn am God of the Gaps. Dyma'r arfer o briodoli crefydd i'r hyn na all gwyddoniaeth ei ddeall. Fel y cynydda gwybodaeth wyddonol bydd y weledigaeth ddwyfol yn cilio i lai a llai o gorneli anneall- adwy. Ond beth pe bai'r astudiaeth yn profi nad oedd hi'n bosibl i'r maen dreiglo oddi wrth y bedd? A fyddai hynny yn gwneud atgyfodiad Crist yn amhosibl? Beth bynnag fydd y canlyniadau gwers yr astudiaeth yw ei bod yn pwysleisio mor hanfodol yw osgoi llythrenoldeb Beiblaidd a chanol- bwyntio ar y neges ddwyfol. Dyna, mi gredaf, oedd pwynt Esgob Durham wrth ddatgan mai nid mecaneg yr atgyfodiad sydd yn bwysig ond ei ddylanwad ar bobl trwy'r Ysbryd Glân. Dyna un peth na all gwyddonwyr ei fesur. Ni ellir gweld Duw gyda sbienddrych na chariad gyda microsgop. Crist byw yw hanfod yr Efengyl ac mae Ef yn datblygu ac yn addasu i gyd-fynd ag anghenion pob oes. Crist Cosmig yw term Teilhard de Chardin am y weledigaeth dragwyddol hon. Am fod fy Iesu'n fyw Byw hefyd fydd ei Saint Na, nid oes rhaid i neb ofni astudiaeth yr Athro Martin Biddle o'r bedd gwag. Mi wn fod fy mhrynwr yn fyw. GLYN O. PHILLIPS