Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Portreadau o Wyddonwyro Gymru Yn ddieithriad, rhoddwyd croeso brwdfrydig a chynnes i benodiad Yr Athro John Owen Williams i swydd prifathro gweithredol Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru. Y farn gyffredinol yw i un o wyddonwyr disgleiriaf Cymru gael ei gydnabod o'r diwedd yn ei wlad ei hun. O ganlyniad, digwyddodd peth anarferol iawn: cafodd Cymro Cymraeg sy'n caru buddiannau Cymru'n angerddol gyfle i arwain un o golegau addysg uwch ein gwlad. O'r 14 coleg addysg uwch a fu, neu sydd ar hyn 0 bryd yng Nghymru, dim ond pedwar o'r prifathrawon sy'n medru'r Gymraeg. Mae ychwanegu'r Athro J. O. Williams, felly, yn gynnydd sylweddol a phwysig. Cynnyrch llwyr system addysg Cymru yw'r Athro John O. Williams. Fe'i haddysgwyd yn ysgolion elfennol ac uwchradd Porthmadog. Graddiodd gydag anrhydedd a chlod mawr mewn cemeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, cyn ennill gradd doethur am ei ymchwil ar nod- weddion trydanol solidau organig, a hynny dan gyfarwyddyd Dr (yn awr Syr) John Meurig Thomas, FRS. Yna, ym 1977, dyfarnwyd iddo radd doethur mewn gwyddoniaeth (DSc) am ei gyfraniadau i gemeg y cyflwr solet. Gyda phenodi Dr John M. Thomas i gadair cemeg yn Aberystwyth ym 1969, ymestynnwyd y bartneriaeth gynhyrchiol rhyngddo a Dr J. O. Williams. Symudodd y ddau o Fangor i Aberystwyth a threuliodd Dr Williams 14 blynedd egnïol yno, yn gyntaf yn gymrawd ymchwil ac wedyn ym 1978 yn ddarllenydd y Brifysgol mewn cemeg. Nid yw'n ormodol dweud bod y bartneriaeth yma wedi atgyfodi astudiaeth y cyflwr solet mewn cemeg. Yn fy nyddiau colegol i, yr adran yma oedd y sinderela a'r mwyaf anniddorol o'r adrannau: cemeg organig, ffisegol ac anorganig (sef y cyflwr solet bryd hynny). Drwy waith John Thomas a John Williams daethpwyd â'r maes anffasiynol yma i'r blaen unwaith eto, gan bon- tio'r cyflwr solet mewn ffurfiau organig, an- organig a chyfuniad o'r ddau. Gwelwyd bod modd rheoli adweithiau cemegol gan ffurf a gradd o berffeithrwydd y crisial solet. O'r YR ATHRO J. O. WILLIAMS astudiaethau hyn hefyd tyfodd y catalyddion newydd sydd bellach yn rheoli gwneuthuriad y polymerau newydd. Trodd eu golygon wedyn at y dargludyddion solet sydd â gwerth trydanol iddynt, ac sydd yn cynnig y posibilrwydd 0 ddat- blygu'r arch-ddargludwyr arfaethedig. Dyma'r groesffordd lle mae'r cemegydd a'r ffisegydd yn cyfarfod. O ganlyniad mae'r Athro Williams yn gymrodor y Sefydliad Brenhinol Cemegol a chorff cyfatebol y ffisegwyr. Ar ôl gyrfa ddisglair mewn ymchwil yn Aberystwyth fe'i penodwyd yn Athro cemeg yn Athrofa Addysg a Thechnoleg Prifysgol Man- ceinion, adran â thraddodiad cemeg anrhydedd- us iddi. Unwaith eto, Cymro wedi gorfod gactad Cymru i gael swydd haeddiannol. BlodeuocM ei waith ymchwil ym Manceinion a denodd filiy"iau o bunnoedd, yn llythrennol, i gynnal gwait yr adran. Cam naturiol felly oedd ei ethol yn tsn- naeth yr adran enwog yma. Er ei benodi i swydd yn Lloegr, nid oed V Athro J. O. Williams am gefnu ar Gymru chw ith. Roedd yn benderfynol bod ei blant, Fffc i a