Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Portreadau o Wyddonwyr o Gymru YR ATHRO EMERITWS GWENDOLEN REES FRS Yn Ionawr 1991 cyhoeddwyd yn y Newsletter and ProceedingsoftheLinnean Society ofLondon fod yr Athro Gwendolen Rees, yn 1990, wedi derbyn medal arbennig y gymdeithas am ei chyfraniad i Swoleg. Mae iddi Ie fel un o wyddonwyr amlycaf Cymru a bydd y portread hwn o'i gyrfa hir yn sicr o ddiddordeb i ddarllenwyr Y Gwyddonydd. Addysgwyd Gwendolen Rees (neu Gwen fel ei hadweinir hi gan ei chydnabod), yn Ysgol Ganolradd y Merched yn Aberdâr. Cafodd Iwyddiant arbennig mewn pynciau mor wahanol i'w gilydd â mathemateg, botaneg a Lladin a derbyniodd dair ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Graddiodd mewn Swoleg yn 1928 ac ym Medi y flwyddyn honno dechreuodd ar ei hymchwil i bwnc perthnasol iawn i Gymru sef pry'r afu mewn defaid. Yn ystod ei chyfnod yng Nghaerdydd bu dylanwad pennaeth yr Adran Swoleg yn drwm arni. Roedd W. M. Tattersall yn awdurdod cydnabyddedig ar crustacea, yn systematydd perffaith ac yn drwyadl drefnus ym mhopeth yr ymgymerai ag ef. Er ei fod yn weithiwr aruthrol, gŵr gwylaidd diymhongar ydoedd a dyma nodweddion sydd hefyd yn disgrifio Gwendolen Rees i'r dim. Tra'n gweithio ar ei doethuriaeth daeth Gwendolen i gysylltiad â H. A. Bayliss a R. T. Leiper yr helmintholegwyr enwog. Yn wir, roedd R. T. Leiper yn arholwr allanol iddi ac ef awgrymodd fod yr Athro R D. Laurie yn ei phenodi yn ddarlithydd cynorthwyol yn ei adran yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth Am 44 o flynyddoedd bu Gwendolen Rees yn gyfrifol am ddysgu llu o fyfyrwyr yn Aberystwyth. Er gwaethaf dyletswyddau gweinyddol trwm parhaodd gyda'i hymchwil ei hun ac arolygodd brosiectau ymchwil 215 o fyfyrwyr anrhydedd, 1 o fyfyrwyr MSc a 14 o fyfyrwyr Ph.D. Dywediryn aml mai drwywaith cyhoeddedigydaw'r gwyddonydd yn enwog. Mae Gwendolen Rees wedi cyhoeddi 68 0 bapurau gwreiddiol mewn cylchgronau amlwg ac wedi arolygu cyhoeddi dros 50 o bapurau eraill gan ei myfyrwyr ymchwil. Dengys ei chyhoeddiadau gynnydd parhaol ei harbenigrwydd ar ddau faes o bwysigrwydd mawr mewn parasitoleg: 1. natur ac arwyddocâd cylch bywyd anghyffredin pryfed endobarasitig 2. esboniadau morffolegol ac ecolegol llwyth- sbesiffigedd pryfed parasitig Oherwydd ei gwaith yn y meysydd hyn rhoddodd Gwendolen enw da i Goleg Prifysgol Cymru. Aberystwyth fel canolfan helmintholeg bwysig. Yn ystod ei gyrfa bu Gwendolen Rees yn ddarlithydd cynorthwyol mewn Swoleg (1930-37), yn ddarlithydd (1937-66) ac yna'n ddarllenydd (1966-71). Yn 1971 rhoddwyd iddi gadair bersonol ac yn 1974 fe'i gwnaed yn Athro Emeritws Prifysgol Cymru. Yn gynnar yn ei gyrfa fe ddaeth yn amlwg bod Gwendolen wedi etifeddu peth o ymrwymiad Tattersall tuag at waith maes a bu'n arwain grwpiau o fyfyrwyr am gyfnodau astudio i orsafoedd bywydeg yn yr Alban, Denmarc, Portiwgal a Sbaen, ac i amgueddfeydd ym Merlin, Moscow a Pharis. Roedd ei gweithgareddau academaidd eraill yn cynnwys bod yn aelod o fwrdd golygyddol y cylchgrawn ar barasitoleg (1960-1970) ac yn llywydd y bwrdd hwnnw (1970-81). Bu hefyd yn is- lywydd (1970-2) a llywydd (1972-4) Cymdeithas Parasitoleg Prydain. Yn 1948, 1969 a 1970 bun bennaeth dros dro ar Adran Swoleg, Aberystwyth ac yn 1972-3 hi oedd Cadeirydd yr Ysgol Gwyddorau Bywydegol. Fe'i gwnaed yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Parasitoleg Prydain yn 1972 ac yn aelod o Gymdeithas Parasitolegwyr UDA yn 1976. Yn 1971 ni oedd y wraig academaidd gyntaf yng Nghymru i gael el hethol yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol. Bryd hynny roedd hi'n llythrennol yn un mewn miliwn gan