Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gv ion, yn parhau â'u haddysg trwy gyfrwng y Gy nraeg. Llwyddodd i wneud hyn drwy ymgar- tre i yn Yr Wyddgrug gyda'r plant yn mynychu Ys ol Maes Garmon ac yntau yn teithio bob dyc'd i Fanceinion-tipyn o aberth fel y gwn o brc-iad! Elwodd holl sefydliadau Cymraeg Yr Wydd- grug ar bresenoldeb y teulu clòs yma. Mynychant Eglwys Bethesda yn gyson, ynghyd â'i holl gyfarfodydd: Lowri, gwraig hynaws John gyda'r Cwch Gwenyn, y plant yn rheolaidd yn yr Ysgol Sul a John ei hun yn canu tenor gyda chôr yr Eglwys. Cymdeithas Wil Bryan, Y Gymdeithas Gymraeg, Pwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn-ychydig o enghreifftiau o blith nifer helaeth o weithgareddau. Dylid nodi'n arbennig gyfraniad nodedig yr Athro J. O. Williams fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Maes Gar- mon, pan lwyddodd i ddiogelu'r ysgol rhag cynlluniau dinistriol yr awdurdod lleol ar gyfer y Gymraeg. Mae Lowri hithau wedi dysgu Cym- raeg yn y cylch ac wedi aros yn angor i'r teulu a'r cartref. Erbyn hyn, gobeithio ei fod yn amlwg nad gwyddonydd cul mo'r Athro J. O. Williams. Mae ganddo bersonoliaeth egníol a hawddgar, yn llawn brwdfrydedd ac ymroddiad ynglyn â phopeth y mae'n gafael ynddo. Chwaraeodd bêl- droed i Gymru, yn y tîm ieuenctid a'r tîm amatur cenedlaethol. Mae'n mynydda, golffio, hwylio a loncian yn rheolaidd o hyd, ac amhosibl yw can- fod o ble mae'n cael ei ynni. Yn awr, mae'n arwain yr Athrofa mewn cyf- nod newydd pwysig a chyffrous. Ei ddymuniad yw gosod yr Athrofa o fewn fframwaith Prifysgol Cymru, sydd yn naturiol, wrth gwrs, i un sydd wedi'i fagu yn y Brifysgol ac wedi'i gwasanaethu cyhyd. Heb unrhyw amheuaeth, o fewn y deng mlynedd nesaf, cawn weld coron ar ei yrfa academaidd. Dyma Gymro ymroddedig sydd â'i olygon ar greu sefydliad technolegol addysg uwch gyda'r gorau, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y byd. Mae llawer o'r estroniaid sydd yn arwain rhai o golegau Prifysgol Cymru yn datgan yn rheolaidd mai plwyfol yw canolbwyntio ar anghenion a phroblemau Cymru. Edrych allan ar y byd mawr yw eu swyddogaeth nhw! Mae'r Athro J. O. Williams yn dangos iddynt pa mor gamarweiniol yw'r agwedd gul yma. Gwasan- aethu Cymru sydd gyntaf, ac yna agor holl ffenestri'r byd-dyna reddf John Owen Williams. Trueni na fyddai pedwar ar ddeg o'r un brid yn arwain ein colegau addysg uwch yn ystod y cyf- nod tyngedfennol nesaf. GOP