Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pehdriad a thermodynameg, nodir rhesymau thermo- dyn .megol am ddechrau bywyd. Un agwedd ddiddorol ar y ddamcaniaeth hon, sy'n bell iawn o gael ei phrofi, ac sydd iddo oblygiadau anthropig, yw bod organebau ar y dda-ar (gan gynnwys y gwyddonwyr sy'n astudio'r pro- sessu) yn bodloni gyda'r diben o gynyddu entropi (yr endid sy'n mesur anhrefn) yn effeithiol! Dangosir sut mae'r amhendantrwydd sydd ynghlwm wrth ddamcaniaethau cwantwm yn arwain at ddeddfau ffisegol clasurol sydd gyda chyfeiriad amser. Trafodir hefyd y 'tyllau duon', lle y gall mater ddiflannu i mewn iddynt ac eglurir paham nad yw ty11au gwynion' sy'n gollwng mater, yn medru bodoli, er bod hafaliadau cymharoldeb yn caniatáu eu bodolaeth. Mae'r awdur yn pwysleisio'r ffaith bod y cysyniad o entropi, sy'n sylfaenol wrth drafod cyfeiriad amser, yn dibynnu ar yr arsyllwyr, oherwydd sut y diffinnir ef, ac y gall saeth amser fod ynghlwm wrth strwythur y bydysawd. Nid yw ymresymiadau oddi wrth ffenomena, sydd yn ystadegol eu natur, yn ddigonol i ddeall anghymesuredd amser. Mae'r llyfr hwn braidd yn fathemategol, ond mae'n dangos cymhlethdod sylfaenol yr hyn a welir ar y wyneb fel symudiadau bysedd cloc. Oxford Illustrated Encyclopedia of Invention and Technol- ogy, golygwyd gan Syr Monty Finniston; Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1992; ISBN 0 19 869138 6. Pris: £ 25.00. Mae ein byd yn llawn o ddyfeisiadau. Un o'r pethau sy'n nodweddu'r hil ddynol yw ei dyfeisgarwch. Pan fo angen am rywbeth mae rhywun yn sicr o'i ddyfeisio. I lawer o bobl mae dyfais yn rhywbeth peirianyddol megis beic neu injan wnïo, ond rhaid cofio mai dyfais oedd darganfod sut i gynhyrchu gwin neu gwrw neu sut i goginio neu bwytho dillad. Gellir dadlau y bu dyfeisio'r olwyn yn un o gonglfeini ein gwareiddiad modern, gan iddi olygu datblygu dulliau trafnidiaeth a diwydiannol allweddol. Gellir olrhain rhai dyfeisiadau yn ôl o leiaf ddeng mil o flynyddoedd, ac mae'n sicr nad yno roedd cychwyn pethau. Defnyddiol iawn felly yw cael cyfrol fel hon sy'n crynhoi holl ddyfeisgarwch dynol rhwng dau glawr. Nid yn unig mae'r wybodaeth wedi ei osod yn drefnus ond ceir croes-gyfeiriad effeithiol dros ben ym mhob eitem bron, gan sicrhau fod pob agwedd ar ddyfais yn ddealladwy. Mae'r math hwn o lyfr yn hynod ddefnyddiol wrth geisio paratoi sgwrs, darlith neu draethawd. Mae gofyn y dyddiau hyn i blant a phobl ifanc ymchwilio i gefndir pynciau mewn astudiaethau crefft a dylunio er enghraifft. Mae ein cylchgronau a phapurau newydd yn llawn o gyfeiriadau at agweddau ar dechnoleg sy'n dylanwadu ar ein bywydau. Nid pawb sy'n gyfarwydd ag ystyr popeth o'r fath, a dyma'r fath o gyfrol fyddai'n hynod o ddefnyddiol i ddatrys y broblem. Mae'r testun yn llawn lluniau ac yn lliwgar yn ogystal. Ydych chi'n gwybod ystyr Flip-Fiop\ Jly-by-wire' neu 'magnetohydronamic generator' os nad ydych wel dyma'r gyfrol sydd ei hangen arnoch. Yr unig ofid sydd gen i yw mai nid yn y Gymraeg y cafodd ei chyhoeddi. Gwn fod ein cyfeillion yng Ngwlad y Basg ar fin cyhoeddi cyfrol debyg yn eu hiaith eu hunain, beth amdani gyhoeddwyr Cymru? ]k -^haping Life: Key Issues in Genetic Engineering, gan G- .