Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dysgu Gwyddoniaeth a Mathemateg trwy'r Gymraeg IOLO WYN WILLIAMS a PRYS MORGAN JONES Traddodiad Seisnig sydd i addysg uwchradd yng Nghymru, ac yng nghof llawer ohonom ni chlywid y Gymraeg ond mewn gwersi Cymraeg ac addysg grefyddol, ond yn yr ugain mlynedd diwethaf newid- iwyd y ddelwedd yn llwyr. Bellach y mae yng Nghymru 19 o ysgolion uwchradd Cymraeg penod- edig lle mae'r Gymraeg yn iaith gweinyddu a chyfathrebu a dysgu ar draws y cwricwlwm, 25 0 ysgolion eraill sy'n cyfrif fel ysgolion Cymraeg dan Ddeddf Addysg 1988 oherwydd y dysgir yno fwy na hanner y pynciau sylfaenol trwy gyfrwng y Gymraeg, a 13 o ysgolion lle dysgir rhai pynciau trwy'r Gym- raeg, cyfanswm o 57 allan o'r 232 o ysgolion uwchradd yng Nghymru. O'r 57 y mae 41 yn dysgu mathemateg i rai dosbarthiadau trwy'r Gymraeg a 37 yn dysgu gwyddoniaeth. (Ystadegau Addysg yng Nghymru 1989/90, Y Swyddfa Gymreig.) Llun 2 Gwaith prosiect. Llun 1 Gwers gwyddoniaeth.