Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffigur 2 Lleoliad y gorsafoedd recordio (A) a phrif ffawtiau Pen Llyn a'r cyffiniau (yn seiliedig ar T. Turbitt, et. al., (1985)). felly, i'r symudiad ddigwydd ar hyd toriad arall nad oes argoel ohono ar wyneb y tir.10 Er i'r uned seismolegol yng Nghaeredin ddatgan ei bod hi'n annhebygol i ddigwyddiad seismolegol cyn gryfed â daeargryn Llyn daro gwledydd Prydain mwy nag unwaith bob can mlynedd, yn Ebrill 1990 siglwyd canolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru gan ddaeargryn Bishop's Castle (5. 1MLI). Serch hynny, maintioli daeargrynfeydd 1984 a 1990 oedd yn anar- ferol ac nid y dirgryniadau eu hunain. Ym 1915 rhes- trodd Charles Davison 357 o ddaeargrynfeydd a gawsai eu cofnodi rhwng 1889 a 1 9 1 4.12 Erbyn hedd- iw, mae'r cyfarpar recordio yn llawer iawn mwy soff- istigedig a dibynadwy, ac yn ystod y deng mlynedd rhwng 1967 a 1978 cofnodwyd 1,066 o ddaeargryn- feydd gan Arolwg Daearegol Prydain: bron naw bob mis ar gyfartaledd, a'r mwyafrif o ddigon yn yr Alban. Gan ddiystyru daeargryn Llyn, rhestrir yng nghatalog 1982-4, 357 o ddirgryniadau, cyfartaledd o oddeutu deg bob mis.14 Ym 1986, cyhoeddodd yr Arolwg Daearegol, am y tro cyntaf, gatalog o ddaeargrynfeydd Cymru a'r gororau, ac er y cyfyngir y rhestr i'r dirgryniadau hynny yn mesur 3.5MLI neu fwy (afraid dweud mai amcangyfrifon yw'r ffigurau am y cyfnod cynnar), ceir manylion am 70 o ddaeargrynfeydd rhwng 1727 a 1984, 15 ohonyn nhw yn mesur dros 4.5ML1.15 Heblaw'r digwyddiad ym 1984 a daeargryn Bishop's Castle (1990), daeargrynfeydd Penfro (1892-3),16 Caernarfon (1903)17 ac Abertawe (1906) yw'r dirgryniadau pwysicaf o ddigon yn hanes seismolegol Cymru. Effeithiwyd ar ardal eang iawn gan y ddwy ddaeargryn a ergydiodd Benfro yn Awst 1892 a Thachwedd 1893. Roedd daeargryn Caernarfon, a achoswyd, o bosib, gan symudiad ar hyd ffawt Aber- Dfe, yn llai nerthol. Ond y rymusaf oedd daeargryn Abe<tawe a achosodd ddifrod sylweddol i eiddo nid yn nnig yn y dref ei hunan ond hefyd yn Llanelli, Cas ^ll-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr. Suc bynnag, mae'n rhaid gochel rhag gorbwysleisio dosi trthiad 'trefol' daeargrynfeydd Cymru. Gan mai yny ardaloedd trefol, gan mwyaf, y cofnodid nid yn uni £ igil-effeithiau dirgryniadau ond hefyd brofiadau tyst n, tueddai gohebwyr a golygyddion papurau new dd a daearegwyr, fel ei gilydd, i leoli canolbwynt Ffigur 3 Daeargrynfeydd > 4.0 MLI, 1700-1900, a phrif ffawtiau Cymru (yn seiliedig ar N. Woodcock, (1991). Ffigur 4 Ymlediad llawr Cefnfor Iwerydd. pob daeargryn yn dwt o dan brif drefi'r wlad! Er gwaetha'r ansicrwydd ynglyn ag union leoliad canol- bwyntiau daeargrynfeydd y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf y gan- rif bresennol, y mae'n amlwg bod y rhan helaethaf o orllewin a chanolbarth Cymru yn seismolegol dawel a bod y mwyafrif o ddigon yn cael eu cofnodi yn yr ardaloedd hynny o boptu Basn Cymru, rhanbarth a nodweddid gan ymsuddiant a gwaddodiad cyflym yn ystod y cyfnod Palaeosoig cynnar (Ffigur 3). P'un ai a oes unrhyw wir arwyddocâd i'r patrwm daearyddol hwn sy'n fater arall: wedi'r cyfan, gwyddys i sicrwydd na ellir priodoli daeargryn Uyn i symudiad ar hyd unrhyw un o ffawtiau Cylchfa Ffawtio'r Fenai sy'n diffinio ffin ogledd-orllewinol y basn (Ffigur 3).20 Er na wyddom ar hyn o bryd pa ffactor neu ffac- torau sy'n rheoli lleoliad daeargrynfeydd Cymru, gwyddys fod cramen gwledydd Prydain ac Ewrop hithau yn cael ei haraf gywasgu gan rymoedd y credir eu bod yn gysylltiedig ag ymlediad llawr y cefnfor o boptu Cefnen Canol Iwerydd a ddynoda'r ffin rhwng Plât America a Phlât Ewrasia (Ffigur 4).21 Yn ôl pob tebyg, y diriant hwn sy'n peri i greigiau Cymru hollti ar hyd hen ffawtlinau, creithiau hen ddaeargrynfeydd a achoswyd gan wrthdrawiadau platiau tectoneg y cyfnod Ordofigaidd a Silwraidd.