Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Egwyddor Anthropig Problem fwyaf gwyddoniaeth yw'r bydysawd. Sut y dat- blygodd? Beth yw ei oed? Sut mae egluro datblygiad bywyd deallus ary ddaear? Hyd yn gymharol ddiwedd- ar y farn gyffredin ynghylch y cwestiwn olaf oedd bod bywyd wedi datblygu oherwydd bod amgylchiadau ar y ddaear yn ffafrio hynny. Fodd bynnag, yn ystod y deng mlynedd ar hugain olaf mae'r gwrthsafbwynt wedi dechrau cael ei ystyried o ddifrif ac awgrymir mai bodolaeth bywyd sy'n gyfrifol am nodweddion y ddaear. Er enghraifft, i gynnal bywyd mae dwr yn angenrheidiol a dyna paham mae tymheredd y ddaear yn addas ar gyfer bodolaeth dwr ar ffurf hylif. Gellir dychmygu bydysawd gyda nodweddion ffisegol cwbl wahanol ond pe bai gwerthoedd cysonion ffisegol megis atyniad disgyrchiant a gwefr drydanol ar yr elec- tron yn wahanol i'r hyn ydynt ni fyddai yn addas ar gyfer datblygiad bywyd deallus. Hynny yw, mae gan y bydysawd nodweddion y gallwn eu harsyllu oherwydd ein bod ni, yr arsyllwyr yma i'w harsyllu. Pe bai'r nod- weddion hyn yn wahanol ni fyddem yma i'w harsyllu. Dyma'n fyr yr Egwyddor Anthropig (o anthropos, y gair Groegaidd am ddyn). Yn gyffredinol beth ellir ei ddweud am y bydysawd? 1. Oni bai am fanylion lleol megis galaethau mae strwythur y bydysawd yn unffurf. 2. Mae lle i gredu mai yr un yw deddfau natur trwy'r bydysawd. 3. Mae cefndir pelydriad yn dod bron yn unffurf o bob cyfeiriad yn y bydysawd ac yn cyfateb i dymheredd o tua 3°K (-270C). 4. Mae'r bydysawd yn ehangu. 5. Nid oes canol i'r bydysawd a gall arsyllydd mewn unrhyw alaeth weld pob galaeth bell yn encilio oddi wrtho. Pellafyn y byd yw'r alaeth yna cyflymafyn y byd yw'r enciliad. Heb fanylu, mae'r ffeithiau hyn yn peri i ni gasglu bod y bydysawd wedi bod yn ehangu ers 15 biliwn o 'jynyddoedd (oed y bydysawd). Mae hyn yn gydnaws Y dystiolaeth ddaearegol sy'n awgrymu mai oedran y ddaear yw 5 biliwn o flynyddoedd. (Pe bai oed y Dydysawd chwarter yr hyn ydyw ni fuasem yma!) Rhaid unrhyw ddamcaniaeth egluro y cyfansoddiad ^ernegol. Mae dros 92% o'r atomau yn hydrogen, 7.8% M onynt yn heliwm a thua .06% o'r atomau yn garbon. t aecyfanswm yr elfennau eraill yn cyfateb i ddim ond a 03% o'r atomau. Nid yw'r ddaear yn nodweddiadol bydysawd. Mewn egwyddor gellir pennu sefyllfa unrhyw LL. G. CHAMBERS wrthrych ar unrhyw adeg gan dri o rifau. Yn agos i'r ddaear maent yn cyfateb i'r sefyllfa Gorllewin/ Dwyrain, De/Gogledd, i lawr/i fyny. Hynny yw, mae i ofod dri dimensiwn. Ni all tonnau ymledu heb newid eu ffurf ond mewn gofod o un neu dri dimensiwn ac os yw bywyd yn dibynnu ar ymlediad dinewid ni ellir dis- gwyl gweld bydysawd gyda nifer gwahanol o ddimen- siynau gofod. Mae'n wir bod damcaniaethau diweddar yn awgrymu bod gan ofod fwy o ddimensiynau ond bychan iawn yw lled y dimensiynau hyn (tua 10~36 medr) ac mae hyn yn llawer rhy fychan i fod yn ymwybodol ohonynt. Maint proton yw tua 10 17 medr. O'r ffeithiau hyn gellir ffurfio damcaniaeth fras o hanes y bydysawd. Yn y dechreuad (tua 15 biliwn o flynyddoedd yn ôl) roedd y bydysawd yn fach a phoeth. Oherwydd gofynion a rheolau y ddamcaniaeth cwantwm ni ellir mynd yn nes na thua 10 eiliad at y dechrau un. Yn wir, gellir dweud nad oes ystyr i amser sy'n llai na hyn. Ar yr adeg hon roedd y tymheredd yn 10320K, y dwysedd yn 10%kgm/(medr)3 a'r radiws yn 10-5 medr (bras iawn yw'r rhifau yn y rhan hon o'r erthygl). Erbyn bod oed y bydysawd yn tua 10~36 eiliad dat- blygodd yr endidau a elwiryn gwarcau. Rhain sy'n ffur- fio'r gronynnau elfennol. Mae'r anghymesuredd wedi dechrau ac mae mwy o fater nag o wrthfater yn y bydysawd. Pe bai eu cyfartaledd yn debyg byddai gwrthdrawiadau y naill wrth y llall yn achosi diflaniad y ddau gan greu pelydriad. Erbyn bod oed y bydysawd yn 10 6 eiliad yr oedd y cwarcau wedi adweithio i ffurfio gronynnau elfennol sad megis y proton a'r niwtron. Yn awr roedd y tymheredd yn 10I30K, y dwysedd yn 1039kgm (medr)3 a'r radiws yn 1014 medr, sef y pellter rhwng yr haul a Phluto, y blaned bellaf, wedi ei luosogi ddeg o weithiau. Yn ystod y cyfnod hwn daeth y ffotonau i fodolaeth, tua biliwn ar gyfer pob proton neu niwtron. Yn ystod y 3 munud cyntaf digwyddodd adwaith rhwng y protonau a'r niwtronau gan greu cnewyllyn yr atom heliwm a rhai o'r elfennau ysgafn. Yn ystod y miliwn blynyddoedd cyntaf roedd y ffotonau yn parhau yn bwysig a'u pwysedd yn rhwystro metel rhag hel at ei gilydd gan ddylanwad disgyrchiant. Erbyn diwedd y cyfnod hwn roedd radiws y bydysawd yn cyfateb i thua miliwn o flynyddoedd goleuni a'r tymheredd tua 3,500° K. Roedd y tymheredd hwn yn ddigon isel i atomau cyfan a molecylau syml fodoli. Roedd maint yr heliwm a gynhyrchwyd yn y cyfnod cynnar hwn yn ganlyniad i gryfder cymharol dis- gyrchiant a'r grym gwan sy'n rheoli ymbelydredd a'r berthynas rhwng y proton a'r niwtron. Oni bai am hyn mae'n debyg na fyddai bywyd wedi datblygu oherwydd byddai'r bydysawd naill ai wedi ei wneud yn gyfan gwbl o hydrogen neu yn gyfan gwbl o heliwm. Ni fyddai dwr, un o'r endidau sy'n angenrheidiol ar gyfer bywyd, wedi datblygu.