Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fíisegol arbennig a hyd yn oed nifer gweithredol eraill o ddimensiynau gofod. Beth bynnag, yr ydym ni yma ar hyn o bryd yn y bydysawd hwn a'r peth gorau felly yw dilyn athroniaeth Dr Pangloss sef mai dyma'r bydysawd gorau posibl. Oni bai am hynny, ni fyddem ni, yr arsyllwyr yn bodoli. Llyfryddiaeth John D. Barrow, Theories of Everything (Rhydychen, 1991). Paul Davies (gol.), The New Physics (Caergrawnt, 1989). I. L. Rozental, Big Bang, Big Bounce (Berlin, 1987). M. Taube, Evolution of Maths and Energy (Berlin, 1985). LLWCH 0 FYNYDD PINATUBO YN OERI'R DDAEAR YnôldarganfyddiadawnaedynyrUnolDaleithiauroeddllwchaaethi>awyrarôliFynyddPinatuboyn y Philipins ffrwydro fis Mehefin diwethaf yn ddigon i ddadwneud niwed yr effaith tŷ gwydr am ychydig flynyddoedd o leiaf. Dengys lluniau a anfonwyd o loeren fod y ddaear wedi'i hamgylchynu â chwmwl o Iwch a nwy folcanig. Mae'r cwmwl hwn yn gwibio o gwmpas y cyhydedd ar gerrynt o aer sydd tua 1 5 milltir uwchben y ddaear. Mae ei ronynnau yn adlewyrchu golau'r haul yn ôl i'r gofod gan eu hatal rhag treiddio i'r ddaear. Ni ellir bod yn sicr am ba hyd y bydd effaith y gronynnau yn parhau ond roedd ffrwydrad Pinatubo deirgwaith yn fwy na ffrwydrad EI Chichon, Mecsico yn 1 982 ac fe barhaodd effaith hwnnw am flynyddoedd lawer wedi i'r llosgfynydd dawelu. Dywed gwyddonwyr o Weinyddiaeth Gefnforol ac Amgylcheddol Genedlaethol yr Unol Dateithiau fod y llwch eisoes wedi gostwng y tymheredd mewn ardaloedd trofannol o ryw 2°C. Yn ôl Larry Stowe, un o ddadansoddwyr y Weinyddiaeth. Wrth i'r cwmwl wasgaru yn ystod yr hydref gollyngodd ei Iwyth o asid sylffwrig ar hyd lledredau'r byd gan ostwng cyfartaledd y tymheredd o ryw 0.5°C. Mae gostyngiad o 0.5 °Cyn fwy na digon i weithio yn erbyn effeithiau'rcynhesu a briodolir i'r nwyon tÿ gwydr. Ond er bod hyn yn rhywbeth i lawenhau yn ei gylch mae amgylcheddwyr yn awr yn ofni y bydd lIywodraethau'r byd yn llacio eu rhaglenni ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Dywed Michael Oppenheimer, Uwch-ddadansoddwr y Gronfa i Amddiffyn yr Amgylchedd, y byddai hyn yn gam ffôl oherwydd Rhywbeth dros dro yn unig fydd yr oeri hwn. Ac am funud roedd modd credu bod byd natur wedi darganfod ateb i broblem arall a grewyd gan ddyn!