Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

He was of a mean or lowe compact, but without dispropotion and uneveness either in lineaments or parts (as his severall pictures present him). Wrth gwrs mae barn Syr George Buck, y selogwr o f_)v Iorc, yn cydfynd â thybiaeth Dafydd Llwyd o Fathafarn, y Lancastriad eiddgar, a'i sylw am y 'Gwrab bach a'r garrau pi' a sylw cyfamserol oedd hwnnw. ÔI-Nodyn (Mae'r erthygl hon wedi ei thalfyrru ac mae'rfersiwn llawn ynghyd â'r Uyfryddiaeth ar gael gan yr awdur.) HARDDWCH ARWYNEBOL Beth am fentro i'r busnes aur? Mae 'na alw am feini aur o hyd a chan fod aur yn fetel hawdd i'w lifio fyddwch chi ddim yn hir wrth y gwaith. Fe fyddai bricsen aur, yr un faint â bricsen glai goch yn werth i'w gweld a byddai tipyn o afael ynddi hefyd. Yn anffodus mae aur yn ddrutach na chlai, ac fe gostiai bricsen aur E 100,000 a mwy, ond beth pe bai modd gorchuddio'r fricsen goch â haen denau o aur? Fe ddeuai hynny â'i pris i lawr debyg iawn, ac fe fyddai'r fricsen yr un mor hardd ar y wyneb o leia'. Beth fyddai cost yr haen arwynebol hon? Wel, dywedwch fod modd cadw'r haen i drwch un atom o aur, fyddai'r gost fawr uwch na cheiniog y fricsen -llai na chost y fricsen o dipyn ac fe fyddai'r haen allanol yr un fath yn hollol â bricsen o aur pur. Dyma'r atom prin sy'n penderfynu nodweddion cemegol y maen dan sylw, yn penderfynu a ydyw'r aur yn gweithredu'n gatalytig ai peidio, a thrwy hynny yn rheoli cyfoeth diwydiant a gwladwriaeth. Beth felly yw catalydd? Dim ond sylwedd sy'n rheoli cyflymder adweithiau cemegol heb fod â rhan uniongyrchol ynddynt. Nid yw ei haen allanol yn ddim mwy na man cyfarfod i nwyon adweithiol. Er enghraifft, pan fydd molecwl o fethanol yn glanio ar wyneb catalydd rhodiwm bydd yn glynu yno dros dro, ond os digwydd i folecwl o garbon monocsid daro heibio wele adwaith, a molecwl o asid asetig yn hedfan i ffwrdd. Pe bai'r methanol a'r carbon monocsid yn cyd-daro fel nwyon cyffredin ni ddigwyddai fawr ddim, ond oherwydd fod amgylchedd atomig arwyneb y rhodiwn yn creu amodau mor arbennig o addas i adweithio cynhyrchir 500,000 tunnell y flwyddyn o asid asetig trwy ddefnyddio'r catalydd hwn. Cyflymir yr adwaith sylfaenol rhwng mil a miliwn o weithiau. Gan hynny, nid yw'n syndod fod cemegwyr yn ymddiddori'n fawr yng nghyfrinachau meini aur y catalyddion pwerus hyn. Beth sy'n digwydd mewn gwirionedd i'r molecylau sy'n glynu i wyneb metelaidd catalytig ac yn ei wneud yn gymaint mwy adweithiol? Tan yn ddiweddar bu'n gyfrinach Iwyr, y tu hwnt i gyrraedd llaw na llygad, ond bellach datblygodd cemegwyr offer pwerus i astudio haenau arwynebol croen y metel sy'n gorchuddio'r fricsen. Gallant hefyd wylio'r molecylau nwy yn taro ar yr wyneb ac yn glynu ato, gan ystumio'n gemegol i groesawu nwyon adweithiol eraill. Yr ydym felly yn dechrau deall cyfrinachau'r catalyddion yn ddigon da i lunio catalyddion newydd gyflawni gwyrthiau eraill. Eisoes fe fu catalyddion ar waith yn mireinio olew crai yn betrol di-gnoc, di-blwm. I fanteisio ar olew â mwy o sylffwr neu amhuredd metelaidd ynddo, ac atal llygru'r amgylchedd ar yr un pryd, bydd angen catalyddion mwy grymus eto. Camp cemegwyr fydd caboli a gloywi'r meini aur arwynebol, rhyfeddol hyn. Adroddiad Pimental Opportunities in Chemistry a gyhoeddwyd gan yr Academi Wyddonol Genedlaethol, UDA, 1985. Dosbarthwyd ym Mhrydain gan Gymdeithas Frenhinol Cemeg. Troswyd gan lolo Wyn Williams.