Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Protozoa and the other Protísts, gan Michael Sleigh; Edward Arnold, 1989. ISBN 0 7131 2943 3. Pris: £ 14.95 (clawr meddal). Ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf yn 1973 mae The Biology of the Protozoa, gan Michael Sleigh wedi bod yn gyfeirlyfr safonol i fyfyrwyr bywydeg. Fodd bynnag, mae gwybodaeth am y maes hwn wedi cynyddu'n aruthrol yn ddiweddar ac o ddechrau'r wythdegau mae'r angen am fersiwn mwy cyfoes wedi bod yn amlwg. Dyna yw'r gyfrol hon ac mae'r teitl newydd yn adlewyrchu'r newidiadau a fu yn y dull o ddosbarthu'r organebau y cyfeirir atynt. Yn lle'r disgrifiad cyffredinol Protozoa defnyddir bellach bedwar term sef Animalia (anifeiliaid amlgellog parazoa, mezozoa a metazoa), Plantae (planhigion tir gwyrdd), Fungi (heb flagela) arProtista (yn cynnwys algae, protozoa a fungi gyda flagela). Roedd yr ailwampio yn angenrheidiol ac mae dosbarthiad yr organebau yn awr yn cyfateb i'r wybodaeth gyfoes. Yr hyn sy'n taro rhywun am y Protista yw'r amrywiaeth anhygoel o ffurfiau. Yn y gyfrol gwneir defnydd effeithiol o luniau llinell, ffotofeicrograffau a meicrograffau electron i gyfleu'n fanwl strwythur y celloedd. Mae patrymau ysgerbydol y ciliophora yn arbennig o drawiadol ac yn enghraifft o'r defnydd amrywiol y gellir ei wneud o un proetin unigol er mwyn creu gwahanol ffurfiau. Gwelir yn glir sut y mae prosesau esblygiad wedi manteisio ar bob nodwedd sydd iddo. Rhaid cofio hefyd fod y ffurfiau wedi goroesi bron i ddwy fil o filiynau o flynyddoedd. I'r sawl sydd am ddysgu am y Protista dyma'n sicr y llyfr i'w brynu. Mae'n gronfa wybodaeth arbennig o ddefnyddiol ac mae'r cynnwys wedi ei gyflwyno mewn dull deniadol. Ceir ynddo hefyd bron i ddeg tudalen ar hugain o gyfeiriadau at bapurau gwreiddiol. New Fibres, gan Tatsuya Hongu a Glyn O. Phillips; Horwood, Efrog Newydd/Llundain, 1990. ISBN 0 1361 3266 9. Pris: £ 25 (clawr caled). Llyfr darllenadwy a chynhwysfawr o ganol y ganrif ddiwethaf oedd Waste Products and Underdeveloped Substances (1861), gan P. L. Simmonds, llyfr a'i is-deitl Hints for Enterprise in Neglected Fields yn adlewyrchu i'r dim gred sylfaenol y Fictoriaid mai gorau po fwyaf yr ymelwa ar ffynonellau naturiol. Neilltuwyd cryn gyfran o lyfr Simmonds i drafod sut orau y gellid defnyddio ffynonellau naturiol o ffibr i wneud dillad, rhaffau, basgedi ac, yn fwyaf arbennig efallai, papur. Cefais y llyfr New Fibres hefyd yn gynhwysfawr ac yn dra darllenadwy. Mae edmygedd golygydd Y Gwyddonydd o dechnoleg Siapan yn hysbys iawn i ddarllenwyr y cylchgrawn hwn ac yn y llyfr dan sylw mae'n cyflwyno digonedd o dystiolaeth i gyfiawnhau ei gred. Ond mae o leiaf ddau wahaniaeth sylfaenol rhwng New Fibres a llyfr Simmonds gwahaniaethau sy'n tanlinellu'n well na dim efallai, esblygiad a thwf technoleg ffibrau yn ystod y ganrif a hanner ddiwethaf. Yn gyntaf, mae maes llafur y technolegydd ffibr cyfoes yn llawer ehangach ac yn llai diffiniedig nag eiddo ei ragflaenydd Fictoraidd. Ac yn ail, mae'r pwyslais bellach bron yn llwyr ar ffibrau synthetig (neu artiffisial); yn wir, prif fwriad New Fibres yw dangos, nid yn unig sut y mae gwyddoniaeth gyfoes yn dynwared prosesau natur ond sut y YSilffLyfrau I. ap G. mae hi, weithiau, yn