Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ai Methiant Ydyw Maetheg? (Darlith Walter Idris Jones, 1989/90) Erbyn hyn rydym i gyd yn gyfarwydd iawn ag arsymheliion i Twyta'n iach' a'r cysyniad fod modd oseoi rhai clefydau ac afiechydon wrth fwyta'n unol â nifero reolau cymharol syml. Rwy'n siwr ein bod hefyd vr un mor ymwybodol o natur gyfnewidiol yr ârgymhellion hyn. Bron bob wythnos ceir datganiadau yn\ wasg sy'n cyhoeddi fod rhywun yn rhywle wedi darganfod fod perthynas rhwng natur ein bwyd a mynychder rhyw glefyd neu'i gilydd. Yn aml iawn y mae argymhellion heddiw at fwyta'n iach yn croesddweud ac yn disodli argymhellion y gorffennol. Mae cymharu polisi swyddogol cyfnod Boyd Orr (o 1935 hyd at 1975, dyweder) â pholisi y cyfnod presennol (adroddiadau COMA, NACNE ac ati, gweler Ffigur 1), yn rhoi inni enghraifft dda o hyn. rw BWYTA rw HOSGOI wyau ffibr llaeth llaeth sgim 1935-1975 caws menyn cig rw BWYTA rw HOSGOI ffibr wyau 1975- llaeth sgim llaeth caws menyn cig bras (gwyn) Ffigur Argymhellion ddoe a heddiw R. ELWYN HUGHES Nid eu natur gyfnewidiol yw unig wendid yr argymhellion swyddogol a lled-swyddogol. Ceir hefyd gryn anghytundeb rhwng yr arbenigwyr eu hunain parthed dilysrwydd rhai o'u cynghorion. Er enghraifft, ni all maethegwyr gytuno ar bwnc mor ymddangos- iadol syml â'r berthynas dybiedig rhwng cymeriant halen a mynychder (trawiant) rhai afiechydon. I ba raddau, tybed, y dylid ystyried gweithgarwch sydd mor anffrwythlon ac mor amddifad o unrhyw rym rhagfynegol yn wyddor go-iawn? Hoffwn drafod yn fyr rhai o'r rhesymau am fethiant ymddangosiadol maetheg gan geisio egluro paham y dylid cymryd rhai o argymhellion yr arbenigwyr â phinsiad go sylweddol o halen. 1. Yn ei lyfr diweddar The Unheeded City (Gwasg Prifysgol Rhydychen. 1989), mae Bernard Rollin yn gwahaniaethu rhwng gwyddoniaeth a synnwyr cyff- redin. Synnwyr cyffredin yw dehongliad sy'n deillio yn bennaf. o'r hyn y mae'r synhwyrau yn ei gyflwyno i ni. Yn gronolegol, hwn yw'r dehongliad cyn-wyddonol. y peth naturiol i'w gredu cyn i wyddoniaeth ymyrryd* â'r sefyllfa. Yn ôl Rollin. un o swyddogaethau gwydd- oniaeth yw disodli synnwyr cyffredin cyntefig a gosod dehongliad gwyddonol yn ei le. Ceir digon o enghreifftiau o hyn yng nghwrs hanes gwyddoniaeth. Am ganrifoedd lawery peth naturiol i'w gredu oedd fod y ddaear yn wastad a bod y gyfundrefn heulogyn ddaeargreiddiol (geosentrig). Fy nghred i yw bod rhywbeth cyffelyb wedi digwydd yn hanes maetheg. Daethpwyd i gredu yn gynnar iawn fod a wnelo natur y lluniaeth â mynychder niter o glefydau a bod y berthynas hon yn un achosol. Wedi'r cyfan. dyna oedd y peth naturiol i'w gredu. Dyna oedd synnwyrcyff- redin y cyfnod. Ac erbyn meddwl. nid yw'n anodd deall hyn. Beth fyddai'n fwy naturiol na chredu fod yr hyn a ai i mewn i'r corff yn gyfrifol am unrhyw newidiadau yn y corff hwnnw? Cofiwch i hyn ddigwydd mewn cyfnod cyn bod unrhyw sôn am ffactorau achosol eraill megis bac- teria a firysau a digwyddiadau imwnolegol. Erbyn y ddeunawfed ganrif roedd y gred yn un o brif fannau ffydd meddygaeth a chyhoeddwyd rhai cannoedd o Iyf- rau tra dylanwadol ary pwnc. Mae teitlau rhai ohonynt yn cyíleu i'r dim gryfder y gred. e.e. Via Recta ad Vitam Longam gan Tobias Venner. (Gweler hefyd Ffigur 2.) Bellach, mae y rhan fwyaf o'r credoau synnwyr cyff- redin wedi'u disodli gan wyddoniaeth. Ond nid felly y gred fod perthynas achosol a hollbwysig rhwng natur ein lluniaeth a mynychder afiechydon. Efallai mai un o'r rhesymau pwysicaf am barhad y