Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Canolfan Technoleg Busnes Caerdydd Canolfan Technoleg Busnes Caerdydd Ar flaen y gad wrth hyrwyddo mentrau technolegol newydd yn Ne Morgannwg mae Canolfan Technoleg Busnes Caerdydd. Eisoes mae nifer o fusnesau technolegol yn manteisio ar yr adnoddau a gynigir gan y Ganolfan oherwydd mae'n lle hwylus i leoli diwydiant ac fe gynigir yno'n ogystal y gwasanaethau ychwanegol sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu cynhyrchion a syniadau newydd. Lleolir y Ganolfan ar gyrion dwyreiniol Canolfan Ddinesig Caerdydd ac o fewn tafliad carreg i gampws y Brifysgol. Gobaith Cyngor Sir De Morgannwg wrth sefydlu'r Ganolfan oedd cysylltu busnes a thechnoleg mewn adeilad y gellid ei addasu yn unedau sengl neu'n rhai cyfunol yn ôl gofynion y gwahanol gwmnïau. Ceir cyfanswm o 33 uned yn y Ganolfan ac mae'r rhain yn amrywio mewn maint o 27 i 72 medr sgwâr (130 i 775 troedfedd sgwâr). Agorodd y Ganolfan yn Ionawr 1988 ac mae'n cael ei rhedeg gan gwmni cyfyngedig dan warant o ddau aelod, Prif Weithredwr a Chyngor Sir De Morgannwg. Mae Bwrdd Rheoli'r cwmni yn cynnwys cynghorwyr Sir, academyddion blaenllaw a chynrychiolwyr o'r sector preifat. Oherwydd y cefndir hwn gall y Ganolfan gynnig cyngor a chymorth i denantiaid ar faterion arian- nol, technolegol a chyffredinol. Ar ben hyn mae ganddi gysylltiad uniongrychol ag arbenigwyr ac yn eu plith mae asiantau patent, cyfreithwyr a chyfrifwyr. Un o'r tenantiaid yw Innomtion Wales a dyma hefyd ran hollbwysig o'r gwasanaeth cynghori a σσσσ gynigir gan y Ganolfan. Asiantaeth ydyw sydd a'i bryd ar hybu gwelliannau o fewn cwrnnìau bychain a chefnogi diwygiadau yn y diwydiant cynhyrchu ac yn y diwydiannau gwasanaethu. Mae Innomtion Wales yn weithgar drwy dde Cymru ac mae cysylltiad yr asiantaeth â'i chwsmeriaid yn un agos. Mae'n cynnig cymorth ymarferol, yn cloriannu datblygiadau a hyd yn oed yn gwneud buddsoddiadau ar raddfa fechan er mwyn rhoi cyfle i fentrau gael eu traed oddi tanynt. Trefnir hefyd i nifer o'r cwsmeriaid dder- byn hyfforddiant ym myd busnes. Eileen Turner, Gweinyddwraig Canolfan Technoleg Busnes Caer- dydd a Douglas Hampson, Prif Weithredwr lnnovation Wales. Mae i Innovation Wales enw da am ei gwaith yn dehongli cynlluniau busnes. Mae 90% 0 gwsmeriaid yr asiantaeth am gynhyrchu nwyddau newydd ac am wybod a yw eu syniadau yn rm