Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhisiart III al Anffurfedd: Cipdrem Feddygol 2 I barhau gyda'r arolwg o gyflwr corfforol Rhisiart III rhaid crybwyll astudiaeth ddiweddar Catherine Aird a R. A. C. Mcintosh. Seiliwyd eu dadansoddiad hwythau ar ddisgrifiad Thomas More a Shakespeare a daethant i'r casgliad bod y Brenin unai'n dioddef o Syndrom Ellis-Van Creveld (chondro-ectodermal dysplasia) neu fod y portreadau difrîol ohono wedi'u seilio ar ddiodd- efydd cyfoes. Mae'n afiechyd eithriadol brin ac fe'i dis- grifiwyd am y tro cyntaf yn 1940. Diddorol yw nodi i nifer annisgwyl o enghreifftiau o'r salwch gael ei gan- fod ymhlith pobl yr Old OrderAmish ym Mhensylfania. Dyma gymdeithas gaeedig ac iddi draddodiad o ymbriodi mewnol! Nid dyma'r lle i drafod manylion clinigol. Digon am y tro yw dyfynnu gosodiad sylfaenol yr awduron: All the physical signs that are included by More do occur with the Ellis-Van Creveld syndrome, and equally important, that he records none that do not. Cyflwynodd Catherine Aird a Mcintosh ddadan- soddiad diddorol i gefnogi eu damcaniaeth ond erys un anhawster sylfaenol. Mae'r anhwylder yn un anghyff- redin dros ben, hyd yn oed ymhlith poblogaeth enfawr yr Unol Daleithiau. Tybed a oedd un person yn glaf o'r clefyd hwn yn Lloegr pan oedd y boblogaeth gymaint yn llai? Ar wahân i hynny roedd enghreifftiau eraill o ddiffyg twf ac anffurfiadau cynhenid yn llawer mwy cyffredin. Ac a bod yn deg, mae'r awduron yn cyd- nabod 'that any evidence that the King might have suffered from the syndrome is scanty and confusing'. Pwysleisiodd Shakespeare y cysylltiad rhwng anffur- fedd Rhisiart, ei natur wyllt a'i bresenoldeb bygythiol. Roedd i honiad More nad oedd y Brenin yn brin o ddannedd pan anwyd ef also not untoothed at birth ran allweddol ym mhortread y dramodydd. Roedd traddodiad yn ymestyn yn ôl i'r cyfnod cyn-Gristnogol ei bod hi'n argoeli'n ddrwg pe bai baban wedi torri dan- nedd cyn ei eni, ac fe fyddai cynulleidfaoedd yn y theatr yn gyfarwydd â'r hen goel. Gall dannedd genedigol ei gwneud hi'n afrwydd i fam fwydo baban ary fron, yn gymaint felly fel y byddai rhaid tynnu'r daint neu'r dannedd. Nid yw'n afresymol awgrymu mai ymyrraeth cynnar o'r fath ym mherthynas naturiol mam a'i phlentyn yw sylfaen yr hen draddodiad. Mae rhesymau eraill dros dynnu dan- nedd. Gallant ymryddhau o'r gorchfan gyda'r perygl i'r baban eu llyncu, neu'n waeth o lawer, eu hanadlu i'r bibell wynt a'r ysgyfaint. Yn ychwanegol at hyn, mae presenoldeb blaenddannedd yn yr ên isaf, a dyna a welir gan amlaf, yn gallu arwain i friwiau trafferthus wrth fôn y tafod ar lawr y geg. Mae'n hawdd deall sut y daethpwyd i ystyried plentyn o'r fath mewn goleuni anffafriol ac fe fanteisiodd Shakespeare ar yr hen goel EMYR WYN JONES gan ddefnyddio ei ryddid artistig yn llawn. Serch hynny, er nad yw hi'n annhebygol bod gan Rhisiart ddannedd pan anwyd ef, rhaid pwysleisio nad oes cysylltiad rhwng y cyflwr ac anffurfedd corfforol neu broblemau seicolegol. Yn wir, ystyria'r Eidalwyr a'r Ffrancwyr y cyflwr yn addewid o Iwyddiant. Yn y ddrama The Life and Death ofRichard III, ceir prawf bod Shakespeare wedi anwybyddu tystiolaeth hanes. Dyma'r geiriau a rydd yng ngenau Rhisiart: And therefore, since I cannot prove a lover, To entertain thesefair well-spoken days, I am determined to prove a villain, Priododd Rhisiart Anne Neville, merch Iarll War- wick, a chawsant fab, Edward, Tywysog Cymru, a fu farwyn 1484 yn un ar ddeg mlwydd oed. Dywedir hefyd fod i Risiart ddau blentyn anghyfreithlon. Mae'n werth nodi hefyd na chyfeiriodd Polydore Vergil at unrhyw anffurfiad amlwg ar gorff Rhisiart ar ôl brwydr Maes Bosworth, er ei fod yn sôn am ei 'armes and legges'. Yr unig benderfyniad rhesymol yw nad oedd dim o'i Ie ar gorff Rhisiart ond ei fod yn fyr, gydag ychydig iawn o dro yn ei gefn cyflwr cyffredin dros ben a hollol ddiniwed. Ar ben hyn efallai bod olion dat- blygu'r cyhyrau o gwmpas ei ysgwydd oherwydd iddo orymarfer ei ddawn i drin arfau. Dyma'r math o hyper- troffedd ffisiolegol a welid ers talwm ym mraich taro gof y pentref. Mae'n amlwg fod y baban egwan a anwyd yn gynamserol wedi ennill nerth yn gyflym. Y casgliad diogelaf bellach yw i dipyn o ddiffyg cymesuredd perffaith, nad oedd o bell ffordd yn anffur- fedd patholegol gael ei ddefnyddio i ddibenion pro- paganda. Shakespeare oedd yn gyfrifol am addurno a gorliwio'r stori. Diweddglo Priodol yw gorffen yr astudiaeth hon o anffurfedd honedig Rhisiart III trwy ddyfynnu rhai o sylwadau Syr George Buck yn ei gyfrol The History of the Life and Reigne of Richard the Third (1647). Hanai Syr George Buck o Swydd Efrog ac roedd yn Blantagenet i'r carn. Clwyfwyd un o'i hynafiaid ar Faes Bosworth ac fe'i dienyddwyd wedi'r frwydr. Yn ddiamau, teyrngarwch brwd Buck i'w deulu, ac i goff" adwriaeth Rhisiart a'i symbylodd i ymgymryd â'rllafur cariad o gywiro'r darlun Tuduraidd o'i arwr. Maen anodd cysoni rhai o'i ddisgrifiadau o'r Brenin ar r gwirionedd hanesyddol ond mae ffeithiau i ategu ei sôn am allu corfforol Rhisiart fel milwr. O ddiddordet) arbennig mae brawddeg sy'n gwadu unrhyw anffur- fedd corfforol.