Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lleolir Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ar ben y bryn uwchben dinas gadeiriol Bangor yn un o ardaloedd harddaf Gwledydd Prydain, ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri ac yn edrych dros Afon Menai ac Ynys Môn. Mae yn yr ardal gyfoeth o adnoddau naturiol sy'n hwyluso astudio amaethyddiaeth, bywydeg ac eigioneg, heb sôn am lefydd sydd o ddiddordeb hanesyddol ac archaeolegol. I'r rhai sy'n ymddiddori mewn chwaraeon a gweithgareddau awyr agored, mae digonedd o gyfleoedd. Cynigir cyrsiau gradd i ISRADDEDIGION sy'n arwain at BA, BSc, BEng a BD. CYRSIAU ANRHYDEDD SENGL NEWYDD BA Hanes ac astudiaethau'r môr BSc Cemeg gyda blwyddyn mewn diwydiant BA Cymraeg a cherddoriaeth (4 blynedd) BA Cymraeg a llên y cyfryngau a cherddoriaeth BSc Cemeg gyda blwyddyn yn Ewrop (4 BEng Peirianneg electronig (2+2) blynedd) BEng Peirianneg drydanol (2+2) BSc Systemau cyfrifiadurol ac astudiaethau BEng Peirianneg systemau cyfrifiadurol (2+2) busnes BA Hanes Cymru ac archaeoleg BSc Gwyddoniaeth wybyddol Ceir hefyd gyrsiau'n sy'n arwain at Ddiplomâu mewn nyrsio a bydwreigiaeth. Os byddwch am wybod mwy am y cyrsiau hyn, gofynner am Brospectws (ar gael yn Gymraeg) gan: Y Cofrestrydd Academaidd, Prifysgol Cymru, Bangor, Gwynedd LL57 2DG: Tel: (0248) 351151 Ymhob pwnc, mae cyrsiau blwyddyn ar gyfer OLRADDEDIGION sy'n arwain at raddau MA, MEd, MMus, MSc a MTh, a graddau ymchwil yn arwain at MPhil (dwy flynedd) a PhD (tair blynedd). Cynigir hefyd MBA trwy ddysgu o bell. Mae Prospectws Olraddedigion ar gael o'r cyfeiriad uchod.