Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ceir cyfleusterau ym mhob un o'r Ysgolion ac adrannau canlynol i wyddonwyr sy'n dymuno cael graddau MSc, MPhil neu PhD: Yr Athro J. B. Owen Amaethyddiaeth Dr Ll. G. Chambers Mathemateg Cemeg Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth Gwyddorau Biolegol Gwyddorau Eigion Gwyddorau Peirianneg Electronaidd Mathemateg Dr Deri Tomos Biocemeg Os hoffech fanylion pellach, ysgrifennwch aty Cofrestrydd Academaidd, Prifÿsgol Cymru BANGOR, Gwynedd LL57 2DG « 0248 351151 GOLAU GWYRDD 1 Ŕ COCH Wrth brynu gwin efallai bod Bordeaux coch yn ddewis callach na Chardonnay Byd Newydd. Fis Gorffennaf diwethaf atgyfodwyd y ddadl gyffrous ynglŷn â gallu alcohol i leihau'r perygl o afiechyd y galon. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddi astudiaeth a wnaed yn Seland Newydd oedd yn awgrymu bod afiechyd y galon yn llai cyffredin o 40% mewn pobl a gymerai alcohol. Bellach mae gwyddonwyr o'r Unol Daleithiau yn honni eu bod wedi darganfod cyfansoddyn mewn gwin coch sydd â'r gallu i leihau lefelau y colesterol yn y gwaed. Yn ôl adroddiad yn y New York Times mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Cornell wedi neilltuo cemegyn naturiol a elwir yn reservatrol. Cynhyrchir hwn gan nifer o blanhigion er mwyn osgoi afiechydon ffwngi. Cred ymchwilwyr yn Japan fod y pla laddwr naturiol hwn yn cael ei ddefnyddio mewn dyddiau a fu gan feddygon gwerin y wlad i buro'r gwaed. Profwyd ei allu i leihau dyddodion braster yn yr afu. Mae reservatrol yn bresennol yng nghroen y grawnwin a'r rheswm pam fod gwin coch yn well na gwin gwyn yw oherwydd na ddefnyddir croen y ffrwyth i wneud gwin gwyn. Ymysg y deg ar hugain o wahanol winoedd a brofwyd gan Brifysgol Cornell, y Bordeaux sy'n cynnwys y lefelau uchaf o reservatrol. Ond pa mor effeithiol bynnag yw reservatrol wrth leihau lefelau'r colesterol yn y gwaed nid yw mor effeithiol â diet sy'n isel mewn braster. Er mai yn Ffrainc y gwelir y lefelau isaf o afiechydon y galon yno hefyd y gwelir yr achosion mwyaf o sirosis yr afu!