Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddim bron o'u cymharu â phoblogaeth China, yw'r ysbryd ymosodol i ddenu pobl dalentog a thechnoleg newydd i'r wlad. Clywais am y 'rhyfel' sydd wedi datblygu ar draws y wlad; y 'rhyfel' am dalentau. O benrhyn Shandong yn y dwyrain i'r rhanbarth hunan-lywodraethol yn y gorllewin, Xinjiang, mae canolfannau menter yn cael eu sefydlu. I gynnal y rhain mae 'rhyfel' i ddenu technolegwyr, gan gynnig iddynt arian, tai a cheir. Yn wir, mae marchnad mewn talent: Canolfan Gyfnewidfa Dalent Beijing. Cyhoeddodd Is-Lywodraethwr Talaith Shan- dong, Song Fatang, mewn araith yn Neuadd Fawr y Bobl, y byddai unrhyw un a allai gynhyrchu elw o 10 miliwn yuan ($US 1.8 miliwn), yn cael cartref pedair ystafell, car Audi gwerth 25,000 yuan a chomisiwn ariannol sylweddol. Aeth yr ysbryd newydd fel tân gwyllt drwy'r boblogaeth. Yn lle surni a difaterwch yn y gwestai Chineaidd, cefais gwrteisi a brwdfrydedd. Mae'r gweithwyr bellach yn rhannu yn ffyniant y gwesty. Perchnogion y miloedd o dai bwyta ar ochrau strydoedd Beijing sydd bellach yn elwa o'r busnes. Mae eu hagwedd felly yn dipyn mwy croesawus. Mae China hefyd yn prysur allforio ei chyn- nyrch. Tra oeddwn yno, allforiwyd 800 o fysiau i Pacistan gwerth$US 22 miliwn, ac arwyddwyd cytundeb i adeiladu pwerdy niwclear 300 mega- watt i Iran. Mae Cyfnewidfa Stoc brysur iawn yn Shanghai a 700 o geir tacsi wedi'u mewnforio yno i gludo'r gwyr busnes llewyrchus ^di amgylch. Erbyn mis Awst 1992 roedd 547 c ^n trau newydd yn ninas Jiangsu drwy fuddsoa tiad tramor. Mae'r cynllun 5 mlynedd yn galw m i Gwmni Rwber a Theiar Shanghai gynhyrcru 6 miliwn o barau o deiars y flwyddyn o fewn pum mlynedd. Mae cwmnïau sydd yn awr yn rhan o gyfundrefn y wladwriaeth, y naill ar ôl y llall. yn cael eu trosglwyddo i'r farchnad annibynnol Rhyddid, elw a menter unigol yw'r gri i'w chlywed ym mhobman. Gallai un gredu mai Margaret Thatcher sydd wrth y llyw yno. Mae'r ysbryd egnïol hefyd wedi cydio yn y prifysgolion. Cafodd wyth prifysgol y cyf- rifoldeb o ddatblygu dinas yr un. Shenyang, y bedwaredd ddinas yn China yw cyfrifoldeb Prifysgol Normal Beijing, a thra yno arwyddais gytundeb i Ganolfan Menter a Busnes Clwyd, NEWTECH, gynorthwyo yn y gwaith. Enillwyd cytundeb cyffelyb fís ynghynt i ddatblygu Parc Gwyddonol yn Shanghai tra oedd y Dr John Allen, Prifweithredwr NEWTECH, yno. Cyfnewidfa Dalent yn Beijing a Chyfnewidfa Ddiweithdra ym Mhrydain. Mae'r gyffelybiaeth yn un glir a digalon. Gwastraffu talent ym Mhrydain a'i gofleidio yn Ne-Ddwyrain Asia. Cau cwmnïau yma, a'u codi yno. Fe allwn yn awr ddysgu oddi wrth y gwledydd y buom yn eu dilorni cyhyd. Glyn O. Phillips