rhagori arnynt. Mae'r maes olaf hwn technoleg fiomimetig wedi arwain at lu o gynhyrchion newydd megis lledr artiffisial ac esgyrn a dannedd o ffibr. Ceir yma ddisgrifiadau o ffibrau synthetig sydd erbyn hyn yn enwau digon cyfarwydd (megis y ffìbrau polyester a ddefnyddir yn lle defnyddiau dillad traddodiadol neu'r gwahanol fathau o ffibr a ddefnyddir i lunio fframweithiau ar gyfer ceir a cychod) Ymdrinir hefyd â nifer o ffibrau llai adnabyddus. Faint ohonom sy'n gwybod, er enghraifft, am y gwahanol ffibrau synthetig a ddefnyddir i hwyluso'r diagnosis o AIDS, i gael gwared ar arogleuon cas, neu sydd â swyddogaeth neilltuol yn y diwydiant bragu? Ond er ei ddifyrred mae'r llyfr hefyd yn codi nifer o gwestiynau pur sylfaenol. Mae ymdriniaeth synoptig o'r fath yn ein hatgoffa mai rhywbeth yn perthyn i'r gorffennol pell bellach yw'r dull o drafod sefyllfa o safbwynt nifer o wahanol wyddorau. Fel un a drochwyd yn nyfroedd croyw biocemeg glasurol y pumdegau mae'n rhaid imi gyfaddef mai pur anodd oedd dygymod â llyfr sy'n cynnwys yn yr un drafodaeth sylweddau sydd, yn fiogemegol, mor sylfaenol wahanol i'w gilydd â chellwlos a cholagen. Ond diau y bydd raid inni i gyd, yn yr oes post-Kuhnaidd hon, ddygymod maes o law â dulliau pragmatig o drafod gwybodaeth. Ac y mae'r galw am gyrsiau hybrid yn y colegau fel pe bai'n ategu'r tueddiadau hyn. Mae'r llyfr yn peri i ni bendroni hefyd uwchben tynged fiolegol yr holl ffibrau newydd hyn. Cryfder nifer o ffibrau artiffisial yw eu gallu i wrthsefyll dadelfennu biolegol gan facteria a ffyngau; ond y gallu hwn yw eu prif wendid hefyd am ei fod yn gallu creu problemau amgylcheddol. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg nid oedd hyn yn broblem i Simmonds gan fod y ffibrau naturiol yr oedd ef yn eu trafod i gyd wedi esblygu law yn llaw ag ensymau datodol cyfatebol. Ond o'u cynhyrchu ar raddfa eang gall ffibrau synthetig beri problemau. Wedi'r cyfan, onibai am bresenoldeb cyffredinol yr ensym (3-glucosidas byddem i gyd cyn pen fawr o amser wedi'n mygu gan y miloedd o dunelli o gellwlos a gynhyrchir bob dydd gan holl blanhigion y byd. Buddiol o beth mewn argraffiad newydd o'r llyfr fyddai cynnwys trafodaeth sylweddol ar dynged amgylcheddol y ffibrau synthetig a r dull o oresgyn y broblem pe bai ond i leddfu pryderon y rhai ohonom sy'n ddigon henffasiwn i deimlo'n annifyr weithiau ynghylch bendithion di-ben-draw technoleg gyfoes. Ond diolch er hynny am waith hynod ddiddorol. Os gwyddoch am rywun sy'n amau gwerth sylfaenol gwyddoniaeth, awgrymwch iddo ddarllen y llyfr hwn. Os oes disgybl o wyddonydd yn y chweched ddosbarth sydd â'i gred ym mhosibiliadau ei bwnc yn dechrau gwanhau, dyma gyfrol a ddylai adfer ei ffydd. R. E. H. Nerve Cells and Animal Behaviour, gan David Young; Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1989. ISBN 0 52131443 7. Pns: f,9. (clawr meddal). Mae tuedd i gael llyfrau sydd naill ai yn trafod ym<?d^Jf j anifeiliaid neu ffisioleg nerfau. Ymgais yw'r gyfrol hon i gyfuno'r ddau bwnc oherwydd ceir cysylltiad amlwg rhwng y system nerfol ac ymarweddiad anifeiliaid. TraívLe'r technegau ar gyfer astudio'r system nerfol yn fanwl onc i^ awdur yn osgoi defnydd diangen o dermau anghytaW Pan mae'n rhaid iddo eu defnyddio mae'n egluro eu ny