Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cemeg ac Ecoleg Môr- arolwg newydd Gan ei fod yn gorchuddio 71 y cant o arwynebedd y blaned ac yn disgyn i ddyfnder o dros 11,000 metr, mae'r môr yn gartref i un o systemau ecolegol mwyaf eang a chymhleth y byd-un sy'n cynnwys miloedd, os nad miliynau, o fân-systemau. Mae nifer fawr o ddylanwadau naturiol pwysig iawn yn cydweithredu i greu ac i gynnal y systemau hynny, megis natur y graig, neu'r tywod, neu'r mwd ar lan môr; presen- oldeb dwr yr afon mewn moryd ac aber; tymheredd cyson i sicrhau ffyniant cwrel a mangrôf; a digonedd o ffosfforws a nitrad i wrteithio planhigion mic- rosgopig y plancton. Er mor bwysig ac amrywiol y dylanwadau hyn, mae tri pheth sy'n effeithio arnynt i gyd, sef: i) symudiad dwr y môr-y mae'n hollol ddeinamig drwyddo o'i waelod dyfnaf hyd ei lannau; ii) y gwasgedd a gynhyrchir gan ddyfnder y dwr- gwasgedd sy'n newid o'r nesaf peth i ddim (yn hytrach na gwasgedd yr atmosffêr) i ryw 50,OOOPa yn ystod un gylchred o lanw a thrai ar lan y môr ac sy'n cyrraedd dros 98,OOO,OOOPa yn y dyfnderoedd eithaf; a iii) y cymysgedd cemegol a geir yn y dwr- cymysgedd sy'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd planhigion ac anifeiliaid y môr. Dylanwadau ecolegol y cymysgedd hwnnw, a phwysigrwydd rhai o'r darganfyddiadau mwyaf diweddar amdano, yw maes trafod yr erthygl hon. F wyr pawb fod dwr y môr yn hallt. Wedi'r cyfan, oiüg y bardd o Gymro a ganodd 'Tra bo dwr y môr yn halj r, ac yn y blaen i brofi hir-barhâd ei gariad? Fe wyr pawb, hefyd, mai halen cyffredin, — sodiwm cloi d-sy'n gyfrifol am ran helaeth, tua 3.5g 1", o'r hali -wydd hwnnw. Ond dim ond un o blith nifer o gyfc nsoddion toddedig yw'r sodiwm clorid gan fod haly ynau'n cynnwys magnesiwm, calsiwm, potas- iwn sylffad, carbonad a nitrad hefyd yn amlwg yn y cyn ysgedd. Fe'u dangosir yn Ffigur 1. TEGWYN HARRIS Brodor o Benyrheolgerrig ger Merthyr Tudful yw Tegwyn Harris. Aeth o Ysgoly Sir, Merthyr Tudful i Goleg y Brifysgol Abertawe ac yna i Brifysgol Caer- wysg. Mae bellachyn ddarlithyddyn Adran Fywydeg, Prifysgol Caer-wysg lle mae'n arbenigo ym mywydeg y môr. Mae'n eisteddfodwr pybyr ac yn aelod o Orsedd y Beirdd. Ef yw ysgrifennydd cymdeithasau Cymraeg Lloegr, Iwerddon a'r Alban y mudiad 'Cymru a'r Byd'. Ffigur 1 Prif gyfansoddion dwr y mõr (addaswyd o Har- vey, 1945). Ffigur 2 Rhai o fân gyfansoddion dŵr y mõr (addaswyd o Harvey, 1945).