Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

M istrolaeth Oed-Briodol (MOB) ar iaith yw'r hyn a d( sgwylir gan unigolyn yn ei famiaith fel sail dat- bi giad addysgiadol derbyniol (MOB1 +). Gí unigolyn ddatblygu MOB mewn ail iaith, hynny yv meistrolaeth gyffelyb i siaradwr mamiaith (MOB2+), or i fe all y feistrolaeth ar yr ail iaith fod yn wan, yn llai nÊ MOB (MOB2-). 0; na roddir sylw priodol i ddatblygiad yfamiaith fe all hitiau fod yn ddiffygiol (MOB1-). Lle bo'r ddwy iaith yn wan (MOB1- a MOB2-) ni cheir sail i ddatblygiad addysgiadol derbyniol, sefyllfa anfanteisiol i'r unigolyn. Ue bo un iaith yn wantan a'r llall yn dderbyniol (MOB1 + a MOB2-) neu (MOB1 a MOB2+) ceir sail ddatblygiad addysgiadol yn yr iaith gryfaf. Gelwir hyn yn ddwyieithrwydd anghytbwys, heb fanteision nacanfanteision addysgiadol. (Gallfod manteision ac anfanteision cymdeithasol.) Lie bo'r ddwy iaith wedi datblygu'n foddhaol (MOB1 + a MOB2+) gwelir manteision llawn dwyieithrwydd, tu hwnt i'r gallu i siarad dwy iaith. Gelwir hyn yn ddwyieithrwydd cytbwys. Ffigur 6 Damcaniaeth y trothwyon. COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE Un o Golegau Cyfansoddol Prifysgol Cymru Prìfathro: B. L. Clarkson, DSc, CEng, FRAeS, FSEE, FIOA Darperir y cyrsiau canlynol ar gyfer myfyrwyr gwyddoniaeth: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg. (b) Diplomâu'r Coleg mewn Bioleg Forol Gymhwysol, Ffiseg Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Gwyddor Rheolaeth, Peirianneg Gemegol, Tocsicoleg Geneteg, Geneteg a'i Defnyddioldeb, Peirianneg Fecanyddol. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth yn cynnwys Athroniaeth, Biocemeg, Bioleg yr Amgylchedd, Bioleg Forol, Botaneg, Cemeg, Cyfrifianneg, Daearyddiaeth, Economeg, Ffiseg, Geneteg, Gwyddoniaeth Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Mathemateg, Mathemateg Bur, Mathemateg Gyfrifiadurol, Mathemateg Gymhwysol, Microbioleg, Palaeontoleg, Seicoleg, Swoleg. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Beirianneg yn cynnwys Astudiaethau Busnes Ewropeaidd, Electroneg gyda Chyfrifianneg, Gwyddor Rheolaeth, Gwyddor Rheolaeth Americanaidd, Mathemateg Beirianegol gyda Chyfrifianneg, Peirianneg Deunyddiau, Peirianneg Drydanol a Thrydan, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Fiocemegol, Peirianneg Gemegol, Peirianneg Sifil, Astudiaethau Busnes, Ymchwil Gweithredol, Gwyddor Rheolaeth Ewropeaidd. M ae'n bosibl bellach astudio iaith fodern gyda nifer o'r pynciau gradd uchod, e.e. Mathemateg gyda Iaith Modern. Am fwy o fanylion cysyllter â'r Cofrestrydd. C air Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Cedwir dau lawr yn Neuadd Sibly fyfyrwyr Cymraeg e hiaith a dysgwyr. C allir cael prospectws a manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd, Coleg Prifysgol Abertawe, Pare Singleton, I oertawe SA2 8PP. Ffôn: (0792) 205678. nod o ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn cyfartaledd o 2:1 neu 1:2. Un o wendidau addysg Gymraeg neu addysg ddwyieithog yng Nghymru ydyw prinder ymchwil. Mae'n hawdd deall hynny gan fod yr adnoddau a'r ymroddiad i gyd yn mynd i ddatblygu deunyddiau ar gyfer yr holl anghenion newydd. Ni wyddom fawr ddim am effeithiau newid cyfrwng, nac am fanteision neu anfanteision gweithio gyda deunyddiau mewn dwy iaith ochr yn ochr. A ydyw'r cysyniadau gwydd- onol yn gwreiddio'n ddyfnach oherwydd iddynt gael eu trafod mewn un iaith yn hytrach na'r llall, neu yn wir mewn dwy iaith? Ni wyddom fawr ychwaith am yrfaoedd y disgyblion hynny a gafodd eu haddysg wyddonol trwy'r Gymraeg, er bod digon o dyst- iolaeth nad ydyw addysg Gymraeg yn cyfyngu dis- gyblion i addysg uwch yng Nghymru. Y mae digon o waith i'w wneud eto, ond nid oes unrhyw amheuaeth nad ydyw dysgu gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg wedi ennill ei blwyf yn ysgolion Cymru.