Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dylanwad Llygredd Ymbelydrol Chernobyl ar Dir Mynydd Prydain Mae Dafydd Rhys Jones yn radio-ecolegydd ym Mridfa Blanhigion Cymru a bu'n gweithio yno ers gadael Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth. Yn 1987 enillodd ysgoloriaeth gan y Cyngor Ymchwil i Fwyd ac Amaeth (Agricultural and Food Research Council), a threuliodd dairblyneddyngNgholeg Wye, Prifysgol Llundain. Gradd- ioddmewn Biodechnoleg Planhigion ac yn ei astudiaethau feganolbwyntiodd arffisioleg planhigion a gwyddoniaeth y pridd. Dychweloddi'rFridfayn 1990 a chyfunodd ei ddidd- ordeb mewn mynydda affìsioleg ecolegol trwy ymgymryd agymchwiì i ymbelydredd Chernobyl ar dir mynyddigyn Ardal y Llynnoedd ac yn Eryri. Yn dilyn creu'r Sefydliad Ymchwil i Dir Glas a'r Amgylchedd mae gwaith Bridfa Blanhigion Cymru yn awr yn cynnwys ymchwil i ddulliau llai dwys o amaethu, dylanwad amaethyddiaeth ar yr amgylchedd a dylanwad llygredd ar y defnydd a wneir o dir. Yn ddiweddar fe ddechreuwyd hefyd ar waith ymchwil i ffisioleg ecolegol elfennau ymbelydrol mewn ecosys- tem fynyddig led naturiol. Tardda'r gwaith hwn o'r ffaith fod rhannau eang o Ardal y Llynnoedd ac Eryri yn dal i fod o dan waharddiadau, a hynny bum mlynedd ar ôl damwain Chernobyl. Y tu allan i'r Undeb Sofietaidd, daeth yr arwydd cyn- taf fod damwain wedi digwydd pan ganodd larwm mewn cyfarpar awtomatig i fesur ymbelydredd mewn pwerdy niwclear yn Sweden. Ar 28 Ebrill, ar ôl hir holi, cafodd llysgennad Sweden ym Moscow y manylion cyntaf am y ddamwain. Yn ddiweddarach cafwyd amcangyfrif gan yr awdurdodau yn yr Undeb Sofietaidd fod tua 2 X 1018 becquerel o ymbelydredd wedi ei wasgaru o'r adweithydd cyn iddynt lwyddo i oeri'r crombil.1 Roedd symudiad y cwmwl ymbelydrol ar draws Ewrop, a gwasgariad y llygredd yn dibynnu i raddau ar y patrwm tywydd ar y pryd.2 Pan ddigwyddodd y ddam- wain roedd yna antiseiclon yn gorwedd dros ogledd- orllewin Rwsia. O ganlyniad, roedd yr awyr o dan 500m yn hollol lonydd a sefydlog ac i ryw raddau fe amddiff- ynnodd hyn y boblogaeth leol ar y dechrau. Oherwydd eu tymheredd uchel, cafodd y llwch a'r nwyon ymbelydrol eu codi i uchder o l-2km a'u cario gan wyn- toedd i gyfeiriad gwledydd Scandinafia. Ar ddydd Sul, 27 Ebrill rhannodd y cwmwl ymbelyd rol yn ddau. Cariwyd un gangen ohono i'r dwyrain, dros y Ffindir, gogledd yr Undeb Sofietaidd a draw am Siapan a Tseina. Erbyn dydd Llun, 28 Ebrill roedd diwasgedd wedi sefydlu dros Sweden ac achosodd hyn i gangen arall wahanu o'r cwmwl. Golchwyd y rhan fwyaf o'r llygredd ohono gan y glaw oedd yn gysylltiedig â'r ffrynt oer a chafwyd yr achos uchaf erioed o lygredd ymbelydrol yn Ewrop dros 100,000 Bq m 2. Roedd hyn bron i bedair gwaith yn fwy na'r DAFYDD RHYS JONES lefel a ddisgynnodd ar Brydain yn ddiweddarach. O'r gangen hon fe deithiodd gweddill yr ymbelydredd i'r gorllewin, dros Wlad yr Iâ a Greenland ac i ogledd- ddwyrain yr Amerig. Wrth i'r diwasgedd basio heibio, sefydlodd cefnen o bwysedd uchel a ymestynai o Fae Biscai i Sgandinafia. Achosodd hyn i drydedd cangen wahanu o'r cwmwl a theithio tuaY Alpau, dros Bafaria a chyrraedd canolbarth Ffrainc erbyn dydd Mercher, 30 Ebrill. Ar 1 Mai symudodd y gangen hon o'r cwmwl i ogledd Ffrainc tuag at Sianel Lloegr. Erbyn bore Gwener, 2 Mai roedd diwasgedd wedi ei ganoli dros dde-orllewin Prydain. Dylanwadodd hwn yn fawr ar wasgariad y llygredd ymbelydrol dros Brydain. Diolch i'r ffryntiau, fe gafwyd stormydd a chawodydd trymion dros y pen- wythnos ac fe effeithiwyd fwyaf ar dir mynyddig Ardal y Llynnoedd, canolbarth a gogledd Cymru ac ucheldiroedd yr Alban. Yn yr ardaloedd lle y disgynnodd y rhan fwyaf o'r cesiwm ymbelydrol, y prif weithgaredd amaethyddol yw cadw defaid. Erbyn Mehefin 1986 roedd lefel y cesiwm ymbelydrol mewn defaid wedi codi i'r fath rad- dau fel bod rhai anifeiliaid dros y lefel ddiogelwch o 1000Bq kg-1. Gosododd y llywodraeth gyfyngiadau ar symud, gwerthu a lladd defaid ac wyn. Ar y dechrau credwyd y byddai lefel yr ymbelydredd yn gostwng yn fuan wrth i'r cesiwm gael ei olchi o'r tir ond ni ddig- wyddodd hynny ym mhob man. Bum mlynedd ar oi y ddamwain mae'r lefelau yn dal yn uchel a nifer o tte mydd yng Nghymru ac yn Ardal y Llynnoedd yn dall ddioddef gwaharddiadau. 3, 4 Erbyn hyn cafwyd sawl astudiaeth ecolegol o ëc*l*áá ymbelydrol yng nghyfundrefn ecolegol ffer^ny mynydd.5 Mae'r rhesymau am yr amrywiaeth a %fly lefelau y cesiwm mewn defaid ac yn y borfa y maen y ei bori yn gymhleth ond un o'r prif ffactorau yw natUO