Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

POENYN PENNA' Rhif 47: DATOD CwLWM Beth, tybed, yw arwyddocâd y clymau Celtaidd sy'n addurno cymaint o feini ac ymylon llawysgrifau o'r cyfnodau Cristnogol cynharaf? Cwlwm bywyd? Cwlwm cariad? Ynteu a fodlonwyd yn unig ar y pleser technegol a mathemategol o'u llunio. Llun 1 Patrwm cwlwm Celtaidd ar groes ym Margam Mae dadansoddi clymau wedi datblygu'n faes ymchwil mathemategol hynod ddiddorol. Er enghraifft, gellir cymhwyso darganfyddiadau yn y maes i drin cwestiynau megis clymau mewn molecylau hir. Yn yr Adran Fathemateg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor datblygwyd pecyn ymchwilio i fathem- ateg clymau ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd. Mae'r pecyn yn egluro mai> cwlwm symlaf yw'r treffoil, a welir isod (dangosir y ddau bosibilrwydd ac mae'r naill yn adlewyrchiad o'r llall):