Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

13 D Leppert, 'An Oregon cure for Bikini Island? First results from the zeolite immobilisation experiment\ Oregon Geology, 50 (1988), 140-1. 14 V. C. Beligar. N. E. Nielsen a S. A. Barber, 'Kinetics of absorption of K, Rb and Cs from solution culture bv intact roots'. J. Plant Nutrition, 1 (1979), 25-37. YN FYTHOL IFANC Mae pob un ohonom, ar ryw adeg neu gilydd, wedi teimlo'r pwysau a rydd y cylchgronau hamdden a'r papurau tabloid arnom i edrych yn ifanc ac i newid ein holl arferion byw er mwyn sicrhau iechyd a hir oes. Mae llawer ohonom hefyd wedi hen alaru wrth geisio ymgyrraedd at y ddelfryd ac wedi pen- derfynu rhoi'r ffidil yn y to gan heneiddio'n dawel. Ond efallai bod gan yr Athro Barbara Gilchristo Goleg Meddygol Prifysgol Boston newyddion da. Ei maes ymchwil hi yw cyfrinach bythol ieuenctid. Mae proses heneiddio y corff dynol yn un anodd iawn i'w deall. Mae'n amlwg bod peiriant yn gwisgo a thorri ar ôl blynyddoedd o ddefnydd rheolaidd. Ond organeb fyw yw'r corff sy'n tyfu ac yn adnewyddu rhannau ohoni'i hun yn gyson e.e. celloedd. Pe gellid ymestyn y broses o adnewyddu oni ellid ymestyn bywyd yr organeb gyfan a'i hatal rhag heneiddio? Yn ddiweddar sylwodd yr Athro Gilchrist ar rai o ffeithiau sylfaenol y broses o heneiddio. Dibynna ar nifer o brif-enynnau sy'n rheoli y ffordd y mae'r 50,000 neu fwy o enynnau eraill yn gweithio. Dyma'r unedau o fewn y gell sy'n trosglwyddo nodweddion etifeddol o un genhedlaeth i'r lIall. Dros gyfnod bywyd, mae'r genynnau hyn yn marw gan achosi i'r organeb heneiddio. Mae'n bosib dychmygu sefyllfa IIe gellid chwistrellu prif-enynnau newydd i'r corff i gymryd 11e y rhai marw, a thrwy hynny ymestyn hyd bywyd naturiol yr organeb gyfan. Gwnaeth yr athro ymgais i brofi'r ddam- caniaeth hon mewn arbrofion i reoli einioes llygod. Bu'n arbrofi hefyd gyda chyffur i lyfnhau'r rhychau yn y croen. Datblygodd y cyffur hwn ar ôl cymharu celloedd croen hen bobl â chelloedd pobl ifanc. Drwy roi asid retinoig (a wahanwyd o Fitamin A), ar y croen cafwyd gwared o rychau. Defnyddir asid retinoig i drin achosion difrifol o acne ac wrth wneud hyn daethpwyd i'r casgliad ei fod yn adweithio ar y DNA ym mhrif-enynnau celloedd y croen ac yn adnewyddu y prosesau sy'n arafu wrth heneiddio. Effeithir fwyaf ar gelloedd epidermal haen allanol y croen. Wrth heneiddio collir mwy o'r celloedd hyn a chynhyrchir llai ohonynt. 0 ganlyniad mae'r croen yn crebachu. Mae'r tywydd (yn arbennig yr haul) yn gwneud i'r croen edrych yn hen hefyd. Tra'n symbylu'r croen i gynhyrchu Fitamin D, mae golau'r haul yn dinistrio'r Fitamin A ac felly'r asid retinoig. Teneuo mae'r croen wrth heneiddio wrth i nifer y celloedd ar ryw ddyfnder arbennig leihau. Drwy gynhyrchu mwy o'r celloedd â thriniaeth asid retinoig fe ddychwel y croen i'r un trwch ac yr oedd yn ystod ei ieuenctid. Mae asid retinoig hefyd yn lleihau crynodiad y molecylau melanocyt sy'n cynhyrchu melanin. Crynodiad o'r rhain sy'n achosi i smotiau coch neu felyn ymddangos ar y croen wrth heneiddio. Ar hyn o bryd mae hyn oll yn faes ymchwil prysur iawn. Nid oes sicrwydd beth sy'n digwydd yn y meinwe dyfnach ond anogwyd ymchwilwyr i edrych ar systemau mewnol, megis y celloedd T- Lymffo a geir yn y gwaed. Mae i'r rhain fywyd o tua 10 i 20 mlynedd yn y corff a dengys astudiaeth bod eu gweithgarwch biocemegol yn arafu wrth heneiddio, yn union fel pe baent yn ymateb raglen a ragordeiniwyd. Ydasg yw rheoli'r broses o heneiddio yn y celloedd hyn ac o dipyn i beth ymestyn i gelloedd eraill. Datgelodd yr Athro Gilchrist ei chanlyniadau yn y gynhadledd ar Ddermatoleg Glinigol yn y Flwyddyn 2000. Ar yr un pryd rhybuddiodd rhag y sgil effeithiau niweidiol a allai ddilyn triniaeth asid retinoig. Eto, gwelai ddatblygiadau sylweddol ar y gorwel a allai olygu y byddai'r boblogaeth dros 65 oed bedair gwaith yn fwy yn 2000 nag yr ydoedd ar ddechrau'r ganrif hon.