Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffigur 5 Cynnwys yr asidau amino (n mol) mewn un kilogram o dywod glan môr. Er bod y DOT sy'n 'rhydd' yn nwr y môr yn bwysig dros ben, fe ddangosodd Stewart, (1978), mai yn y dwr sy'n tueddu i aros rhwng y gronynnau o dywod ac o'u hamgylch y ceir y crynodiad mwyaf ohono. Yna, dangosodd Jørgensen a'i gyd-weithwyr (1980), bod y DOT yn crynhoi mewn tywod a mwd. Gan fod nifer enfawr o greaduriaid di-asgwrn-cefn y môr yn byw yn y cynefinoedd ecolegol hyn, mae'r crynodiad- au biocemegol yn arswydus o bwysig ac wedi dylan- wadu'n fwy na dim arall ar y ffordd y dadansoddir y cynefinoedd hynny ar hyn o bryd. Y mae'n bur debyg fod Ophelia bicornis yn enghraifft dda o anifail sydd yn byw mewn tywod ac yn dibynnu ar y DOT (Ffigur 4). Mae Ophelia bicor- nis yn fwydyn sydd i'w gael yn nhywod moryd yr Afon Exe yn Nyfnaint ac, hyd y gwyddom, ddim yn unman arall ym Mhrydain Fawr. Hyd yn oed ym moryd yr Exe, nis ceir ym mhobman. Fel y dangos- wyd gan Harris (1991a, b), anifail bach trafferthus iawn yw Ophelia ynglyn â'i gynefin mewn materion fel perthynas y llanw a thrai â'i sefyllfa; ffurf y traeth a natur y tywod; symudiadau'r dwr yn erbyn y tywod; yn wir, y pethau ecolegol a gyfrifir yn hollbwysig i greaduriaid tywod glan-môr. Fodd bynnag, wrth ddadansoddi'r sefyllfa'n fanylach fe ddaeth yn amlwg nad oedd digon o ddeunydd organig pydredig nac o organebau microsgopig ymhlith tywod yr Ophelia i gynnal yr anifail. Ar yr un pryd, mesurwyd lefel uchel o asidau amino yn y tywod, fel a welir yn Ffigur 5. Fe soniwyd mai 'cawl tenau' yw DOT y môr ac, oherwydd hynny, rhaid i greadur sy'n dibynnu arno'n hollol neu'n rhannol brosesu cyflenwad helaeth o ddwr er mwyn cael digon ohono o DOT. (Gwneir hyn gan greaduriaid fel y Pogonophora trwy dynnu llif cyscn o ddwr heibio i'r piniwli.) Y mae'n amlwg, felly, ei bc d yn bwysig i Ophelia brosesu cyflenwad digonol o d wod i'r un perwyl. Ar yr un pryd, rhaid iddo dref m i'r haenen o ddwr sy'n gorchuddio gronyn- nau tywod ddod i gysylltiad agos iawn â'i waed­-a hyn. -ìy am ddigon o amser i drosglwyddo'r DOT Jjewn ffordd sydd mor gyflawn ag sy'n bosibl. Gw eir hyn drwy rwymo pletiadau'r cylla yn glòs ac yn yrnhleth am y gronynnau-ond mae hynny'n Ffigur 6 Canlyniad arbrawf i fesur gallu Ophelia bicornis i amsugno gleisin ymbelydrol yn syth o'i amgylchedd. (MMM = Maluriadau y funud mewn cyfrifydd fflach- ennau.) achosi problem arall, sef rhwymedd yn y cylla am fod y tywod wedi'i bacio mor dynn! Yn ffodus mae strwythur arbennig y tu mewn i ben-ôl y mwydyn (Harris, 1991c), sydd yn taflu'r gronynnau allan yn effeithiol iawn a thrwy hynny'n sicrhau bod digonedd o dywod yn symud yn esmwyth drwy'r perfedd. O ganlyniad i hyn, fel y'i gwelir yn Ffigur 6, sy'n adrodd canlyniad arbrawf yn defnyddio gleisin ymbelydrol, mae Ophelia yn medru cymryd dogn helaeth iawn o asidau amino o'i amgylchedd. Gwelir tystiolaeth yn yr histogramau fod Ophelia yn medru crynhoi a chadw yr asid amino yn rhan flaen ac yn rhan ôl ei gorff — efallai mewn celloedd arbennig yn hylif y coelom. Y mae astudiaethau awtoradiograffig ar Ophelia a fu'n 'bwyta' gleisin ymbelydrol, fel y'i gwelir yn Ffigur 7, yn dangos presenoldeb yr ymbelydredd yn y croen, y perfedd, y gwythiennau a'r gwaed ymhen ychydig iawn o amser. Ffigur 7 Awtoradiograff o doriant tenau drwy gorff Ophelia bicornis a fu mewn amgylchedd o dywod ffug (mân-bölenni gwydr) a [U-14CJ gleisin am ugain munud. Dynoda'r llinellau du a'r llinellau llwyd bresenoldeb ymbelydredd. (c = croen a chyhyrau; p = perfedd; g = gwythïen; ga = y galon.)