Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE Un o Golegau Cyfansoddol Prifysgol Cymru Prlfathro:B. L. Clarkson, DSc, CEng, FRAeS, FSEE, FIOA Darperir y cyrsiau canlynol ar gyfer myfyrwyr gwyddoniaeth: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg. (b) Diplomâu'r Coleg mewn Bioleg Forol Gymhwysol, Ffiseg Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Gwyddor Rheolaeth, Peirianneg Gemegol, Tocsicoleg Geneteg, Geneteg a'i Defnyddioldeb, Peirianneg Fecanyddol. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth yn cynnwys Athroniaeth, Biocemeg, Bioleg yr Amgylchedd, Bioleg Forol, Botaneg, Cemeg, Cyfrifianneg, Daearyddiaeth, Economeg, Ffiseg, Geneteg, Gwyddoniaeth Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Mathemateg, Mathemateg Bur, Mathemateg Gyfrifiadurol, Mathemateg Gymhwysol, Microbioleg, Palaeontoleg, Seicoleg, Swoleg. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Beirianneg yn cynnwys Astudiaethau Busnes Ewropeaidd, Electroneg gyda Chyfrifianneg, Gwyddor Rheolaeth, Gwyddor Rheolaeth Americanaidd, Mathemateg Beirianegol gyda Chyfrifianneg, Peirianneg Deunyddiau, Peirianneg Drydanol a Thrydan, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Fiocemegol, Peirianneg Gemegol, Peirianneg Sifil, Astudiaethau Busnes, Ymchwil Gweithredol, Gwyddor Rheolaeth Ewropeaidd. Mae'n bosibl bellach astudio iaith fodern gyda nifer o'r pynciau gradd uchod, e.e. Mathemateg gyda laith Fodern. Am fwy o fanylion cysyllter â'r Cofrestrydd. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Cedwir dau lawr yn Neuadd Sibly i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr. Gellir cael prospectws a manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd, Coleg Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP. Ffôn: (0792) 205678.