<• V. Nossal ac R. L. Coppel; Gwasg Prifysgol Caer- grav nt, 1990; ISBN 0 521 38969 0. Pris: £ 8.95. Ail crgraffiad yw hwn o lyfr a gyhoeddwyd gyntaf ym W. Gan fod 'na ddatblygiadau helaeth ac arwyddocaol yr y naes hwn dros y cyfnod diweddaraf bu angen adolygu sYhLddol ar gyfer yr argraffiad hwn. Yn wir, mae angen Ll. G. C. I. ap G. darllen yn gyson i sicrhau clywed a deall am y datblygiadau diweddaraf. Ysgrifennwyd y llyfr hwn i egluro'r maes pwysig hwn i'r lleygwr deallus. Os oes angen eglurhad pellach arnoch mae atodiadau byr ar y diwedd yn rhoi gwybodaeth gefndirol ddefhyddiol, ond ni fydd angen y rhain ar y sawl sydd wedi astudio lefel A mewn bioleg. Does dim angen cefndir o wybodaeth wyddonol o gwbl i'w ddeall, ac mae rhywbeth ynddo i bawb-gan gynnwys biolegwyr. Fe drafodir agweddau moesol ar yr holl ddatblygiadau hefyd tuag at ddiwedd y llyfr. Mae'r ddwy bennod gyntaf yn egluro'n dwt bwysigrwydd y genynnau mewn celloedd organebau byw. Mae hyn wedyn yn gosod y llwyfan ar gyfer egluro ymhellach fecanwaith trosglwyddo genynnau o un organeb i'r llall fel dull o gynhyrchu proteinau defnydd- iol, unai ar gyfer diwydiant neu feddygaeth. Tipyn o gamp yw cynnwys y cyfan, o'r eglurebau sylfaenol drwy'r peirianwaith i'r manteision, anawsterau a'r agweddau moesol fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol agos mewn llai na 180 o dudalennau llyfr clawr meddal. Mae angen ysgrifennu gofalus, heb amlhau geiriau'n ddi-angen i lwyddo yn y fath dasg, ac mae'r awduron wedi llwyddo i gyflawni'r gamp. Defnyddir rhai darluniau a diagramau ble mae angen, ac mae'n sicr y byddai hon yn gyfrol dipyn mwy deniadol pe bai rhagor o ddarluniau ynddi. Byddai hynny wedi ychwanegu at y pris, wrth gwrs, ond mae angen lluniau y dyddiau yma yn arbennig i apelio at y genhedlaeth iau. Efallai mai apêl yw hwn am gael fersiwn estynedig, clawr caled, hefyd! Heb os nac oni bai mae hon yn gyfrol y dylai unrhyw berson sydd am ddeall un o agweddau pwysicaf datblygiad gwyddoniaeth gyfoes ei darllen. Rhoddodd dipyn i mi feddwl amdano beth bynnag. I. ap G. Animal Physiology-Adaptation and Environment, gan Knut Schmidt-Nielsen, pedwerydd argraffiad; Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1990; ISBN 0 521 38196 7. Pris: £ 20.00. Un o sylfeini swoleg fel pwnc yw anatomeg, y llall yw ffisioleg. Rhaid i bob myfyriwr ddod i ddeall egwyddorion sylfaenol ffisioleg os yw am ddechrau gwybod sut y mae anifeiliaid yn gweithio. Nid pob gwerslyfr sy'n dechrau o egwyddorion sylfaenol, ond dyma un sy'n gwneud hynny'n llwyddiannus. Mae'n werslyfr deniadol ac yn gyfeirlyfr heb ei ail. Diffinnir y pwnc, yna ceir trafodaeth fanwl o egwydd- orion sylfaenol pwysigrwydd ocsigen i'r corff. Yna ceir adran sy'n deilio gyda bwyd ac ynni a ddilynir gan drafodaeth o bwysigrwydd tymheredd. Mae deall nod- weddion dwr yn sylfaenol i unrhyw drafodaeth o ffisioleg a cheir yma adran gyfan ar y pwnc. Yna, pan fydd y darllenydd wedi deall yr egwyddorion sylfaenol ceir ymdriniaeth o symudiad, rheolaeth a'r synhwyrau gydag atodiadau defnyddiol yn cynnwys gwybodaeth am unedau mesur, dulliau ystadegol, thermodynameg, paratoi toddian- nau ac osmosis yn ogystal â chrynodeb o ddosraniad yr anifeiliaid. Mae mynegai cynhwysfawr yn rhan bwysig o lyfr o'r fath ac mae un da iawn i'w gael yma. Mae bron i chwe chant o dudalennau i'r llyfr hwn, ac eto llwyddwyd i gadw ei bris ar lefel rhesymol. Gwnaed hyn, yn amlwg, drwy aberthu ychydig ar safon y ffotograffau ynddo. Mae hyn oherwydd safon y papur a ddefnyddiwyd. Er hynny mae safon y diagramau ac ati ynddo'n arbennig o dda a pherthnasol. Hawdd iawn yw canfod llyfrau ble mae'r arddull yn drwm ac anodd ei ddilyn, a gwnaed ymdrech amlwg yma i sicrhau nad un felly yw'r gyfrol hon. Mae'n rhwydd i'w darllen ac yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar bob agwedd o'r pwnc. Addasiad yw hwn o'r gwreiddiol a olygwyd ac addaswyd bedair gwaith er 1975. Diweddar- wyd y cynnwys a'r diwyg ac mae'n anodd meddwl am well gwerslyfr ar y pwnc. Mae'n addas i'r myfyriwr yn ogystal ag i unrhyw berson arall sydd am wybod rhagor am ffisioleg. I. ap G.