Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Mr David Hunt, yn cyflwyno gwobrau SMART II yng Nghanolfan Technoleg Busnes Caerdydd. 11. Urquhart Dykes and Lord Cysylltydd: Mr S. Gibson Mae presenoldeb yr asiantaeth batent hon yn y Ganolfan yn ddefnyddiol iawn ar gyfer busnesau newydd. 12. Visual Logic Systems Limited (VLS) Cwmni gwybodaeth' sydd wrthi'n datblygu hylifau prosesu delweddau ar gyfer meysydd diwydiannol a meddygol. Dyfarnwyd i'r cwmni yn ddiweddar wobr SMART. Yn wir mae pedwar o'r cwmnïau yng Nghanolfan Technoleg Busnes Caerdydd wedi ennill gwobrau SMART (SmallFirmsMeritAwardforResearch and Technology). Cystadleuaeth flynyddol ydyw a dref- nir gan Adran Ddiwydiant a Masnach y Swyddfa Gymreig. Mae'r wobr yn rhoi grantiau ymchwil i gwmnïau er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu technolegau newydd. Mae dau o'r cwmnïau wedi mynd ymlaen i ennill gwobrau ychwanegol (Stage II Awards) ac yn awr yn marchnata eu cynnyrch. Wrth gyflwyno'r gwobrau diweddaraf roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Mr David Hunt, yn hael ei ganmoliaeth i'r Ganolfan. I ddyfynnu ei eiriau ef mae yma: a successful environment for the formation and growth of new small high technology companies. Gyda mwy a mwy o gwmniau'n llwyddo, mae'r Ganolfan yn awyddus i ddatblygu cynlluniau newydd. Meddai Paddy Kitson, Cynghorydd Sir, Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Chadeirydd Pwyllgor Datblygu Economaidd Cyngor Sir De Morgannwg: I am very pleased with the achievements of the Cen- tre since its formation. It is very encouraging for those involved in high technology projects to know that such a supportive and excellent facility exists here in the County for the commercial development of their ideas.