Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pos if. O'r holl arbrofion a gynhaliodd i ddangos yr a(jví aith, efallai mai'r arbrawf orau oedd yr un lle mat n defnyddio tair desgl a gysylltwyd gan ffibrau Uaií Roedd dwr yn y ddesgl ganol, a thoddiant sod vvm sylffad yn y naill a bariwm nitrad yn y llall. pan gysylltwyd y derfynnell bositif yn y bariwm nit- rad â'r derfynnell negyddol yn y sodiwm sylffad, ffuniwyd gwaddod o fariwm sylffad yn y ddesgl ganol, gan ddangos symudiad y bariwm i un cyfeiriad a'r sylffad i gyfeiriad arall. Dadleuodd Davy fod grymoedd atynnol ac ym- wthiol (y platiau metelaidd) yn ddigon egnïol i ddis- trywio neu atal gweithrediad arferol yr ymlyniad cemegol a chasglodd fod ynni trydanol yn perthyn i'r ymlyniad cemegol ac felly y gellir mynegi graddau o ymlyniad cemegol yn ôl maint trydanol. Enillodd Davy fedal a gwobr y Sefydliad Ffrengig, a ddechreuwyd gan Napoleon, am yr arbrawf gorau'n ymdrin â hylif galfanaidd y flwyddyn honno, a hynny er gwaetha'r ffaith bod rhyfel rhwng y ddwy wlad. Roedd Davy'n amau cywirdeb damcaniaeth atomig Dalton ynglyn ag 'athrawiaeth cyfrannedd penodol' ond ar ôl iddo dderbyn a defnyddio'i hegwyddorion aeth yn ei flaen i wneud ei gyfraniad mwyaf i wydd- oniaeth gemegol, sef dymchwel cred sylfaenol Lavoisier ynglyn â chemeg. Honnodd Lavoisier fod pob asid yn cynnwys ocsigen a dangoswyd bod hyn yn wir ond am asid muriatig (asid hydrochlorig). Defnyddiodd Davy ei holl sgiliau i ddadelfennu'r asid a hefyd y nwy gwyrdd-asid ocsimuriatig-a gynhyrchwyd pan gafodd yr asid ei ocsideiddio. Yn y pen draw dangosodd fod yr asid ocsimuriatig yn elfen a alwodd yn clorîn, oherwydd ei liw, a bod asid muriatig yn gyfansoddyn o hydrogen a chlorîn yn unig. Ym mis Mawrth 1812, aeth prentis rhwymwr llyf- rau i un o ddarlithiau Davy lle gwnaeth nodyn o'r holl brif bwyntiau ac fe'u cyflwynodd i Davy ar ffurf llyfr. Yn fuan wedi hynny penododd Davy y prentis, Michael Faraday, yn gyntaf fel golchwr poteli ac yna feI cynorthwy-ydd cemegol. Ar 13 Hydref 1813 aeth Davy a Faraday ar daith o gwmpas Ewrop gan dreulio amser yn Ffrainc, yr Eidal, a'r Swistir yn cynnal arbrofion gwyddonol. Ym Mharis fe gynhaliwyd arbrofion â'r elfen newydd iodîn a roddodd Ampere iddynt. Cyfarfuont â Gay-Lussac, Arago, Humboldt a Cuvier yn ogystal â chiniawa gyda'r Iarll Rumford. Yn Genoa, cynhaliwyd astudiaeth ar ddadwefriadau trydanol pysgod torpedo ac yn Florence defnyddias- ant lens yr Accademia del Cimento i gynnal `arbrawf wiwr llosgi'r diemwnt' a phrofasant fod y diemwnt fel graffit yn garbon pur. (Syniad a wrthododd llawer gan gynnwys James Dewar, Cyfarwyddwr y Sefydliad Brenhinol, ganrif yn ddiweddarach.) Dychwelasant i Loegr ym 1815 ar ôl i Davy wneud astudiaeth o bapurfrwyn a phigmentau mewn safleoedd hynafol. Dyma un o'r enghreifftiau cynharaf o ddefnyddio êwycdoniaeth mewn archaeoleg. Lamp diogelwch y glowyr Y fuan ar ôl dychwelyd i Loegr, dechreuodd Davy ar y gwaith y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei 8ys} Itu ag ef. Cododd pryder mawr ymysg y cyhf ;dd ynglyn â'r nifer cynyddol o ffrwydradau meWì pyllau glo oherwydd nwy taniol. Yn dilyn ffrw drad mewn pwll glo ger