Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

th braf yw gweld arddull gryno a syml; mae llawer iawn mod o awduron yn gwneud i'w testun swnio yn fwy Smhleth nag sydd raid. Cynhwysir peth gwybodaeth am anifeiliaid asgwrn cefn j canolbwyntia llawer o'r enghreifftiau ymarferol ar waith °wnaed ar insecta. Mae hyn yn anorfod oherwydd yn y maes hwn mae mwy o ymchwil wedi ei wneud ar yr insecta. Mae eu system nerfol yn symlach a nifer o'r niwronau unigol yn fawr ac yn gymharol hawdd i'w canfod. Gellir dangos sut y mae ymatebion ac ymarweddiad y creaduriaid hyn yn cael eu rheoli yn fecanyddol ar sail patrymau a chysylltiadau'r niwronau. Etifeddir y patrymau hyn ac etifeddir hefyd y patrwm ymarweddol. Diddorol iawn oedd y bennod ar beirianwaith adlaisleoli mewn ystlumod. Gall y creaduriaid bychain hyn ddatrys y sifft Doppler yn yr adlais, o'i gymharu â'r signal a drawsyrrir. Cyfrol ddifyr a defnyddiol iawn. Theories of Everything, gan John D. Barrow; Gwasg Clarendon, Rhydychen, 1991. ISBN 0 1985 3928 2. Pris: £ 14.95 (clawr meddal). Dyma deitl fydd yn sicr o ennyn chwilfrydedd. Beth yw popeth? Y bydysawd yw'r ateb yn ôl y llyfr hwn a disgrifir ynddo (mewn dull anfathemategol) ymdrech ffisegwyr i greu damcaniaeth fyddai yn cynnwys holl ddeddfau natur; damcaniaeth fyddai yn dangos fod popeth sydd wedi digwydd ac sydd am ddigwydd yn dilyn o amodau oedd yn bodoli yn y dechreuad. Un broblem sy'n codi'n syth yw pa amodau oedd yn bodoli tua 15 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Amhosib yw cael gwybodaeth bendant felly mae'n rhaid dibynnu ar ddamcaniaethau, er na allant wrth reswm fyth fod yn ddigonol. Y mae'r awdur yn ystyried rhan cysonion sylfaenol natur yn y damcaniaethau hyn e.e. buanedd goleuni, gwefr ar yr electron. Mae'n dangos hefyd sut y gall sawl bydysawd gael eu cysylltu gan `dyllau pryfed' anhygoel o denau (10-35 medr). Ar hap gall y rhain achosi newidiadau oherwydd effeithiau'r cwantwm. Yna daw'r awdur at y broblem o gymesuredd. Gyda rhai arbrofion cynhyrchir yr un faint o fater ac o wrthfater. Eto, yn y bydysawd ceir llawer mwy o fater nag o wrthfater. Yn wir, pe bai eu cyfartaledd yn debyg buasai gwrthdrawiad a thrawsffurfiad i belydriad. Ystyriaeth arall yw bod gan ffurfiau nodweddion gwahanol iawn i'r elfennau sy'n eu creu. Er enghraifft, ni ellir rhagweld nodweddion bywyd o nodweddion yr atomau carbon sy'n brif sylfaen i fywyd. Arwain hyn at yr Egwyddor Anthropig, h.y. bod nodweddion y bydysawd, megis gwerth y cysonion ffisegol, yn gyd- ddigwyddiad anorfod ar gyfer bodolaeth bywyd. Mae'r awdur yn gorffen trwy drafod y cysylltiad rhwng ffiseg a mathemateg CARBON DEUOCSID Yn ddiweddar mae llawer o sôn wedi bod am y cynnydd mewn carbon deuocsid yn yr awyr. Mae'n ymddangos nad yw hyn yn beth newydd. Mae ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Utrecht yn dangos fod dwysedd y stomata (sef tyllau bychan ar wyneb dail), yn dibynnu ar lefel y carbon deuocsid yn yr amgylchedd. Wrth astudio olion dail derw mewn glo daethpwyd i'r casgliad fod cynnydd tebyg i gynnydd y ddwy ganrif ddiwethaf wedi digwydd yn lefelau carbon deuocsid filiynau lawer o flyn- yddoedd yn ôl. I. ap G. a'r syniad bod y bydysawd yn gyfrifiadur. Dyma lyfr eithriadol ddiddorol. Ar un adeg ystyrid y creu yn broblem ddiwinyddol ac athronyddol yn unig. Bellach mae wedi datblygu'n broblem i ffisegwyr mathemategol. Dylid diolch i'r awdur am fynd i'r drafferth i egluro syniadau newydd a ffrwyth damcaniaethau diweddar a hynny heb fathemateg. Ll.G.C. Ystadegaeth Elfennol, gan Ll. G. Chambers; Gwasg Prifysgol Cymru, 1991. ISBN 0 7083 1008 7. Pris: £ 8.95 (clawr meddal). Seiliwyd y llyfr hwn ar gwrs mewn ystadegaeth a roddwyd gan yr awdur i fyfyrwyr yng nghyfadran y celfyddydau. Mae ei ddeg pennod yn ymdrin â dulliau elfennol o grynhoi data trwy ddefnyddio graffiau, cyfyngau hyder, profion paramedrig a dibaramedrig, cydberthyniadau ac atchweliadau llinol. Ar ddiwedd pob pennod ceir nifer o ymarferion ond ni chynhwysir atebion i'r ymarferion hyn. Mae'r bennod ar arddangos data yn ymdrin yn fyr â phob un o'r prif fathau, ond trueni bod yr enghraifft o histogram yn defnyddio categoriau o'r un lled heb grybwyll yr angen i ddefnyddio arwynebedd i gynrychioli amledd. Rhoir sylw manwl dros ben i gyfyngau hyder, yn cynnwys y cymedr, amrywiant, cyfrannedd a'r gwahaniaeth rhwng dwy gyfrannedd. Mewn gwirionedd, mae'n anarferol i gwrs elfennol wneud defnydd o chi-sgwar er mwyn dod o hyd i gyfwng hyder amrywiant sampl. Defnyddir y cefndir trwyadl hwn fel sylfaen ar gyfer y profion arwyddocaol, z a t, sy'n dilyn. Mae yna ymdriniaeth fanwl o'r defnydd o chi-sgwar i gymharu amleddau ac i wneud profion o annibyniaeth newidynnau, gan gynnwys darn defnyddiol ar beth i wneud mewn achosion o amledd isel. Trafodwyd profion Wilcoxon a Mann-Whitney mewn pennod wahanol ar brofion dibaramedrig. Yn y ddau achos, cyfrifwyd ystadegyn z a'r gwerthoedd critegol o'r tablau normal yn hytrach na thrwy ddefnyddio'r tablau arbennig sydd ar gael ar gyfer y profion hyn. Mae'r bennod ar gydberthyniad ac atchweliad llinol yn cynnwys cyfernod cydberthyniad Pearson, cyfernod cydberthyniad rhestrol Spearman yn ogystal â llinellau, atchweliad llinol y ar x ag x ar y. Yn unol â'r bwriad, mae'r llyfr yn canolbwyntio ar y defnydd o ddulliau ystadegol niferus yn hytrach na thrafod yr egwyddorion mathemategol. Teimlaf. fodd bynnag, bod y defnydd eang o fformiwlau mathemategol yn y crynodeb o'r gwahanol brofion yn ddianghenraid mewn llyfr o'r fath ac yn debyg o ddigaloni'r sawl nad yw'n fathemategydd. R. W. Brice