Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Syr Humphry Davy Ganed Humphry Davy ar 17 Rhagfyr 1778 yn Pen- zance, y cyntaf o bump o blant i un o hen deuluoedd Cernyw. Dysgodd Ladin a Groeg yn yr ysgol a threuliodd lawer o'i arddegau'n crwydro'r wlad a garai, yn saethu ac yn pysgota-gweithgareddau a garai'n angerddol ar hyd ei oes. Ym 1795 aeth yn brentis i lawfeddyg-gyffuriwr o'r enw John Bingham Borlase. Treuliodd amser yn crwydro a myfyrio gan ymhyf- rydu yn harddwch y wlad, ond ar yr un pryd, sylwodd ar bopeth a ddigwyddai o'i amgylch ac ymddiddorai yng ngweithgareddau'r bobl; y ffermwyr, y pysgot- wyr a'r mwynwyr tun. Roedd yn gyflym i sylweddoli gwerth dyfeisgarwch peirianwyr Cernyw drwy ddat- blygu peiriannau i leddfu baich eu llafur. Daeth un o'i rinweddau mwyaf nodedig i'r amlwg yn gynnar iawn yn ei yrfa, sef ei allu i ddal sylw cynulleidfa. Ymgasglodd ei ffrindiau y tu allan i'w dy i wrando ar ei chwedlau. I gychwyn, adroddai hanes- ion a glywsai gan ei fodrybedd ynghyd â storïau ysbryd, a oedd mor hoff gan ei fam-gu, ond wedyn, fel y dywedodd ei hun, dechreuodd ei ddyfeisgarwch gymryd y blaen: Ar ôl darllen ychydig lyfrau, cydiodd yr awch ynof i'w traethu er mwyn bodloni nwydjy ngwrandawyr ifainc. Yn raddol dechreuais gyfansoddi ajjurjìo storiaujy hun. Efallai mai hyn a gynhyrchodd fy ngwreiddioldeb. Ni fu gennyf gof da erioed. Ni cherais ddynwared ond cerais ddyfeisio. Bu hynyn wir am yr holl wyddorau a astudiais ac oblegid hynny gwneuthum nifer o gamgymeriadau. Ni ddechreuodd Davy astudio cemeg o ddifri tan 1797. Darllenodd Traite Elementaire de Chimie chwyldroadol Lavoisier a geiriadur cemeg Nicholson ac, wedi'i danio â brwdfrydedd, cynhaliodd nifer o arbrofion, rhai ohonynt er mwyn gwrthbrofi dam- caniaethau'r Lavoisier Fawr ynglyn ag ymlosgiad. Edrychodd hefyd ar gemeg anadlu mewn nifer o organebau byw; gwnaeth nifer o ddarganfyddiadau pwysig, ac ef oedd y cyntaf i sylwi bod gwaed gwythiennol yn cynnwys carbon deuocsid. Cyhoedd- wyd sylwadau Davy am yr arbrofion hyn gan Thomas Beddoes o Fryste ym 1799 o dan y teitl Traethawd ar Wres, Golau a Chyfuniad o Olau, sef papar o ryw ugain mil o eiriau. Er gwaetha'r camgymeriadau niferus a'r dyfalu anhygoel, y mae'r gwí ith yn gamp arwyddocaol iawn gan un mor ifanc a hí-b hyfforddiant gwyddonol. Ysywaeth, cafodd ei feir àadu'n llym ac edifarhaodd am iddo gyhoeddi'r can yniadau mor fuan. Gwelodd yn gyflym y cam- gyro eriadau yr arweiniodd ei frwdfrydedd atynt, ac y m& n sicr y daeth ei ofal enwog a'i ddiffyg ymddiried mev n dyfaliadau o'r siom a deimlai dros yr hyn y cyf iriodd atynt fe1 fy nyfaliadau cemegol mabol. SYR JOHN MEURIG THOMAS, FRS Daeth arbrofion Davy i sylw Dr Thomas Beddoes, cyn-ddarllenydd mewn cemeg yn Eglwys Crist, Rhydychen. Sefydlodd Beddoes glinig, yr Athrofa Niwmatig, er mwyn astudio rhinweddau iacháu nwyon newydd eu darganfod. Penododd Davy yn gynorthwyydd iddo, gan roi cyfle i Davy brofi ei fed- rusrwydd. Tra'n gweithio yn yr Athrofa ym Mryste daeth Davy yn gyfaill i'r beirdd Robert Southey a Samuel Taylor Coleridge a thrwyddynt, daeth i gysylltiad â William Wordsworth a Walter Scott. Roedd hi'n amlwg fod cylch beirdd Wordsworth yn rhyfeddu at ehangrwydd diddordebau a brwdfrydedd Davy. Galwodd Southey ef yn 'ddyn ifanc rhyfedd- ol y cemegydd ifanc, yr holl ifanc, y dyn lleiaf ei ymffrost ynglŷn â'i ddawn cynnar y gwn amdano'. Dangosodd Davy rai o'r cerddi a gyfansoddodd yn Penzance i Southey ac fe'u cyhoeddwyd ym Mlodeu- gerdd Flynyddol Southey, gan gynnwys 'Meibion Athrylith' a gyfansoddodd yn ddwy ar bymtheg oed. Cafodd gwaith Davy gryn sylw, ac yn gynnar ym 1801 ysgrifennodd at ei fam i ddweud bod yr Iarll Rumford wedi cynnig swydd iddo yn y Sefydliad Brenhinol. Davy a'r Sefydliad Brenhinol Ym 1799, er gwaethaf amgylchiadau proffesiynol cythryblus iawn, fe sefydlodd y gwyddonydd a'r gwleidydd Americanaidd, Sir Benjamin Thompsom (a adwaenid fel Iarll Rumford) Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr, gyda chymorth Llywydd y Gym- deithas Frenhinol, Sir Joseph Banks, er mwyn lledaenu a chynorthwyo cyflwyno cyffredinol dyfeis- iadau a gwelliannau peirianyddol defnyddiol ac er mwyn dysgu drwy gyrsiau o ddarlithiau athronyddol ac arbrofion, gymhwysiad gwyddoniaeth at ddiben- ion cyffredinol bywyd'. O'r cychwyn cyntaf yr oedd y Sefydliad yn llwydd- iant mawr a heidiodd torfeydd i'r darlithiau a'r arddangosfeydd. Ym 1801 penodwyd dau Sais eithriadol i'w rengoedd, Thomas Young (1773-1828), a gofiwn oherwydd y modwlws ystwythder sy'n dwyn ei enw, a Humphry Davy. Penodwyd y cyntaf yn Athro athroniaeth naturiol a'r olaf yn ddarlithydd cynorthwyol. Roedd gwaith gwyddonol Young yn anhygoel. Ym 1802 fe gynhaliodd ei arbrofion 'ar y cyrion' enwog gan atgyfodi'r ddamcaniaeth-dongolau. Cyfrannodd at ddamcaniaeth capilaredd ac arwynebedd yn ogystal â dyfeisio offer optegol hynod. Ysgrifennodd bapurau ar amryw bynciau meddygol a chynorthwyodd i ddadansoddi ysgrifen Eifftaidd. Fodd bynnag, nid oedd dawn darlithio Young gystal â'i allu fel gwyddonydd ac ieithydd; bu ei berfformiad o flaen cynulleidfaoedd yn fethiant siomedig.