Gateshead-on-Tyne, pan gafodd 92 eu lladd, ffurfiwyd cymdeithas er mwyn archwilio'r broblem. Penderfynwyd gofyn am gyngor Davy a phan ddychwelodd o'i deithiau cytunodd i'w chynorthwyo. Ysgrifennodd, 'Byddai'n rhoi pleser mawr i mi pe baijy ngwybodaeth gemegol yn medru cael ei defnyddio mewn ymholiad mor ddej- nyddiol i'r ddynoliaeth'. Aeth i Newcastle i weld union natur y broblem a chymerodd enghreifftiau o'r danchwa o sawl ffyn- honnell. Ar ôl dychwelyd i Lundain aeth ef a Faraday at y gwaith o archwilio'r danchwa. Wedi gweld nad oedd unrhyw ffynhonnell ffosffor-oleuedd yn cynhyr- chu golau digonol at ddibenion y glowyr, pennwyd natur gemegol y danchwa, sef hydrogen wedi ei gar- boreddu (methan). Yna archwiliodd briodweddau ffrwydrol y gymysgedd â gwahanol grynodiadau o aer. Darganfu fod y danchwa ar ei mwyaf ffrwydrol pan gafodd ei chymysgu â saith neu wyth gwaith mwy o aer ond ei fod yn dal yn ffrwydrol gydag ychwanegiad o un i bedwar-ar-ddeg. Darganfu fod angen tymheredd uwch arno i danio nag oedd ar gymysgedd hydrogen neu ethylîn. Yr arbrawf all- weddol wedyn oedd archwilio ehangiad y cymysgedd ar adeg ffrwydro a darganfod sut roedd y ffrwydrad yn teithio drwy dwll mewn un cynhwysydd i gyn- hwysydd arall a lanwyd â'r gymysgedd ffrwydrol. Gwelodd nad oedd y ffrwydrad yn mynd o un cynhwysydd i'r llall os oedd y tiwb cysylltiol rhwng y ddau gynhwysydd yn ddigon hir a chanddo ddiamedr digon bach. Casglodd mai effaith oeri'r tiwb cysylltiol oedd yn achosi hyn ac yr âi'r ffrwydrad yn rhwydd- ach drwy diwbiau gwydr na rhai metel. Yna archwiliodd effaith gormodedd o garbon deuocsid neu nitrogen yn y cymysgedd ffrwydrol, a gwelodd eu bod yn lleihau'r duedd i ffrwydro. Gyda hyn dyluniodd y lamp diogelwch cyntaf, sef llusern wedi'i gau a'r aer oedd yn mynd ato'n cael ei gyfyngu drwy diwbiau cul gyda simne wedi'i warchod yn yr un modd. Yma yr oedd yn manteisio ar effaith tampio'r carbon deuocsid a'r nitrogen. Trwy ei brofi â chymysgedd ffrwydrol, chwyddodd y fflam yn y lamp cyn diffodd. Roedd lamp o'r fath yn ddiogel a gallai ganfod presenoldeb tanchwa. Cyrhaeddodd y can- lyniad yma mewn pythefnos. Addasodd y dyluniad fel na fyddai'r fflam yn diffodd, ac yn wir, cam bach oedd cyn iddo ddangos na fyddai fflam wedi'i hamgylchynu â gwead o wifrennau'n cynnau cym- ysgedd ffrwydrol o'i hamgylch. Profwyd y ddau fath o lamp ym mhyllau mwyaf enbyd Newcastle a'u cael yn foddhaol. Cydnabu Davy fod chwa o wynt yn medru difetha'r lamp. Gallai'r fath chwa, yn teithio chwe neu saith troedfedd yr eiliad, chwythu'r fflam yn erbyn y gwead o wifrennau a'u twymo digon i achosi ffrwyd- rad mewn crynhoad o danchwa. Ychwanegwyd sgrinau gwarchod, ac er i Davy rybuddio defnyddwyr o'r perygl hwn, cafodd feirniadaeth anghyfiawn yn ddiweddarach pan ddigwyddodd damweiniau. Gwrth- ododd Davy osod trwydded ar ei ddarganfyddiad: 'Fy unig fwriad oedd i wasanaethu achos dyn,' meddai. Llywydd y Gymdeithas Frenhinol Ar ôl i Davy ddychwelyd o daith dramor, bu farw Syr Joseph Banks a fu'n llywydd y Gymdeithas Frenhinol am 42 o flynyddoedd ac, ar ôl ymgyrch a dderbyniodd gryn feirniadaeth, etholwyd Davy yn llywydd yn ei Ie. Gyda'r twf ym mhwysigrwydd